Penglog arth frown o Ogof Pontnewydd
(Llun Amgueddfa Cymru)

 

OGOF PONTNEWYDD
Daethpwyd o hyd i’r olion dynol hynaf yng Nghymru, yn dyddio o ryw 230,000 mlynedd yn ôl, yn Ogof Pontnewydd, Dyffryn Elwy yn Sir Ddinbych. Wrth gloddio yno rhwng 1978 a 1985, darganfuwyd dannedd dynol a berthynai i sawl Neanderthal cynnar, yn oedolion a phlant.

 

 

Archeolegwyr yn gwneud arolwg yn ystod cloddio yn Ogof Pontnewydd
Dannedd Neanderthal a ganfuwyd yn Ogof Pontnewydd
(Lluniau Amgueddfa Cymru)

 

Paleolithig – y dynion cynharaf

Ar ôl darganfod creiriau fflint ac esgyrn wedi’u bwtsiera ym mhrosiect Happisburgh yn Norfolk, sylweddolwyd fod homininiau (cyn-ddynion) wedi bodoli ym Mhrydain yn ystod y Paleolithig cynnar, o bosib rhwng 800,000 – 900,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma’r darganfyddiadau hynaf o’u bath hyd yma yng ngogledd Ewrop, ac maen nhw’n dod o ddyddodiad rhyngrewlifol (cyfnod o dywydd cynhesach) ynghyd agolion o blanhigion ac anifeiliaid sy’n dangos mai hinsawdd debyg i un Sgandinafia, gyda fforestydd bythwyrdd a phaith, oedd yma ar y pryd. Roedd yr homininiau cynharaf hyn yn byw ochr yn ochr â mamothiaid, llewod a hienas.

Daw’r dystiolaeth gynharaf sydd gennym yng Nghymru am ddynion cynnar, neu Neanderthal, o’r cyfnod Is Baleolithig diweddar. Er eu bod yn perthyn i’r un genws, Homo, â ni, roedden nhw’n wahanol iawn ac mae’n debygol nad oedden nhw wedi addasu cystal â dynion modern i’w hamgylchfyd cyfnewidiol. Wrth i’r ia gilio, symudodd dynion a merched Neanderthal tua’r gorllewin i hela, a chawsant gysgod yng Nghymru mewn ogofâu calchfaen, megis Ogof Pontnewydd yn Sir Ddinbych, lle roedd pobl yn byw tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl ynghanol cyfnod rhyngrewlifol, ac Ogof Coegan yn Sir Gaerfyrddin, lle darganfuwyd bwyelli llaw Neanderthal diweddar (60,000–35,000 o flynyddoedd yn ôl).

Offer fflint Paleolithig o Ogof Pontnewydd
(Llun Amgueddfa Cymru)

 

English