Olion traed mewn tirwedd fyw
Dangosodd gwaith Prifysgol Birmingham y potensial a gynigir gan astudio’r
tiroedd coll hyn ar gyfer deall yn well fywydau ein cyndadau cynhanesyddol. Nid tiroedd
pontio na chynefinoedd anial oedd yr ardaloedd hyn, ond yn hytrach diroedd byw lle byddai
pobl yn hela, yn lloffa yn chwarae ac yn ymgartrefu.
Ceir cyswllt rhyfeddol o uniongyrchol i’r bobl hyn mewn olion troed
a gadwyd mewn safleoedd arfordirol megis Formby Point, yng ngogledd-orllewin Lloegr, Dwyrain
Goldcliff yn Aber Hafren, a Lydstep, Sir Benfro. Cofnodwyd dros 200 o lwybrau traed dynol,
llawer ohonyn yn dyddio o’r Mesolithig ddiweddar, yn Formby Point. Amlygir bodolaeth
grwpiau teuluoedd Mesolithig oherwydd olion eu traed yn Nwyrain Goldcliff, yn dyddio’n
ôl mor gynnar â rhyw 7,500 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth fod nifer
fawr o blant yn bresennol, efallai’n rhoi help llaw i’r oedolion loffa am fwyd
môr, a hefyd yn chwarae. Cofnodwyd olion traed anifeiliaid, gan gynnwys carw, bual,
blaidd a garan. Ymddengys nad perthynas anymyrrol oedd gan y bobl hyn â’u hamgylchedd.
Awgryma pentyrrau a phydewau o gregyn, sawl un ohonynt yn cynnwys olion dynol, a gofnodwyd
ar hyd glannau Aber Hafren ac mewn safleoedd megis Prestatyn ar arfordir Bae Lerpwl eu bod
yn defnyddio adnoddau lleol dros gyfnodau hir, hyd yn oed os oedd hynny’n digwydd
yn dymhorol. Awgryma tystiolaeth amgylcheddol fod coedwigoedd ac ardaloedd brwynog yn cael
eu llosgi’n rheolaidd, er ei bod yn dal yn bwnc dadleuol ai yn fwriadol ai peidio
y gwnaed hyn. Y naill ffordd neu’r llall, roedd yn gymorth i greu cynefin addas ar
gyfer anifeiliad oedd yn pori ac er mwyn cael mynediad haws at ddwr.
|