Y Cyfnod Mesolithig yng Nghymru
Roedd y cynhesu a ddigwyddodd i’r hinsawdd ac anododd ddiwedd yr
Oes Ia ddiwethaf, ryw 12,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi peri i’r llenni ia doddi’n
araf gan godi lefel y môr a boddi ardaloedd eang o dir isel yn raddol bach gan achosi
i Brydain gael ei rhannu oddi wrth weddill Ewrop. Oherwydd yr hinsawdd fwynach a’r
newidiadau a achosodd hynny i lystyfiant yn ystod y cyfnod, galluogodd hyn i helwyr a lloffwyr
Mesolithig fanteisio ar adnoddau tir a môr, ac mae’n debyg y gwelwyd ymsefydlu’n
digwydd yn bennaf o gwmpas yr arfordiroedd a’r dyffrynnoedd. Serch hynny, ceir rhywfaint
o dystiolaeth fod pobl wedi defnyddio’r ucheldiroedd yn ystod y cyfnod Mesolithig
cynnar, megis yn Waun Fignen Felen ym Mannau Brycheiniog. Dengys y map o’r safleoedd
Mesolithig Cymreig y gwyddom amdanynt fod lleoliadau wedi’u canolbwyntio o gwmpas
yr arfordiroedd, yn enwedig y de a’r gogledd, gan awgrymu bod arfordir Cymru yn cynnig
cyfoeth o fwyd a hanfodion byw eraill. Mae’r lleoliadau arfordirol hyn yn cynnwys
y safle Mesolithig cynharaf yng Nghymru, yn y Nab Head, Bae Sain Ffred, tua 10,500 o flynyddoedd
yn ôl.
Ymhen amser, parodd y codiad yn lefel y môr i’r helwyr a lloffwyr
symud i gynefinoedd newydd ac addasu iddynt. Yn y cyfnod Mesolithig diweddarach, ceir tystiolaeth
fod mwy a mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o diroedd uchel, fel y gwelir yn y safleoedd hela
tymhorol tybiedig o gwmpas Llyn Brenig, Sir Ddinbych. Credid ers tro mai natur grwydrol
y bywyd Mesolithig, fel y cyfnod Paleolithig, oedd yn gyfrifol fod cyn lleied o safleoedd
sefydlog wedi’u lleoli yng Nghymru ac, yn wir, ledled Ynysoedd Prydain; yn bendant,
ni cheir yr un enghraifft o dy yng Nghymru. Serch hynny, daethpwyd o hyd i ‘safleoedd
gwaith’ wrth gloddio, lleoliadau ar gyfer prosesu bwyd neu wneud offer, fel yn y Nab
Head ym Mae San Ffred yn Sir Benfro. Mewn gwrthgyferbyniad, llwyddodd gwaith maes mewn ardaloedd
eraill ym Mhrydain adnabod anheddau Mesolithig yn Howick, Northumberland, ac mor ddiweddar
â 2010 yn Star Carr, Gogledd Swydd Efrog, lle cofnodwyd y ty Mesolithig hynaf yn Ynysoedd
Prydain o bosib, a adeiladwyd rhyw 11,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y ty yn mesur
tua 3.5 metr ar draws ac wedi’i gynnal gan gylch o byst pren. Defnyddiwyd y ty dros
gyfnod maith, efallai cymaint â 500 mlynedd. Mae’r safle wedi ildio llawer mwy
o eiddo nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan griw o helwyr a lloffwyr oedd ar grwydr drwy’r
amser. Mae’r eiddo yn cynnwys rhwyf cwch, gleiniau, blaenau saethau a phenwisg corn
carw, gan awgrymu bod defodau wedi datblygu ochr yn ochr â bywyd domestig.
|