Pa fath o le oedd y tiroedd coll hyn?
Mae’r gwaith mapio a wnaed gan Brifysgol Birmingham yn ein caniatâu
am y tro cyntaf i weld y tiroedd a gollwyd y tu hwnt i arfordir modern Prydain – tirwedd
sy’n cynnwys bryniau isel, cwysi afonydd symudol, gwastatiroedd, morfeydd a llynnoedd.
Gellir ychwanegu gwybodaeth fanwl am y dirwedd hon o ganlyniad i astudiaethau amgylcheddol
a wnaed ar safleoedd rhwng y llanw. Cafodd newidiadau yn yr hinsawdd ddylanwad mawr ar y
dirwedd ac ar lystyfiant. Wrth i’r llenni rhew gilio, credir y byddai’r ardaloedd
bas hyn yn ymdebygu i weirdiroedd di-goed Siberia heddiw. Wrth i’r tymheredd godi,
gorchuddiwyd yr ardaloedd bas â gwlyptiroedd corsiog, lle tyfai coedwigoedd pinwydd
a bedw a ddaeth ymhen amser yn holl bresennol. Tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, gorchuddiwyd
Prydain gan goed hyd at linell tua 2,000 o droedfeddi neu’n uwch. Datgelodd archwiliadau
yn Bouldnor Cliff, lleoliad Mesolithig tan ddwr cyntaf Prydain, 11m o dan wyneb y Solent
oddi ar Ynys Wyth, amgylchedd a newidiodd yn ystod y cyfnod; fforestydd pinwydd yn troi’n
dderi a chyll a ffurfio morfeydd cyn i’r boddi llwyr ddigwydd. Cofnododd yr Athro
Martin Bell dystiolaeth fod fforestydd deri Mesolithig yn bodoli tua 7,800 o flynyddoedd
yn ôl yn safle archeolegol Dwyrain Goldcliff, ym Morfa Hafren. Bellach gwelir y safle
mewn ardal rhwng y llanw, ond tua 7,500 o flynyddoedd yn ôl fe’i lleolwyd ar
ymyl ynys greigiog a amgylchynwyd yn ei thro gan fforest yna cynefin gwlyptirol cyfnewidiol,
weithiau’n gors frwynog, cors goedwig neu forfa gyda môr mawr ar adeg y llanw.
Dengys samplau paill, trychfilod a phlanhigion o ardal y fforest a foddwyd fod y goedwig
wedi sefydlu mewn ardal a arferai fod yn gors agored o frwyn a hesg. Wrth i arfordir Cymru
gilioi’r fan lle mae heddiw, yn fras, byddai cynefin y ffiniau arfordirol hyn yn gors
frwynog, yn fawnog ac yn goedwig cyn bod yn lan môr, mwd aber neu arfordir creigiog.
|