Ar ochr y mynydd ar ymyl gorllewinol parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ceir tirlun rhyfeddol o glogwyni garw, twmpathau a chnyciau glaswelltog, ac adfeilion enigmatig. Am dros 200 o flynyddoedd roedd y safle hardd hwn yn ferw o weithgaredd diwydiannol, lle'r oedd calchfaen yn cael ei gloddio a'i brosesu i greu calch.

Roedd CALCH yn brosiect tair blynedd o hyd i geisio ymchwilio diwydiant calch y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin ac i wella mynediad a dehongli er mwyn annog ymwelwyr newydd i'r ardal.

Archwiliwch y wefan hon er mwyn darganfod mwy am y prosiect, hanes y diwydiant calch a llawer o bethau diddorol iawn eraill am galch!