|
288 TRELEDDYD - TRETÏO - CAERFARCHELLTYWYN
CYFEIRNOD GRID: SM763280
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1911
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro. Fe'i lleolir ar Benrhyn
Tyddewi ac mae ei thirwedd hanesyddol o ddiddordeb mawr. Yn ystod yr Oesoedd
Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn
uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082
pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad,
i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf Tyddewi, lle'r
oedd nifer o isgapeli, a hyd yn oed heddiw mae iddi dopograffi eglwysig
go arbennig. Yn rhedeg ar draws yr ardal mae Ffos-y-mynach, sef cloddwaith
y credid yn draddodiadol ei fod yn ffin ar ddechrau'r cyfnod canoloesol,
cred sydd o bosibl yn seiliedig ar ffaith am nad yw'n cynrychioli ffin
plwyf Tyddewi ac am y gall gynrychioli rhaniad cynharach. Mae archeoleg
yr ardal hon yn cadarnhau traddodiad eglwysig cryf yn dyddio o'r cyfnod
cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Mae tri chrynodiad o Henebion Cristnogol
Cynnar a safleoedd tair cistfynwent sy'n perthyn i'r Oesoedd Tywyll. At
hynny, mae nifer o enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen llan sydd efallai
yn cynrychioli capeli diflanedig. Gallai fod llawer ohonynt yn dyddio
o ddiwedd y cyfnod canoloesol, fel capeli defodol yn hytrach nag fel capeli
anwes ffurfiol. Fodd bynnag, mae enwau llawer o'r capeli hyn yn cynnwys
yr elfen 'hen' ac mae'n bosibl eu bod yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol.
O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau
Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog,
a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536.
Mae rhan fach o'r ardal i'r dwyrain yn gorwedd o fewn plwyf Llanhywel,
rhaniad canoloesol o Bebidiog, a gadwyd gan y Goron tan 1302 pan drosglwyddwyd
y fywoliaeth i Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ni ddaeth Tre-groes, a orweddai
i'r dwyrain hefyd, yn blwyf tan y cyfnod ôl-ganoloesol, ac yn wreiddiol
un o gapelyddiaethau plwyf Tyddewi ydoedd. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal
gymeriad wedi'i rhannu rhwng 'maenorau' Cantref Cymreig a Thydwaldy. Fodd
bynnag, ymddengys i'r systemau tirddaliadaeth Cymreig oroesi, er iddynt
gael eu haddasu mewn amrywiol ffyrdd, a pharhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau
ffiwdal tan ddechrau'r 20fed ganrif hyd yn oed. Roedd Pebidiog yn enwog
am ei dir âr ffrwythlon. Yn ôl y cyfrifiad yn Taylors Cussion gan George
Owen, roedd yn un o'r ardaloedd mwyaf trwchus ei phoblogaeth yn Sir Benfro
yn yr 16eg ganrif, a chanddi'r nifer fwyaf o barau gwedd, ac a gynhyrchai
lawer iawn o haidd. Ychydig iawn o laethdai a gofnodwyd. Mae Llyfr Du
Tyddewi dyddiedig 1326 yn rhoi rhyw syniad o ddwysedd y boblogaeth yn
ystod cyfnod cynharach, ac o fewn Cantref Cymreig mae'n rhestru, ymhlith
eraill, dreflannau Carnhedryn, Lleithyr, Treleddyd, Trelewyd, Treleidr,
Tremynydd, Treliwyd, a Phenarthur, ac yn Nhydwaldy, dreflannau Penberi,
Tre-hysbys, Treiago, Tremynydd (eto), a Thretio. Roedd pob un yn lled-faenoraidd,
ac fe'u delid yn ôl fersiwn o arfer Cymreig lle yr arferid system o dir
âr a thir allan. Yn ôl y system hon delid y tir nid gan berchennog unigol,
ond gan ddau berson a'u cydberchenogion. Mewn gwirionedd newydd ei ddiddymu
yr oedd system 'gafael cenedl' ym Mhebidiog pan ysgrifennodd Owen c.1600,
fod y tir yn dal yn agored 'ac yn nannedd tymhestloedd'. Mae mapiau sy'n
dyddio o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif hefyd yn dangos bod cryn
dipyn o'r tir yn dir agored nas amgaewyd. O'r system dirddaliadaeth hon
yr oedd prif batrwm anheddu'r ardal wedi deillio, patrwm a gynrychiolir
gan y dwysedd uchel o bentrefannau bach. Mae enwau llawer o'r rhain yn
cynnwys yr elfen Tre- ac maent yn seiliedig i raddau helaeth ar y treflannau
canoloesol. Mae Tretïo, Treleidr a Threleddyd ymhlith y pentrefannau a
ddangosir fel aneddiadau cnewyllol bach ar fapiau ystad o ddiwedd y 18fed
ganrif. Dangosir rhai o'r aneddiadau hyn wedi'u hamgylchynu gan system
o gaeau isrannedig, a cheir yr enghreifftiau gorau o hyn yn Nhreleddyd
a Gwrhyd-Mawr. Nid y lleiniau crwm, cul, hir sy'n nodweddiadol o system
'Seisnig' o gaeau agored mo'r israniadau neu'r lleiniau yn y systemau
hyn, ond yn hytrach 'cyfrannau' hirsgwar wedi'u gwasgaru ar draws ardal
eang. Goroesodd y systemau hyn o systemau tirddaliadaeth Cymreig. Roedd
gan bob pentrefan neu drefgordd ei system ei hun ond roedd y mwyafrif
o bentrefannau - ac yn ôl pob tebyg y treflannau canoloesol - yn gysylltiedig
â dwy ardal ar wahân o dir comin. Gelwid y naill ardal yn 'gomin' a'r
llall yn waun, ac roedd yr olaf yn dir diffaith. Erbyn hyn ceir grðp o
adeiladau fferm ôl-ganoloesol ym mhob pentrefan. Mae'r rhain weithiau'n
cynnwys capel ac er eu bod fel arfer yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif
neu'r 19eg ganrif ac yn cynrychioli amrywiaeth o enwadau, ymddengys mewn
rhai achosion eu bod yn sefyll ar safle crefyddol cynharach. Er enghraifft
yng Ngharnhedryn mae Heneb Gristnogol Gynnar gerllaw, mae gan Gaerfarchell
safle mynwent gerllaw ac mae gan Landidgige gapel canoloesol sydd wedi'i
gofnodi mewn dogfennau. Roedd y system dirddaliadaeth hon wedi darfod
yn llwyr erbyn diwedd y 18fed ganrif. Dengys map o Dreleddyd o 1786 leiniau
gwasgaredig, agored, ond erbyn 1821 roedd y patrwm hwn wedi'i amgáu ac
roedd llawer o'r lleiniau wedi'u troi'n gaeau hirsgwar. Safleoedd hen
bentrefannau yw'r daliadau mawr megis Pwllcaerog, pentrefannau a drodd
yn raddol yn ffermydd unigol neu bâr. Mae ffermydd pâr yn nodwedd o'r
dirwedd hon. Ymddengys fod ffermydd unig llai o faint, megis Penlan, yn
eithaf diweddar, ac mae'n debyg iddynt gael eu sefydlu ar gyn-gaeau agored
y treflannau neu Dyddewi yn ystod yr 16eg ganrif neu'r 17eg ganrif, tra
ymddengys fod yr anheddiad cnewyllol yn Nhre-groes yn hollol fodern. At
hynny, mae safle Anheddiad Gwledig Anghyfannedd gerllaw Hendre. Fel y
mwyafrif o'r safleoedd sy'n gyfoes ag ef, mae'r safle hwn yn cynrychioli
anheddiad sgwatwyr o'r 18fed ganrif ar gyrion Comin Dowrog. Mae economi'r
ardal wedi aros yn un amaethyddol i raddau helaeth iawn ac ers canol yr
20fed ganrif fe'i nodweddwyd gan dyfu tatws cynnar. Serch hynny sefydlwyd
llawer o chwareli ar hyd yr arfordir yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol,
yn ogystal ag o leiaf un odyn galch.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fawr a chymhleth ydyw sy'n cwmpasu'r
rhan fwyaf o ran ogleddol Penrhyn Tyddewi. At ei gilydd mae'r tir yn wastad
neu'n graddol ddisgyn. Mae'r mwyafrif o'r llethrau'n wynebu'r de ac maent
wedi'u lleoli rhwng 50m ac 80m. Mae rhan o'r ardal ogleddol yn cynnwys
clogwyni uchel, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd pen
y clogwyni hyn. Mae'n dirwedd amaethyddol, ac mae'r ardal gyfan wedi'i
rhannu'n gaeau bach i ganolig eu maint. Mae gan y caeau amrywiaeth o siapiau,
ac er bod y mwyafrif yn afreolaidd eu siâp neu'n tueddu at fod yn hirsgwar,
ceir is-systemau bach o gaeau byr a chanddynt siâp llain, megis y caeau
hynny yn agos at Dreleidr, Treleddyd a Gwrhyd-Mawr, y mae'n amlwg eu bod
wedi datblygu o system o gaeau isrannedig, agored. Ar draws ardal mor
helaeth o dirwedd mae'n amlwg bod ffiniau'r caeau yn amrywio, ond mae'r
mwyafrif yn cynnwys cloddiau pridd neu gloddiau pridd a cherrig, a cheir
rhai cloddiau o gerrig llanw a waliau sych. Lle y ceir gwrychoedd maent
yn isel ac yn ddigysgod, ac yn aml iawn nid ydynt yn ddim mwy na rhesi
di-drefn o lwyni ac eithin. Mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu at y
mwyafrif o'r ffiniau hanesyddol. Un nodwedd arbennig o rannau o'r dirwedd
yw'r defnydd a wneir o bileri neu feini hirion wedi'u plastro â morter
ar gyfer pyst gatiau. Ar wahân i ambell blanhigfa fach iawn o goed coniffer,
mae'r dirwedd yn y bôn yn foel. Tir pori wedi'i wella yw'r tir amaeth
ond mae cyfran fach ond sylweddol ohono yn dir âr. Ceir ychydig o dir
garw, brwynog a phorfa heb ei gwella hefyd. Mae nifer o gronfeydd dyfrhau
bach yn perthyn i'r 20fed ganrif yn cyfrannu at gymeriad yr ardal hefyd.
Mae'r patrwm anheddu yn un cymhleth. Yr elfennau mwyaf amlwg yw nifer
o bentrefannau amaethyddol gwasgaredig bach - sef Tretïo, Caerfarchell,
Rhodiad, Carnhedryn, Gwrhyd-Mawr, Treleidr a Threleddyd. Mae'r rhain yn
cynnwys grwpiau tyn iawn o ffermdai, bythynnod, tai allan ffermydd ac
mewn rhai achosion capeli. Mae'r adeiladau, gan gynnwys y capeli, at ei
gilydd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif. Maent wedi'u
hadeiladu o gerrig, sy'n foel neu wedi'u rendro â sment, ac mae ganddynt
doeau llechi y mae rhai ohonynt wedi'u gorchuddio â sgim o sment. Fel
arfer mae gan bob pentrefan brif fferm sy'n cynnwys adeilad deulawr wedi'i
adeiladu yn yr arddull Sioraidd bonheddig, rhes fawr o dai allan wedi'u
hadeiladu o gerrig a strwythurau amaethyddol modern helaeth o ddur, concrid
neu asbestos. Yn agos at y brif fferm efallai y ceir ail fferm, yn yr
arddull Sioraidd neu yn yr arddull brodorol, a nifer o fythynnod unllawr,
llawr a hanner, a deulawr yn yr arddull brodorol. Mewn rhai achosion ceir
enghreifftiau o aneddiadau isganoloesol. Yng Ngharnhedryn mae anheddau
modern mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau yn ychwanegu at gymeriad
yr anheddiad, ond yn y mwyafrif o'r pentrefannau mae datblygiad diweddar
yn gyfyngedig iawn neu nid yw'n bod ac mae cymeriad amaethyddol yr aneddiadau
hyn sy'n perthyn i'r 18fed ganrif a'r 19fed ganrif yn amlwg o hyd. Mewn
sawl achos mae'r pentrefannau wedi'u hamgylchynu gan batrwm o lain-gaeau
amgaeëdig, sydd wedi dirywio gryn dipyn erbyn hyn. Y llain-gaeau hyn yw'r
hyn sydd wedi goroesi o gaeau agored neu isrannedig canoloesol yr anheddiad.
Mae ffermydd pâr a/neu ffermydd mawr iawn, megis Pwllcaerog, yn un o elfennau
eraill y patrwm anheddu. Mae'r mathau o adeiladau yn debyg i'r rhai yn
y pentrefannau, ac mae tai allan amaethyddol mawr modern yn elfen gref
yn y dirwedd. Mae ffermydd gwasgaredig llai o faint wedi'u hadeiladu mewn
sawl arddull: adeiladau brodorol o gerrig wedi'u rendro â sment yn dyddio
o'r 19eg ganrif a chanddynt res fach o dai allan o gerrig; tai o gerrig
nadd patrymog a godwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif ar gyfer mân foneddigion
lle y ceir rhesi helaeth o adeiladau allan modern; a ffermdai a godwyd
o friciau neu goncrid gydag adeiladau allan modern yn dyddio o'r 20fed
ganrif. Yn ogystal â'r anheddau amaethyddol, mae ychydig o dai modern
ar draws yr ardal mewn gwahanol arddulliau a deunyddiau, ond nid yw'r
rhain yn elfennau cyffredin o'r patrwm anheddu. Mae 36 o adeiladau rhestredig
yn yr ardal - dwysedd uchel iawn ar gyfer ardal wledig lle y mae'r aneddiadau
yn wasgaredig. Mae eglwys Llanhywel yn rhestredig Gradd II* tra bod yr
eglwys yn Nhre-groes yn rhestredig Gradd II. Ymhlith y ffermdai sy'n rhestredig
Gradd II* mae Hendre, Lleithyr, a Phenberi. Mae deg adeilad rhestredig
yng Nghaerfarchell gan gynnwys y ffermdy a'r tai allan, y Mans, tai allan
a thwlc mochyn, Tþ Hamilton a'i adeiladau allan a'r hen swyddfa bost,
sydd i gyd yn rhestredig Gradd II, a'r capel sy'n rhestredig Gradd II*.
Mae'r 8 adeilad rhestredig yn Rhodiad-y-Brenin yn cynnwys ffermdy Gwrhyd
Bach - enghraifft glasurol o dþ isganoloesol o Ogledd Sir Benfro, sydd
â simnai gron a rhan ochrol - a ffermdy Gwrhyd Canol, y capel, y bont
a phwmp yr hen lan, sydd i gyd yn rhestredig Gradd II. Mae Ffermdy Penlan,
ei dai allan a'i ffynnon amgaeëdig i gyd yn rhestredig Gradd II, a hefyd
Treleddyd Fawr, Tþ-canol, lle y mae tyllau gwenyn yn y waliau, a ffermdy
Tremynydd Fawr, y tþ ceirt a 2 res o dai allan. Mae hen ffermdy Cerbyd
a'i dai allan yn rhestredig Gradd II. Mae'r ficerdy yn Nhre-groes a'i
adeiladau allan yn rhestredig Gradd II. Mae pontydd Pont-y-Cerbyd a Phont
Penarthur hefyd yn rhestredig Gradd II. Roedd Hendre Eynon a Phwllcaerog
hefyd yn ffermdai isganoloesol yng Ngogledd Sir Benfro. Ceir hefyd yn
rhai o'r pentrefannau gapeli ôl-ganoloesol - yng Ngharnhedryn a Thretio
er enghraifft. Mae sawl maes gwersylla a pharc carafanau yn yr ardal,
a rhai adeiladau fferm a addaswyd er mwyn darparu cyfleusterau a llety
i dwristiaid. Lleolir safle gwaredu gwastraff o eiddo'r cyngor ar gyrion
mwyaf deheuol yr ardal hon. Y prif gysylltiad ar gyfer trafnidiaeth yn
yr ardal hon yw ffordd yr A487 o Dyddewi i Abergwaun, a fu gynt yn ffordd
dyrpeg, ac mae'r B4583 i'r gogledd yn ffordd eilradd. Mae'r ffyrdd eraill
yn gul ac yn droellog ac o bobtu iddynt ceir cloddiau uchel.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac yn amrywiol,
gydag elfennau arwyddocáol yn dyddio o ddechrau'r Oesoedd Canol. Mae'n
cynnwys siambr gladdu neolithig gofrestredig yn Lecha, tair siambr gladdu
bosibl a chylch cerrig posibl, pedwar crug crwn posibl o'r oes efydd a
thri maen hir posibl. Mae dwy fryngaer gofrestredig o'r oes haearn, a
man darganfod o'r oes haearn neu'r cyfnod Rhufeinig. Cofnodwyd beddrodau
o ddechrau'r Oesoedd Canol yng Nghaerfarchell, Tremynydd a Waun-y-Beddau.
Ceir Henebion Cristnogol Cynnar yng Ngharnhedryn, Penwaun, Penarthur -
sydd bellach wedi'u symud i Eglwys Gadeiriol Tyddewi - a Thre-groes tra
gall cloddwaith Ffos-y-mynach berthyn i ddechrau'r cyfnod canoloesol.
Mae safleoedd capeli canoloesol, a safleoedd posibl, ar safleoedd capeli
Llandigige, Penberi, a Threleidr, tra bod Gwrhyd yn dal i sefyll yn ystod
y 18fed ganrif. Sair yr hyn a all fod yn fwnt gerllaw Treiago. At hynny
mae'r anheddiad canoloesol ym Mhwllcaerog, lle y mae melin ddðr, melinau
a phontydd ôl-ganoloesol eraill, anheddiad gwledig anghyfannedd o'r cyfnod
ôl-ganoloesol, grobwll, llawer o chwareli ac odyn galch, a chlostiroedd
eraill o gymeriad anhysbys.
Mae'r patrwm o bentrefannau a chyn-gaeau isrannedig yn
nodweddu'r ardal hon ac yn gwahaniaethu rhyngddi a'r ardaloedd tirwedd
hanesyddol yn cynnwys ffermydd a chaeau gwasgaredig sy'n gorwedd i'r gorllewin,
ac i'r de, er nad yw'n bosibl diffinio ffin bendant rhyngddynt; yn hytrach
ceir ardal gyfnewid. Ar yr ochr ogleddol mae i'r ardal hon ffin bendant
iawn am ei bod yn cyffinio naill ai â gweundir agored neu'r môr. Ni ddiffiniwyd
yr ardaloedd cymeriad i'r dwyrain eto, ond yn y fan hon mae'r dirwedd
yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a systemau o gaeau mawr eithaf rheolaidd
eu siâp.
Ffynonellau: Charles 1992; Cooper 2001; Dicks 1968; Fenton
1811; Fox 1937; Howell 1993; Howells 1971; Howells 1987; James 1981; James
1993; Jenkins d.d.; Lewis 1833; Map degwm a rhaniad Llanhywel, 1842; Ludlow
1998; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Picton Castle 1; Llyfrgell Genedlaethol
Cymru Casg RKL (496) Llanhowell Rhif 5; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Casg
RKL Rhif 39: Llyfrgell Genedlaethol Cymru Casg Rhif 39: Llyfrgell Genedlaethol
Cymru Casg RKL Rhif 42; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 142296 Rhif 77; Archifdy
Sir Benfro D/RTP/HIG/11; Archifdy Sir Benfro hdx/538/1; Archifdy Sir Benfro
D/RTP/HIG/130; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/J H Harries 6/7; Archifdy
Sir Benfro D/RTP/HIG/J H Harries 6/72; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/J
H Harries 6/73; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/13; Pritchard 1906; Rees
1932; Romilly Allen 1902; Map degwm a rhaniad Tyddewi, 1840-41; Map degwm
a rhaniad Tre-groes (Tyddewi), 1840-41; Willis-Bund 1902
|