Datblygwyd yr adnodd addysgol gan athro
cymwysedig i weithio gyda Chyfnod Allweddol
2 a 3, gyda chymaint o gysylltiadau â phosibl â'r
cwricwlwm .
Mae'r adnoddau dwyieithog a gynhyrchwyd
yn rhoi sylw i Hanes, Celf, Daearyddiaeth,
Gwyddoniaeth a Saesneg, a chyfleoedd i
fynd ar deithiau maes i'r Mynydd Du gyda
mapiau a gwybodaeth asesiad risg. Mae gan
bob pwnc bedwar cynllun gwers gyda thaflenni
gwaith a chyflwyniadau PowerPoint, gyda
gwaith estynnol i'r mwyaf abl a thalentog
a gwaith addasedig i ddisgyblion gydag
anghenion addysgol ychwanegol. Er yr anelir
yr adnoddau at Gyfnodau Allweddol 2 a 3
hyn, gellir eu newid yn hawdd at anghenion
unigol.
“Gafaelodd y ffordd
y trefnwyd yr ymweliad yn niddordeb y
plant yn syth. Roedden nhw'n gofyn cwestiynau
ac fe'i galluogwyd i ddarganfod pethau
drostyn nhw eu hunain... Profiad gwerth
chweil a phleserus i ddisgyblion a staff.
Elwodd y disgyblion gymaint ar y profiad.
Fe wellodd eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth,
a datblygwyd ystod eang o sgiliau. Ardderchog.”
(Athro
o Ysgol Tycroes)