Burry Holms
(Llun © Hawlfraint y Goron : CBHC)


Mor Hafren


Bae Lerpwl

 

Ardaloedd Rheoli

Diffiniwyd yr ardaloedd a ddangosir ar y mapiau hyn gan gyfuno ardaloedd cymeriad y dirwedd ac ardaloedd potensial ar gyfer dyddodion yn goroesi. Cafodd sgôr arwyddocâd ar gyfer pob ardal reoli ei gyfrifo drwy gyfuno’r gwerth a aseiniwyd i’r ardaloedd cymeriad y dirwedd a’r gwerth a aseinwyd i’r ardaloedd potensial ar gyfer goroesi. Trefnir y sgoriau arwyddocâd o isel i uchel ac fe’u cynlluniwyd i roi cyfeiriad cyflym i bwysigrwydd posibl unrhyw ardal, er enghraifft, byddai sgôr isel â photensial canolig ar gyfer tirwedd archaeolegol/hanesyddol a photensial isel ar gyfer goroesi, byddai gan sgôr uchel iawn botensial uchel ar gyfer tirwedd archaeolegol/hanesyddol a photensial uchel ar gyfer goroesi.

Mae sgoriau arwyddocâd yn frasamcan; oherwydd ar gyfer y rhan fwyaf o ardaloedd mae angen mwy o ddata. Er mwyn cynorthwyo cynllunwyr a rhai eraill sy’n ymwneud â’r amgylchedd morol darperir canllawiau bras ar gyfer pob ardal reoli.

Yn debyg i rai mapiau blaenorol, dylid ystyried y ffin rhwng ardaloedd rheoli yn barth newid eang, a gaiff ei fireinio o bosibl yn y dyfodol.

Noder: Cafodd yr ardaloedd rheoli hyn eu cynllunio yn bennaf ar gyfer defnydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, ond mae’n eithaf posibl y bydd yr egwyddorion cyffredinol maent yn eu cynrychioli yn briodol ar gyfer defnyddwyr cyfatebol yn Lloegr.

Cliciwch ar un o'r ardaloedd ar y mapiau i agor bocs gyda gwybodaeth bellach am yr ardal honno. Cliciwch ar y groes yn y gornel uchaf ar y dde i gael gwared o'r bocs.


 

English