MÔR HAFREN - CANLYNIADAU A THREFN BODDI
Paleolithig
Dyffryn go fas wedi’i amgylchynu i’r naill ochr a’r llall
gan diroedd uwch, a ddoi yn y man yn Wlad yr Haf, Dyfnaint a de Cymru oedd tirwedd Baleolithig
Môr Hafren. Mae cwysi a chyfres o bantiau yn y gwastatir yn awgrymu fod afonydd yn
llifo oddi ar y bryniau cyfagos gan lifo i lynnoedd ac yna tua’r gorllewin i’r
arfordir pellennig, gilometrau lawer i’r de-orllewin o Benfro. Byddai’r llynnoedd,
yr afonydd a’r gweirdiroedd wedi rhoi adnoddau amrywiol i’r cymunedau Paleolithig.
Efallai y gallent fod wedi manteisio ar yr arfordir pell yn ystod tymor y gaeaf, pan nad
oedd cymaint o fwyd arall ar gael. Defnyddid ogofâu megis Pen-y-fai ar Benrhyn Gwyr,
i gysgodi ac efallai ar gyfer cael gorolwg o’r tir wrth hela.
Mesolithig
Wrth i lefelau’r môr godi, a’r arfordir yn nesâu,
ffurfiodd Ynys Wair bentir yn ymwthio i Fôr Hafren newydd. Er gwaetha’r boddi,
roedd hi’n dal yn bosib i’r cymunedau oedd yn byw yn yr ardal ddefnyddio rhannau
helaeth o’r ardal astudio ond byddai’r newid yn natur y dirwedd yn amlwg i gymunedau
Mesolithig. Byddai rhai ardaloedd wedi boddi’n gyflym ond crëwyd clytwaith o
gilfachau ecolegol cymhleth, gan gynnwys ardaloedd gweldig o wlypdir cyfoethog. Ymhen amser
torrwyd y cyswllt tir rhwng Lloegr a Chymru, gan adael y tiroedd hynny a ystyriwyd yn dir
uchel, megis Ynys Wair, uwch lefel y dwr. Byddai safle flaenllaw Ynys Wair wedi bod yn lleoliad
perffaith i wylio am greaduriaid i’w hela, a byddai’n rhoi mynediad i adnoddau’r
ardaloedd rhwng y llanw, morfa a thir sych fyddai’n cynhyrchu bwyd a deunydd crai
y gallent eu casglu ynghyd â digon o gyfleoedd i hela.
|