Gemau Daearegol

Rhyfeddodau Natur

Er nad yw Chwarel Herbert wedi ei chydnabod eto am bwysigrwydd ei holion diwydiannol, mae’r safle yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) y Mynydd Du. Mae’r statws hwnnw yn adlewyrchu ei bwysigrwydd cenedlaethol o ran daeareg, ffurfiau tir, llystyfiant a bywyd gwyllt. Ond yr hyn sy'n gwneud y safle hwn yn arbennig yw na fyddai llawer o'r bywyd gwyllt sy'n gwneud y lle'n bwysig ddim yma o gwbl oni bai am yr olion diwydiannol!


 

Mae amgylchedd y garreg galch yn cynnal amrywiaeth o blanhigion anarferol sydd wedi addasu i'r amgylchedd, fel y Toddiaid pryfysol hyn. Ymhlith y planhigion diddorol eraill sy'n hoffi'r amgylchedd gwlyb ac alcali mae mwsoglau, rhedyn a ffyngau megis cap cwyr a thafod y ddaear.

Mae Chwarel Herbert hefyd yn Safle Daearegol Pwysig Rhabarthol (RIGS ), sy'n gartref i ffurfiant mwynol prin ac enigmatig o'r enw 'Twffa'.

 

Twffa

Ar ddiwrnod gwlyb iawn yn ystod ein harolwg, cawsom ymweliad gan Louis Emery o Brifysgol Caerdydd. Cyflwynodd ni i fyd rhyfeddol 'Twffa', ffenomen ryfedd sy'n digwydd yn Chwareli'r Mynydd Du!

 

Fel arfer caiff twffa ei ganfod mewn ogofâu tanddaearol yn unig (megis ogofau Dan yr Ogof). Oherwydd set unigryw o amgylchiadau, yn Chwarel Herbert mae twffa wedi ffurfio uwchben lefel y ddaear! Wrth i ddwr godi o dan ddaear mae'n golchi drwy'r tipiau gwastraff sydd wedi'u gadael yn sgil gwneud calch, ac mae'n amsugno calsiwm hydrocsid(Ca(OH)2). Mae hyn yn gwneud y dwr yn alcalin iawn (cymaint â Ph12!). Wrth iddo gyrraedd yr wyneb mae'r dwr alcalin yn adweithio gyda'r Carbon deuocsid o'r aer ac mae'r calsiwm hydrocsid yn troi'n garbonad calsiwm soled (CaCO3) a elwir hefyd yn galsit.

 

Nid yw twffa fel arfer yn ffurfio yn y modd hwn. Yn arferol mae'r dyfroedd alcalin yn rhyddhau CO2 wrth gyrraedd yr wyneb. Mae hyn yn cynyddu'r alcalinedd, ond yn lleihau hydoddedd y carbonad sydd felly'n 'grisialu'.

Gan fod y broses hon wedi parhau dros y canrifoedd, mae'r calsiwm carbonad wedi creu amrywiaeth o ffurfiau mwynol prydferth.