Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

291 DYFFRYN ALUN

CYFEIRNOD GRID: SM744248
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 30.4

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro ar ochr ddeheuol Penrhyn Tyddewi. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf Tyddewi. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod systemau tirddaliadaeth Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn ffyrdd gwahanol, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys dyffryn Afon Alun, yn union i'r de-orllewin o Glos Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ers dechrau'r 17eg ganrif mae wedi'i hadnabod fel 'Merryvale' - cyfieithiad Saesneg o Hoddnant, sef enw'r dyffryn lle y sefydlodd Dewi Sant ei eglwys, ac a adwaenid fel glyn rhosyn hefyd ('Rosinam Vallem' c.1200). Adeiladwyd castell yn cynnwys amddiffynfa gylch a beili ('Parc-y-castell') ar ochr orllewinol y dyffryn, naill ai gan y Brenin Normanaidd William I pan ymwelodd â'r castell ym 1081, neu gan yr Esgob Bernard (neu un o'i olynwyr agosaf). Ymddengys mai'r castell oedd canolfan weinyddol gynnar Pebidiog ac esgobaeth y diriogaeth, nes i Balas yr Esgob gael ei adeiladu yn Nhyddewi ar ddiwedd y 12fed ganrif, pan adawyd y castell yn wag yn ôl pob tebyg. Mae'n bosibl bod y bathdy a fu'n gweithredu yn Nhyddewi yn ystod y 1090au, ar ran y Goron, wedi'i leoli o fewn y castell, sy'n awgrymu iddo gael ei adeiladu cyn yr adeg honno yn hytrach nag ar ei hôl. Mae ffrwd melin wedi'i thynnu o Afon Alun yn rhedeg drwy'r ardal sy'n cyflenwi Melin Dewiston lle y safai o bosibl y felin y sonnir amdani yn aml yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326, sy'n perthyn o bosibl i'r 13eg ganrif. Parhaodd i weithio tan ganol yr 20fed ganrif. Delid gweddill yr ardal fel tir comin. Roedd rhan ohono'n gysylltiedig â threflan ganoloesol a diweddarach Clegyr-Boia, ac roedd y gweddill yn gysylltiedig â bwrdeistref Tyddewi y gorweddai glan ddwyreiniol afon Alun y tu mewn iddi. Dangosir y tir comin ar fap degwm 1840 lle y mae'n gorchuddio'r un ardal â heddiw fwy neu lai, a all ddangos ei ffiniau gwreiddiol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dyffryn Alun yn cynnwys y rhan honno o ddyffryn Alun sy'n gorwedd i lawr yr afon o ddinas Tyddewi ac i fyny'r afon o Borth Clais. Mae'r gorlifdir cul yn gorwedd ar uchder o 5m - 10m fwy neu lai. Mae ochrau'r dyffryn wedi'u gorchuddio ag eithin trwchus a llwyni eraill, ac maent yn codi yn serth i ryw 30m o uchder. Gerllaw'r ddinas tir pori heb ei wella a geir yn y caeau bach, afreolaidd eu siâp. Erbyn hyn tynnwyd y gwrychoedd i raddau helaeth oddi ar y ffiniau a adeiladwyd o bridd ac o bridd a cherrig a defnyddir ffensys gwifrau i ddal yr anifeiliaid. Ymhellach i lawr y dyffryn mae'r tir yn wlyb ac yn gorslyd, ac mae'r caeau'n wag ac nis defnyddir at ddibenion amaethyddol. Saif Melin Dewiston ar lawr y dyffryn, a chloddweithiau castell canoloesol ar ochr y dyffryn. Adeiladwyd gwaith trin carthion modern ym mhen isaf llawr y dyffryn. Mae Melin Dewiston (Felin Isaf) a'i adeilad allan yn rhestredig Gradd II.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys darganfyddiadau neolithig a Rhufeinig gerllaw Parc-y-castell, yr amddiffynfa gylch a beili cofrestredig, gyda lleoliad posibl y bathdy, ac mae man darganfod gerllaw Porth Clais hefyd. Mae'r colomendy canoloesol i'r gogledd o'r ardal, a'r ffrwd melin ganoloesol, hefyd yn gofrestredig.

Mae llystyfiant corslyd a/neu brysglog yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon sydd i raddau helaeth yn agored yn gwrthgyferbynnu'n gryf â'r ardaloedd oddi amgylch lle y ceir ffermydd a chaeau. Ardal tirwedd hanesyddol ar wahân ydyw.

Ffynonellau: Boon 1986; Charles 1992; James 1981; Soulsby 1983; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Willis-Bund 1902