Burry Holms
(Llun © Hawlfraint y Goron : CBHC)


Mor Hafren  

 

Bae Lerpwl   

 

Ardaloedd Cymeriad y Dirwedd

Nododd Prifysgol Birmingham saith ar hugain o ardaloedd cymeriad y dirwedd danfor, pedair ar ddeg ym Môr Hafren a thair ar ddeg ym Mae Lerpwl. Mae’r ardaloedd cymeriad hyn yn seiliedig ar y nodweddion tirwedd unigol a’r ardaloedd tirwedd bras a nodwyd yn ystod dadansoddi’r data. Aseiniwyd gwerth tirwedd archaeolegol/hanesyddol posibl bras i bob ardal o isel i uchel. Yn y rhan fwyaf o achosion dylid ystyried y gwerthoedd hyn yn rhai dros dro a bydd angen eu haddasu wrth i fwy o ddata fod ar gael. Er y dangosir yr ardaloedd cymeriad fel rhai ag ymylon caled, dylid ystyried y ffin rhwng yr ardaloedd yn barth newid, a gaiff ei fireinio o bosibl yn y dyfodol.

Cliciwch ar un o'r ardaloedd ar y mapiau i agor bocs gyda gwybodaeth bellach am yr ardal honno. Cliciwch ar y groes yn y gornel uchaf ar y dde i gael gwared o'r bocs.


 

English