Gemau Daearegol

Dewch i ddarganfod rhai o agweddau diddorol iawn Chwarel Herbert!

Dysgwch am yr hanes, y ddaeareg a bywyd gwyllt y safle.


Mynedfa i un o’r odynnau cynharaf ar y safle


Un o’r odynnau diweddaraf, wedi ei wneud o goncrid

 

CHWAREL HERBERT : TIRNOD TREFTADAETH DDIWYDIANNOL

Mae Chwarel Herbert yn rhan o SoDdGA Mynydd Du (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a Thirwedd Gofrestredig o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru Mynydd Du a Mynydd Myddfai.

Mae hefyd o fewn Geoparc y Fforest Fawr. Mae'r chwareli wedi eu cydnabod fel RIGS (Safle Daearegol a Geomorffaidd Pwysig Rhanbarthol), ond mae’r dreftadaeth archaeolegol a diwydiannol ar y safle wedi denu llawer llai o sylw hyd yn hyn.

Mae wyneb trawiadol y chwarel a’r dirwedd sy’n frith o odynnau cerrig, chwareli a thipiau gwastraff Chwarel Herbert yn destament lleol i ddatblygiad Cymru fel gwlad ddiwydiannol. Mae’r safle yn unigryw i Dde Cymru, ac o bosibl ymhellach na hynny, am fod yr odynnau calch a’r chwareli yn cofnodi twf a dirywiad y diwydiant llosgi calch ar y Mynydd Du am o leiaf 200 o flynyddoedd.

Wrth i’r galw am galch a charreg calch mewn diwydiant ac amaethyddiaeth dyfu, newidiodd y dulliau cynhyrchu, o’r ecsbloetiaeth cyn-ddiwydiannol i’r diwydiannu llawn.

Yn wahanol i ardaloedd cynhyrchu calch eraill lle gellid adeiladu camlesi a thramffyrdd, dim ond cludiant ar y ffordd oedd yn gwasanaethu Chwarel Herbert. Roedd y fasnach galch yn ffactor yn y datblygu ar ffyrdd tyrpeg ac mae’r rhwydwaith o draciau a ffyrdd dros y mynydd wedi ei gysylltu’n agos â’r gweithgaredd yn Chwarel Herbert.