Gemau Daearegol

Ei Arbed Mewn Pryd!

Cadw ein treftadaeth ddiwydiannol

Er bod y garreg galch yn Chwarel Herbert yn gwisgo’n dda, a bod y gorchudd mawn yn amddiffyn ac yn dal at ei gilydd llawer o’r olion sy’n dal gyda ni o’r diwydiant calch, mae rhai o’r odynnau calch dipyn yn fwy bregus.

 

Unwaith y bydd ychydig o ddifrod yn gadael y tywydd i mewn, bydd y difrod yn gwaethygu’n fuan iawn.

 

 

 

Yn y pen draw, bydd yr odynau'n cwympo a chwyn yn tyfu drostyn nhw. Wrth i amser fynd yn ei flaen bydd tystiolaeth am y diwydiant calch yn diflannu'n llwyr.

 

Drwy atgyweirio rhai o'r adeiladwaithau sy'n goroesi gallwn ni nawr sicrhau bod y rhan hynod ddifyr a phwysig hon o'n treftadaeth ddiwydiannol yn goroesi i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.

 

Gyda rhai atgyweiriadau wedi'u cwblhau, bydd yr odynau mwy o faint yn goroesi am flynyddoedd lawer.

 

Mae rhai o'r odynau eraill wedi dirywio'n ormodol ac mae'n well gadael llonydd i'r rheini.

 


Model tir digidol o Chwarel Herbert


Delwedd tir wedi’i harlliwio o’r un ardal


Delwedd 'model goledd' o'r chwareli

Arolwg y Chwarel

Er mwyn penderfynu pa odynau oedd yn bwysig i achub, ac i benderfynu pa waith atgyweirio oedd angen, roedd yn rhaid i ni wneud arolwg llawn o'r safle cyfan.

Mae arolwg o’r awyr wedi ei wneud o Chwarel Herbert gyda thechneg sy’n defnyddio laserau o’r enw LiDAR (Light Detection and Ranging - Canfod a Mesur gyda Golau). Y canlyniad yw map cyfuchlin manwl ianw wedi ei wneud allan o 8,757,573 o bwyntiau LiDAR!

Ar ei ben ei hun gall yr arolwg Lidar fod yn anodd i'w ddeall ond drwy ddefnyddio cyfrifiaduron gall y data LiDAR ei arddangos mewn ffyrdd gwahanol i'w wneud yn hawsach i'w ddeall.

 

Gallwn hefyd daenu ffotograff o’r awyr dros yr arolwg LiDAR er mwyn cynhyrchu delwedd 3D o’r safle.

Gallwn ddefnyddio’r olwg hon o’r awyr i’n helpu i ddeall y safle cyfan.

Drwy gymharu’r safle fel ag y mae heddiw gyda hen fapiau o’r un ardal gallwn weithio allan sut mae’r safle wedi newid dros y blynyddoedd, a pha rannau yw’r rhai hynaf.

Drwy gyfuno'r holl wybodaeth rydym ni wedi gallu creu cynllun digidol ar gyfrifiadur o Chwarel Herbert. Gellir defnyddio hwn i ddangos sut mae'r chwareli a'r odynau wedi datblygu dros amser, a sut mae'r system ffyrdd yn y tirlun o amgylch hefyd wedi newid.

Y cam nesaf oedd gwirio'r sefyllfa wirioneddol drwy wneud 'arolwg tir'...

Arolwg Maes

Bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i wneud cofnod manwl o weddillion y diwydiant calch yn Chwarel Herbert. Yn gyntaf defnyddiwyd ffotograffau o'r awyr ac arolwg LiDAR i wneud cynllun o'r ardal, gan osod lleoliadau Chwareli, odynau, adeiladau, pentyrrau gwastraff, ffyrdd a thraciau.

 

Nesaf wynebon ni'r elfennau a threulio rhai dyddiau'n crwydro'r chwareli, gan dynnu lluniau o'r holl odynau, cwblhau ffurflenni cofnodi, creu cynlluniau a gwneud mesuriadau.

 

Hefyd aethom ati i gofnodi'r mathau o friciau ac unrhyw gliwiau eraill y gallem ni ddod o hyd iddyn nhw. Cafodd y fricsen hon ei gwneud yn Bonnybridge yn yr Alban!

 

Mae pob odyn yn gysylltiedig ag ardal benodol yn y chwarel ac mae ganddi ei set ei hun o bentyrrau gwastraff a thraciau. Mae hyn yn awgrymu y gallai'r tirfeddianwyr fod yn prydlesu pob odyn a chwarel ar wahân (Ystad Cawdor).

 

Mae'r arolwg manwl wedi dangos i ni fod odynau a chwareli ar amrywiol lefelau i fyny'r llechwedd, yn debyg i chwareli eraill i'r gorllewin. Mae llawer o'r gweithiau cynharach wedi'u dinistrio neu eu claddu gan chwareli a thipiau gwastraff diweddarach yn uwch i fyny'r llethrau. Yn y ffotograff hwn, mae odyn bron wedi'i chladdu'n llwyr dan bentwr gwastraff. Mae olion o leiaf 36 odyn ar y safle.

 

O gwmpas ymylon y chwarel, mae rhai olion o weithiau cynharach yn dal i oroesi. Mae'r ffotograff hwn yn dangos fod y pridd wedi'i balu ymaith i ddatgelu brigiad o galchfaen. I'r chwith gwelir wyneb y chwarel fodern.