Cartref > Tirweddau Haneyddol >

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Tyddewi

Dyffryn Cothi Cefn Branddu DYFFRYN FANAGOED ALLT-Y-HEBOG ALLT Y BERTH MYNYDD MALLÁEN CAEO FOREST BANC LLWYNCEILIOG DOLAUCOTHI GOLD MINES 253 DYFFRYN COTHI CAEO DOLAUCOTHI - PUMPSAINT 285 Penmaendewi 286 Porthmawr 287 Tywyn 288 Treleddyd - Tretïo - Caerfarchell 285 Penmaendewi 290 Pwll Trefeiddan 289 Treleddyn - Treginnis 300 Porth Clais 292 St Nons - Llandridian 291 Dyffryn Alun 294 Tyddewi 295 Warpool 292 St Nons - Llandridian 297 Waun Caerfarchell 296 Maes awyr Tyddewi 293 Comin Dowrog - Treleddyd - Tretïo 298 Y Felinganol 299 Caerforiog 302 Ynys Dewi 301 Caer Llundain - Caer Ysgubor 303 Ynys Selyf - yr Hen Fferm 304 Ynys Selyf 304 Ynys Selyf Cynghordy Llangathen Nantgaredig - Derwen Fawr Llanarthne The National Botanic Garden of Wales Llangunnor Ystrad Carmarthen Croesyceilog - Cwmffrwd Abergwili - Llanegwad Parish Carmarthen Tywi Tidal Flood Plain Llangynog Llanfihangel Aberbythych Llandeilo Dryslwyn Dinefwr Park Allt Tregib Ystrad Tywi Garn Wen Carn Goch Garn Wen Craig Ddu Felindre Abermarlais Llansadwrn - Llanwrda Llandovery Cefngornnoeth Maes Gwastad Ystrad Tywi: Llangadog-Llandovery Llanwrda Parish Llandovery Llwynhowell Maesllyddan Fforest Nant-y-Ffin Nant y ffin Craig ddu Dinas Craig y Bwlch Cilycwm Rhandirmwyn

Crynodeb yw hwn, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

285 Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Penmaendewi ar ben eithaf gorllewinol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel sy'n disgyn i'r môr a rhostir agored sy'n ymestyn i gopa Carn Llidi sydd ryw 180m o uchder. Ar y rhostir ceir olion cynhanesyddol, gan gynnwys caer bentir, siambrau claddu a systemau caeau.

285

286 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porthmawr yn dirwedd foel lle ceir ffermydd a chaeau gwasgaredig. Waliau cerrig sych yw'r prif fath o ffin derfyn. Ni cheir llawer o wrychoedd, ac mae'r rheini sydd yma yn isel ac yn wasgarog. Defnyddir y tir gan fwyaf fel tir pori wedi'i wella. Ceir yma safleoedd gwersylla a pharciau carafannau. Un o nodweddion y dirwedd hon yw'r ffermydd pâr ar lethrau deheuol Carn Llidi. Ceir amrywiaeth mawr o fathau o anheddau. Carreg yw'r prif ddeunydd adeiladu.

286

287 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tywyn yn cynnwys ardal o dywod chwyth Porth Mawr. Tir comin ydoedd tan 1869 pan y'i hamgaewyd gan Ddeddf Seneddol. Ceir system o dwyni tywod ar hyd yr arfordir gyda glaswelltir yn gorchuddio'r tywod chwyth yn yr ardaloedd mewndirol. Lleolir cwrs golff, gwesty, tai modern, maes parcio a chyfleusterau twristiaeth eraill yn yr ardal hon.

287

288 Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyd - Tretïo - Caerfarchell ar dir amaethyddol ffrwythlon ar ochr ogleddol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys caeau, pentrefannau bach a ffermydd gwasgaredig. Mae'r anheddau yn draddodiadol wedi'u hadeiladu o gerrig ac yn amrywio o ran dyddiad ac arddull o'r tai isganoloesol a thai Sioraidd i fythynnod yn dyddio o'r 19eg ganrif. Mae adeiladau amaethyddol mawr modern yn elfen gref yn y dirwedd. Mae gwrychoedd gwasgarog, isel i'w cael ar ben y cloddiau terfyn. Ceir yma safleoedd gwersylla a pharciau carafannau ond defnyddir y tir gan fwyaf fel tir pori wedi'i wella gyda pheth tir âr. Tirwedd foel heb goed ydyw.

288

289 Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyn - Treginnis ar gyrion gorllewinol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr a thirwedd amaethyddol o gaeau bach, cerrig brig tebyg i foelydd a ffermydd gwasgaredig. Mae ffermydd wedi'u clystyru mewn grwpiau a leolir yng nghysgod y moelydd. Yn draddodiadol mae'r adeiladau wedi'u codi o gerrig ac yn amrywio o dai isganoloesol a thai Sioraidd i fythynnod sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir cymysgedd o dir pori, tir âr a thir pori garw yma. Tirwedd foel heb goed ydyw. Cer yma safleoedd gwersylla a pharciau carafannau.

289

290 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pwll Trefeiddan yn cynnwys tir comin gwlyb agored gydag ardal helaeth o ferddwr.

290

291 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dyffryn Alun yn cynnwys ochrau serth dyffryn cul sydd wedi'u gorchuddio â phrysgwydd. Mae llawr y dyffryn yn dir pori neu'n gors. Mae'r gwrychoedd ar y cloddiau ffiniau ar waelod y dyffryn wedi'u gadael ac nis defnyddir rhagor. Lleolir gwaith trin carthion yma.

291

292 Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol St Nons - Llandridian ar gyrion deheuol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr a thirwedd o gaeau bach a ffermydd gwasgaredig. Yn draddodiadol, mae'r adeiladau wedi'u codi o gerrig, ac mae'r rhan fwyaf o'r tai yn dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir sawl safle gwersylla a pharc carafannau yn yr ardal ond defnyddir y tir gan fwyaf ar gyfer tir pori a rhywfaint o dir âr. Mae'r gwrychoedd sy'n goroesi ar y cloddiau terfyn pridd a charreg yn isel ac yn wasgarog. Tirwedd foel heb goed ydyw.

292

293 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Comin Dowrog - Treleddyd - Tretïo yn cynnwys tir comin gwlyb a chorslyd.

293

294 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tyddewi yn cynnwys dinas Tyddewi. Mae'n cynnwys clos yr eglwys gadeiriol - Eglwys Gadeiriol Tyddewi, hen Lys yr Esgob ac adeiladau cysylltiedig - craidd y ddinas ganoloesol a datblygiadau modern ar y cyrion. Yn draddodiadol, mae'r adeiladau wedi'u codi o gerrig. Y tu allan i glos yr eglwys gadeiriol, ceir amrywiaeth mawr o fathau o adeiladau, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.

294

295 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Warpool wedi'i lleoli ar draws hen system o gaeau agored o amgylch Dinas Tyddewi. Nodweddir yr ardal hon gan lain gaeau cul wedi'u hamgáu gan gloddiau a gwrychoedd isel. Mae datblygiadau'r 19eg a'r 20fed ganrif ar gyrion y ddinas wedi meddiannu rhywfaint o'r hen lain-gaeau hyn.

295

296 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Maes Awyr Tyddewi yn cynnwys tirwedd agored o dir pori wedi'i adfer. Erbyn hyn dymchwelwyd pob un o adeiladau'r maes awyr a ddyddiai o'r ail ryfel byd, ond mae darnau byr o'r llwybr glanio concrid a'r ffyrdd gwasanaethu wedi goroesi.

296

297 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Waun Caerfarchell yn cynnwys tir comin gwlyb a chorslyd.

297

298 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Y Felinganol wedi'i lleoli yn nyffryn serth a chul Afon Solfach ac wedi'i lleoli o amgylch pentrefan sef y Felinganol. Yn draddodiadol codwyd yr adeiladau o gerrig, gyda'r rhan fwyaf o'r anheddau yn dyddio o'r 19eg ganrif gydag ambell i dy yn dyddio o'r 20fed ganrif. Lleolir chwarel fawr segur ar ochr y dyffryn sy'n edrych dros y pentrefan. Mae'r defnydd o dir yn cynnwys tir pori ar lawr y dyffryn a choetir a phrysgwydd ar ochrau'r dyffryn.

298

299 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Caerforiog yn cynnwys caeau mawr hirsgwar o dir pori a thir âr wedi'i wella sydd wedi'u rhannu gan gloddiau a gwrychoedd, a ffermydd gwasgaredig. Mae'r gwrychoedd yn isel ac yn wasgarog a thirwedd foel heb goed ydyw. Mae'r ffermydd yn fawr.

299

300 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porth Clais yn cynnwys harbwr bach wedi'i adeiladu o gerrig, ceiau, odynau calch a meysydd parcio wedi'u lleoli mewn cilfach gul ac iddi ochrau serth.

300

301 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Caer Llundain - Caer Ysgubor yn cynnwys ardal rhostir agored bryniog a chreigiog Ynys Dewi ac mae clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr i'w cael ar dair ochr. Ceir olion ffiniau caeau cynhanesyddol yn yr ardal hon. Tirwedd foel heb goed ydyw.

301

302 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Dewi yn cynnwys y rhan ogleddol gysgodol ar Ynys Dewi a rannwyd yn gaeau mawr gan waliau cerrig sych. Mae'n cynnwys fferm sy'n dyddio o'r 19eg ganrif a man glanio. Tir pori yw'r tir gan fwyaf. Tirwedd foel heb goed ydyw.

302

303 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Selyf - yr Hen Fferm wedi'i lleoli yng nghanol Ynys Selyf ac mae'n cynnwys y rhan honno o'r ynys a ffermiwyd yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Ni chaiff y tir ei ffermio bellach ond mae waliau a chloddiau'r hen gaeau a'r hen fferm yn goroesi.

303

304 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Selyf - caeau cynhanesyddol yn cynnwys pob rhan o Ynys Selyf nas ffermiwyd yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Mae clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr yn amgylchynu llwyfandir lle gwelir olion caeau cynhanesyddol ac aneddiadau ar ffurf cloddweithiau a muriau isel. Tirwedd foel heb goed ydyw. Caiff y glaswellt ei gadw'n fyr oherwydd bod cwningod yn pori'r tir dros ran fawr o'r ynys.

304