|
286 PORTHMAWR
CYFEIRNOD GRID: SM741279
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 113.5
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ychydig i'r de o Benmaendewi
ei hun. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu
'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd
i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin
Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o
fewn plwyf Tyddewi, lle'r oedd nifer o isgapeli, a hyd yn oed heddiw mae
iddi dopograffi eglwysig go arbennig, yn ogystal ag arwyddnod pensaernïol
ar wahân ar ffurf ei bythynnod isganoloesol. Mae i'r dirwedd ddefodol
darddiad cynnar. Cofnodwyd siambrau claddu cist yn Nhþ Gwyn, safle y mae
Baring Gould a Fisher yn awgrymu y safai mynachlog gynnar 'Rosnat' - sef
rhagflaenydd Tyddewi ei hun - arno tra enwir Ffynnon Faiddog ar ôl y Sant
Gwyddelig Aedan, un o ddilynwyr Dewi Sant. O 1115 ymlaen, pan benodwyd
Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth
ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref
Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod
systemau tirddaliadaeth Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu
mewn ffyrdd gwahanol, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau
ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Aseswyd yr ardal gymeriad o fewn
maenorau Cantref Cymreig a Chrugheli yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326,
a restrodd ddaliad Porthmawr a'i dþ isganoloesol, diweddarach, a Llaethdy,
lle'r oedd ty tebyg, fel 2 erw a ddelid gan Philip ap Jevan trwy weithred,
a oedd yn werth 4s y flwyddyn, a 4 bufedd a ddelid gan gyd-dentantiaid
ac a oedd yn werth 13s y flwyddyn. Ni chofnodwyd y drydedd dirddaliadaeth
o bwys yn yr ardal, sef Trefelly, cyn 1544. Mae'r patrwm presennol o gaeau
bach, cul, eithaf afreolaidd eu siâp yn nodweddiadol o batrymau amgáu
cynnar ond yma ymddengys ei fod yn perthyn i'r cyfnod ôl-ganoloesol, am
fod hen ffiniau gerllaw Fferm Porthmawr yn amlwg yn cynrychioli llain-gaeau
canoloesol amgaeëdig, sy'n cadarnhau'r gyfundrefn âr a awgrymir yn y Llyfr
Du. Yn ddiau roedd y patrwm presennol o gaeau wedi'i sefydlu erbyn arolwg
degwm 1840; erbyn hyn roedd y cyn-leiniau wedi'u hamgáu, ond nid oeddynt
i gyd wedi'u llwyrfeddiannu, h.y. roeddynt yn dal yn eiddo i nifer o berchenogion.
Ni châi'r ardal gyfan ei ffermio ac roedd dwy ardal o dir comin wedi'u
cofnodi yng Ngharnedd Lleithr a Waun Llaethdy.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porthmawr yn gorwedd ar lethrau
Carn Llidi sy'n wynebu'r de rhwng lefel y môr yn y Porth Mawr ac uchafswm
uchder o ryw 80m. Mae tir amgaeëdig yr ardal hon yn ymdoddi i weundir
agored ar Garn Llidi wrth i'r llethr fynd yn fwy serth ac yn fwy creigiog.
Mae'r caeau bach afreolaidd eu siâp ym mhen gorllewinol yr ardal yn agos
at y môr yn graddol fynd yn fwy o faint ac yn fwy rheolaidd tua'r dwyrain.
Mae rhai o'r caeau hyn yn edrych fel llain-gaeau amgaeëdig. Mewn cyfrwy
rhwng Carn Llidi a Charn Llethr mae caeau hirsgwar yn tueddu ymestyn o'r
gogledd i'r de, ac maent yn cadw cyfluniad y caeau cynhanesyddol yn ardal
gymeriad Penmaendewi gerllaw. Ceir sawl math o ffin, a waliau sych yw'r
math mwyaf cyffredin. Ceir hefyd cloddiau caregog, cloddiau cerrig a phridd,
a chloddiau pridd. Mae rhai cloddiau yn rhedeg ar hyd cribau balciau.
Nid yw gwrychoedd yn gyffredin, a lle y ceir gwrychoedd maent yn cynnwys
rhesi gwasgarog isel a digysgod o lwyni. Mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu
at y mwyafrif o ffiniau hanesyddol. Tirwedd foel ydyw heb unrhyw goed.
Porfa wedi'i gwella a rhywfaint o dir âr yw'r rhan fwyaf o'r tir amaeth.
Nid oes fawr ddim tir pori garw. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd
gwasgaredig, ac mae ffermydd pâr yn nodwedd o'r dirwedd. Lleolir y mwyafrif
o'r ffermydd ar hyd y cyfuchlin 50m ar y llethrau sy'n wynebu'r de, ac
mae ganddynt lonydd llydan â waliau cerrig sych o bobtu iddynt sy'n arwain
oddi wrthynt i dir comin sy'n gorwedd i'r gogledd. Mae i'r ffermdai amrywiaeth
o ffurfiau, ond mae'r mwyafrif ohonynt yn gymharol fach ac yn dyddio o'r
19eg ganrif, maent wedi'u gwneud o gerrig ac iddynt ddeulawr a thri bae,
a cheir enghreifftiau yn yr arddull Sioraidd 'bonheddig' a'r traddodiad
brodorol. Ceir strwythurau cynharach, megis y tai ym Mhorthfawr a Llaethdy;
mae'r ddau yn enghreifftiau clasurol o dþ o Ogledd Sir Benfro yn perthyn
i'r cyfnod isganoloesol, ac mae gan y ddwy simnai gron a rhan ochrol ac
mae cilfachau ystlysog mewnol yn yr ail. Nid yw'r naill na'r llall yn
rhestredig. Ffynnon Faiddog yw'r unig adeilad rhestredig, tþ o ansawdd
da sy'n dyddio o ganol y 19eg ganrif. Ceir rhai adeiladau sy'n perthyn
i'r 20fed ganrif yn yr ardal hefyd. Mae hen adeiladau fferm wedi'u hadeiladu
o gerrig ac maent yn gymharol fach, ac yn gyffredinol maent yn cynnwys
un neu ddwy res. Mae gan rai o'r toeau llechi sgim o sment, rhywbeth sy'n
nodweddiadol o gwr arfordir gorllewinol gogledd Sir Benfro. Mae adeiladau
fferm modern hefyd yn gymharol fach, ac maent wedi'u hadeiladu o amrywiaeth
o ddeunyddiau. Lleolir nifer o feysydd gwersylla a safleoedd carafanau
o fewn yr ardal hon, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd
pen y clogwyni.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn weddol amrywiol o fewn ardal
mor fach ac mae'n cynnwys nifer o safleoedd posibl o ddechrau'r cyfnod
canoloesol. Mae safleoedd cynhanesyddol yn cynnwys tri man darganfod gan
gynnwys darganfyddiadau neolithig ar y blaen draeth, Maen Sigl, sy'n gofrestredig,
siambr gladdu neolithig a chlostir wedi'i amddiffyn sy'n dyddio o'r oes
haearn. Cysylltir mynwent o gistiau o'r Oes Efydd, a rhai cistiau o ddechrau'r
cyfnod canoloesol, â charreg arysgrifedig Gristnogol gynnar a safle posibl
mynachlog ganoloesol Ty Gwyn, a cheir ffynnon sanctaidd yn Ffynnon Faiddog
hefyd. Mae nodweddion tirwedd yn cynnwys system ganoloesol o lain-gaeau,
dwy ardal o dir comin wedi'i gofnodi yng Ngharnedd Lleithr a Waun Llaethdy,
a chwarel ôl-ganoloesol.
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porthmawr yn gorwedd
rhwng y gweundir agored i'r gogledd a'r tywod digysgod i'r de ac mae ar
wahân iddynt. I'r gorllewin mae'r môr. Dim ond i'r dwyrain y mae ffin
yr ardal hon a'i chymydog yn anodd ei diffinio, am fod gan y ddwy lawer
o nodweddion tebyg, er bod y waliau cerrig sych a diffyg cyffredinol adeiladau
modern yn diffinio Porthmawr ac yn ei gosod ar wahân i ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Treleddyd-Tretïo-Caerfarchell.
Ffynonellau: Charles 1992; Fenton 1811; Fox 1937; Howell
1993; Howells 1987; James 1981; James 1993; Jones a Freeman 1856; Lewis
1833; Manby 1801; Rees 1932; Romilly Allen 1902; Map degwm a rhaniad Tyddewi
1840; Willis-Bund 1902
|