|
DIGWYDDIADAU A LUNIODD TIRWEDD HANESYDDOL Y PRESELI,
PENRHYN TYDDEWI AC YNYS DEWI AC YNYS SGOMER
RHANIADAU GWEINYDDOL HANESYDDOL
Roedd gweinyddiaeth gorllewin Cymru, cyn cyfnod yr Eingl-Normaniaid,
yn seiliedig ar deyrnasoedd bach neu wledydd, a sefydlwyd cyn yr 8fed
ganrif OC. Gorwedd yr ardal astudiaeth o fewn un o'r gwledydd hyn, sef
Dyfed, a ddaeth yn rhan o deyrnas y Deheubarth ar ddechrau'r 11eg ganrif.
Roedd teyrnas y Deheubarth yn ymestyn ar draws y rhan fwyaf o dde-orllewin
Cymru (Rees, 1951, 19). Ym mhob gwlad roedd unedau llai o weinyddiaeth
neu ystadau a adwaenid fel maenorau. Ceir tystiolaeth i'r maenorau hyn
fodoli ers y 9fed ganrif a'u bod wedi'u llunio o nifer o 'drefedigaethau'
neu drefi (Richards 1969,307). Erbyn y 11eg ganrif, cyflwynwyd dwy haen
weinyddol ychwanegol - y cantref, sef grwp o 100 o drefi, ac roedd pob
un o'r rhain wedi'u hisrannu'n nifer o gymydau lle y câi y trefi eu grwpio.
Daeth saith cantref Dyfed - Pebidiog, Cemaes, Emlyn, Rhos, Daugleddau,
Arberth a Phenfro - yn uniad ac iddo enwogrwydd hanesyddol a chwedlonol.
Yn ardaloedd Eingl-Normanaidd y Deheubarth, roedd cyfundrefn ffurfiol
o weinyddiaeth wedi'i sefydlu erbyn diwedd y 12fed ganrif. O dan y gyfundrefn
hon roedd gan bob cwmwd faerdref, sef tref arbennig a leolid gerllaw llys
y brenin. Roedd y taeogion a arferai ffermio tiroedd y demên yn byw yn
y faerdref, ynghyd â swyddogion a gweision amrywiol a wasanaethai'r llys.
Yn ogystal â hyn câi'r brenin neu'r arglwydd drefedigaeth yn yr ucheldir
at ddibenion pori dros yr haf (hafodydd). Yn ôl pob tebyg ni fyddai'r
system hon wedi'i sefydlu yn Nyfed cyn concwest yr Eingl-Normaniaid ac
nid yw'n bosibl nodi llawer o elfennau'r weinyddiaeth ffurfiol hon o fewn
yr ardal astudiaeth. Fodd bynnag, roedd canolfannau statws eraill yn bodoli,
a'r rheini'n rhai secwlar ac eglwysig, ac o'r rhai eglwysig, saith ty
esgob Dyfed sydd wedi'u dogfennu orau (Davies 1982). Dechreuodd yr Eingl-Normaniaid
sefydlu'u haneddiadau yn ardal Sir Benfro ym 1093 pan oresgynnwyd Dyfed
gan Roger de Montgomery, Iarll Normanaidd Amwythig, gan sefydlu castell
ym Mhenfro. O'r ganolfan hon, roedd ei fab, Arnulf, wedi gorchfygu rhan
helaethaf Cantref Penfro (yn rhan ddeheuol y sir bresennol), Cantref Rhos
(i'r gorllewin o Hwlffordd, gan gynnwys Ardal Gofrestr Ynys Sgomer) a
Chantref Daugleddau (yn rhan ganolog y sir bresennol), a ad-drefnwyd fel
sir o dan y Brenin Harri I - breiniarllaeth yn ddiweddarach i ieirll Penfro.
Yn ogystal â hyn, goresgynnwyd Cantref Cemaes, lle y ceir Ardal Gofrestr
y Preseli, oddeutu 1100, o dan y Norman Martin 'o Tours' a'i had-drefnodd
fel un o arglwyddiaethau'r Mers. Mae'n bosibl i Gantref Pebidiog gael
ei ad-drefnu ychydig yn unol â threfniadau Eingl-Normanaidd yn sgîl ymweliad
y brenin Normanaidd Wiliam I â Thyddewi ym 1081. Yr esgobion a ddaliai'r
Cantref hwn gan fwyaf ac mae'n cynnwys Penrhyn Tyddewi ac Ardal Gofrestr
Ynys Dewi. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol i'r weinyddiaeth faenoraidd
hon gael ei chyflwyno ar ôl 1115 o dan Bernard, Esgob Normanaidd cyntaf
Tyddewi. Arhosodd y rhaniadau tiriogaethol a ddyddiai o gyfnod cyn y goncwest
Eingl-Normanaidd yn ddigyfnewid fwy neu lai ac roedd arglwyddiaethau Cemaes
a Phebidiog yn cyffinio â'u rhiant gantrefi a chantrefi ôl-ganoloesol
Cemaes a Phebidiog yn y drefn honno. Gan fwyaf, ymddengys i'r systemau
tirddaliadaeth Cymreig barhau a pharhaodd nifer o hawliau a rhwymedigaethau
ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif hyd yn oed. Bu effaith y systemau
hyn ar y dirwedd yn fawr. Parhâi Pebidiog, yn benodol, yn rhydd o dirddaliadaeth
faenorol ffurfiol ac fe'i daliwyd gan fersiwn o arfer Cymreig lle y câi'r
tir ei ddal gan ddau berson yn hytrach na pherchenogaeth unigol. Yn wir,
dim ond ychydig cyn i Owen ysgrifennu tua 1600 y diddymwyd gafael cenedl
ym Mhebidiog. Bu'r dirddaliadaeth hon yn gyfrifol am brif batrwm setliad
yr ardal a ddynodir gan niferoedd helaeth o bentrefannau bychain. Dim
ond gweinyddiaeth bwrdeistref Tyddewi ei hun oedd yn gwbl Eingl-Normanaidd.
Yng Nghemaes, arweiniodd y dirddaliadaeth Gymreig at batrwm setliad mwy
gwasgarog, a hynny yn gyffredinol heb unrhyw groniadau anheddu sylweddol.
Fodd bynnag, gweithredai bwrdeistref Trefdraeth a setliadau Maenclochog
a'r Fagwyr Goch, yn ogystal â maenorau Nanhyfer ac Eglwyswrw, system faenoraidd
Eingl-Normanaidd yn rhannol o leiaf, ac roedd comin mawr Mynydd Preseli
yn ganlyniad i awdurdodaeth uniongyrchol y Mers, a ffurfiolwyd mewn siarter
yn y 13eg ganrif.
SETLIADAU A SAFLEOEDD CLADDU CYNHANESYDDOL
Er bod nifer cymharol sylweddol o henebion cynhanesyddol
- siambrau claddu, meini hirion, tomenni claddu a bryngaerau - o fewn
yr ardal astudiaeth, yn aml nid yw eu dylanwad ar y dirwedd fodern yn
sylweddol iawn. Mae siambrau claddu neolithig ardal Tyddewi yn henebion
pwysig ac maent yn adnabyddus i'r cyhoedd ac i archeolegwyr academaidd
(Baker 1992). Fodd bynnag, ar wahân i Goetan Arthur ym Mhenmaendewi, nid
ydynt yn elfennau amlwg yn y dirwedd ac nid ymddengys iddynt gael eu cysylltu
â systemau caeau neu elfennau eraill yn y dirwedd sydd wedi dylanwadu
neu effeithio ar ffurf y dirwedd hanesyddol. Gall tomenni claddu, boed
yn domenni o bridd, neu garneddau, fod yn elfennau amlwg yn y dirwedd
hanesyddol oherwydd eu lleoliad. Er enghraifft, ar Fynyddoedd y Preseli
mae'r carneddau ar gopa Foel Eryr ac ar gopa Cwmcerwyn i'w gweld am filltiroedd.
Yn yr un modd â'r siambrau claddu, nid yw'n debygol iddynt gael unrhyw
ddylanwad o bwys ar elfennau eraill y dirwedd fodern. Mae lleoliad y bryngaerau
hefyd yn sicrhau eu bod yn elfennau amlwg yn y dirwedd; er enghraifft,
Y Foel Drygarn ar Fynyddoedd y Preseli a Chlawdd y Milwyr ar Benmaendewi.
Gan eu bod yn safleoedd anheddu fe'u cysylltir weithiau â systemau caeau
cyfoes, fel sy'n wir am Benmaendewi (Murphy 2000), ond ni chafwyd astudiaeth
o'u dylanwad ar y dirwedd hanesyddol ehangach.
NEWID YN Y BOBLOGAETH
Crynhowyd y newid yn y boblogaeth yn Sir Benfro gan
Howells (yn Howells 1987) ar gyfer y cyfnod 1563-1642 a chan Bowen-Evans
(yn Howells 1993) am y cyfnod 1815-1974. Mae'r adran fer hon yn seiliedig
ar y ddau adroddiad hyn. Yn amlwg, mewn ardaloedd sy'n ardaloedd amaethyddol
yn bennaf, câi cynnydd mawr yn y boblogaeth effaith ddramatig ar y dirwedd
gan y byddai adnoddau dynol ar gael ar gyfer creu ffermydd newydd, ar
gyfer trin tir diffaith ac ar gyfer gwella'r seilwaith. Dengys cofnodion
y bu cynnydd cyson yn y boblogaeth o 1563 (ar adeg y cofnodion dibynadwy
cyntaf) hyd ganol y 19eg ganrif. Yng Nghantref Cemaes (y cantref lle y
mae ardal y Preseli) gwelwyd cynnydd o deirgwaith neu fwy yn nifer y cartrefi
rhwng 1563 a 1801. Er enghraifft ym Mynachlog?ddu, cynyddodd nifer amcangyfrifedig
y cartrefi o 20 ym 1563 i 48 ym 1670 ac i 83 ym 1801. Mewn plwyf a gynhwysai
ardaloedd mawr o rostir agored a thir ymylol, ond lle nad oedd unrhyw
ddiwydiant, mae'n rhaid bod cynnydd o'r fath yn y boblogaeth yn dynodi'r
ffaith i ffermydd newydd gael eu sefydlu ac i rannau o'r rhostir a'r comin
gael eu colli. Yn ardal Tyddewi, nid oedd y cynnydd yn y boblogaeth mor
ddramatig, gyda'r nifer o gartrefi ym mhlwyf Tyddewi yn cynyddu o 189
ym 1563 i 423 ym 1801. Fel y noda Howells, bu rhan helaeth o benrhyn Tyddewi
yn cael ei ffermio'n ddwys dros sawl canrif ac felly nid oedd fawr o gyfle
i sefydlu ffermydd newydd. Byddai'r rhan fwyaf o'r cynnydd yn y boblogaeth
felly wedi'i hymgorffori gan y ffermydd a fodolai eisoes neu yn ninas
Tyddewi. Fodd bynnag, hyd yn oed ar dir agored iawn Penmaendewi, ceir
olion trefoli a thrin y tir yn y cyfnod hwn (Murphy). Parhaodd poblogaeth
Sir Benfro i dyfu rhwng 1801 ac 1861, gan godi o 56,280 i 96,278. O fewn
yr ardaloedd astudiaeth ni cheid unrhyw ddiwydiannau mawr ac roedd hyn
yn golygu mai â'r diwydiant amaeth yr oedd y boblogaeth yn gysylltiedig.
Ym Mhreseli, crëwyd llawer o ffermydd newydd drwy amgáu rhandiroedd eang
o dir comin. Efallai i hyn ysgogi mewnfudo i ardaloedd a phrysuro'r cynnydd
yn y boblogaeth. Crëwyd ffermydd newydd eraill ar gyrion tir comin a thir
mynyddig. Cofnodir allfudo o blwyfi yn Sir Benfro ar gyfrifiadau 1801-1861
ond roedd y cynnydd naturiol yn y boblogaeth yn ddigon i unioni hyn. Fodd
bynnag, cofnodwyd gostyngiad yn niferoedd cyffredinol y boblogaeth yng
nghyfrifiad 1871 - rhywbeth a oedd yn gyffredin â phob ardal wledig drwy
Brydain. Yn ardaloedd gwledig Sir Benfro parhaodd y gostyngiad hwn mewn
niferoedd absoliwt hyd at ganol yr 20fed ganrif. Ar draws y dirwedd mae'r
cwymp yn niferoedd y boblogaeth i'w gweld amlycaf yn ardal y Preseli,
lle y mae ffermydd a bythynnod anghyfannedd ar rostiroedd ac ar ymylon
y rhostiroedd yn elfennau nodweddiadol. Ers yr Ail Ryfel Byd, bu'r boblogaeth
yn tyfu. Un o'r rhesymau am y cynnydd hwn yw datblygiad y diwydiant twristiaeth
ar benrhyn Tyddewi.
TREFI A PHENTREFI
Mae nodweddion anheddu nodedig i ddwy ardal gofrestr
y Preseli a Phenrhyn Tyddewi ac Ynys Dewi. Yn hanesyddol, roedd Pebidiog
yn nodedig am ei dir âr ffrwythlon. Yn ôl y cyfrifiad yn Taylors Cussion
George Owen (Pritchard 1906), roedd ymhlith ardaloedd mwyaf poblog Sir
Benfro yn y 16eg ganrif, gyda'r nifer uchaf o dimau gwedd. Cynhyrchai
lawer o haidd ond cyfran gymharol fach o laethdai oedd yno. Ymddengys
i'r sefyllfa hon ddeillio o gyfnod cynharach o dan drefn tir âr a thir
allan amaethyddiaeth caeau agored o fewn fersiwn o arfer tirddaliadaeth
Gymreig (fel y trafodwyd uchod) nad oedd ond yn lled-faenoraidd wedi concwest
yr Eingl-Normaniaid. Mae patrwm anheddu amlwg yr ardal a ddynodir gan
gyfran uchel o bentrefannau bychain yn deillio o'r dirddaliadaeth hon.
Mae Llyfr Du Tyddewi 1326, yn rhoi syniad o ddwysedd cyfoes yr anheddu,
gyda llawer o'r pentrefannau diweddarach yn cael eu cynnwys ymhlith y
treflannau a restrir ynddo, gan gynnwys er enghraifft, Carnhedryn, Clegyr,
Llandrudion, Lleithyr, Penarthur, Penberi, Treleddyd, Trelewyd, Treleidr,
Tremynydd, Treliwyd, Tre-hysbys, Treiago, Tretïo, a Fachelych (Willis
Bund 1902). Fodd bynnag, ymddengys i bentrefannau, a oedd o dan ddaliadaeth
debyg, barhau i gael eu sefydlu yn ystod yr 17eg ganrif (Charles 1992).
Bellach mae grwp o adeiladau fferm ôl-ganoloesol ym mhob treflan neu bentrefan
ac mae rhai, ee. Pwllcaerog, wedi'u cynrychioli gan drefniant anarferol
o ffermydd sydd wedi'u gefeillio. Mae'n bosibl bod hwn yn dynodi goroesiad
hen arfer Cymreig lle y byddai tir o dan ddaliadaeth dau berson yn hytrach
nag o dan berchenogaeth unigol. Fodd bynnag, roedd y system dirddaliadaeth
yn dirwyn i ben erbyn diwedd y 18fed ganrif pan ddangosid yr olion ffisegol
ar fapiau ystadau. Prin fu'r aneddiadau a sefydlwyd yn ddiweddarach o
fewn ardal Tyddewi ond cofnodwyd Maes-y-mynydd ar yr arfordir gogleddol
am y tro cyntaf ym 1829 ac yn ôl traddodiad lleol roedd yn anheddiad i'r
Crynwyr. Yr unig anheddiad sylweddol o fewn Pebidiog oedd bwrdeistref
Tyddewi ei hun a dderbyniodd ei siarter gyntaf gan y Brenin Harri I ar
ôl 1115 ac esgyniad yr esgob Normanaidd Bernard (Soulsby 1983), er bod
bathdy brenhinol yn weithredol yn ystod teyrnasiad William II (Boon 1986,40),
a hynny, fwy na thebyg, o fewn y castell a leolid cryn bellter o'r dref
ddiweddarach. Dilynai gweinyddiaeth y fwrdeistref batrwm Eingl-Normanaidd,
gyda'r tenantiaid yn dal tiroedd bwrdais ffurfiol, gydag un ohonynt, ym
1326, ym meddiant cyd-berchenogion 'fel crair unig o dirddaliadaeth Gymreig'
(Willis Bund 1902). Caniatawyd dwy ffair flynyddol a marchnad ddwywaith
yr wythnos ym 1281, ac ym 1326 roedd y boblogaeth a oedd oddeutu 1000
yn dal 130 o diroedd bwrdais (ibid.), ond ni cheir fawr o dystiolaeth
o gynllunio ffurfiol. Dengys map gan John Speed dystiolaeth fod y dref
yn dirywio erbyn dechrau'r 16eg ganrif gyda phrin 51 o dai wedi'u nodi.
Yng Nghemaes (ardal y Preseli), lle nad oedd y tir mor ffrwythlon, gwelwyd
y drefn barhaus o dirddaliadaeth Gymreig yn arwain at batrwm anheddu gwasgaredig
iawn gyda ffermydd bychain unigol ac er nad oedd rhan helaethaf y dirwedd
wedi'i hamgáu tan ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol roedd hyn yn bennaf
oherwydd mai ardal o rostir a thir diffaith ydoedd. Prin oedd yr aneddiadau.
Fodd bynnag, roedd bwrdeistref Eingl-Normanaidd Trefdraeth, sy'n gorwedd
ychydig y tu hwnt i'r Ardal Gofrestr, fel Tyddewi - sefydliad Eingl-Normanaidd
a ddyddiai o ddiwedd y 12fed ganrif, gyda thiroedd bwrdais ffurfiol, marchnad
a ffair (Soulsby 1983). Ym Maenclochog, anheddiad o fewn yr ardal astudiaeth,
ceir cyfuniad o gastell, lawnt sgwâr fawr gydag eglwys, prif stryd echelinol
gyda thyddynnod ar ei hyd a phatrwm o gaeau amgylchynol a fu unwaith yn
gaeau agored. Maent oll yn nodweddion clasurol o anheddiad Eingl-Normanaidd
yn Sir Benfro, ac mae Maenclochog yn rhan o gadwyn o aneddiadau o'r fath
ar hyd bryniau deheuol Mynydd Preseli (cf. Y Mot, Castell Henri, Cas-lai
ac ati). Ni roddwyd statws bwrdeistref i Faenclochog erioed ac ni cheir
cofnod i farchnad neu ffair gael eu cynnal yno (Howells 1977). Fodd bynnag
cynhaliwyd marchnadoedd a ffeiriau yn y Fagwyr Goch - yr unig anheddiad
trefedigaethol arall o fewn ardal y Preseli, er mai methiant a fu. Ym
1293, caniatawyd marchnad wythnosol ym maenor y Fagwyr Goch a ffair flynyddol
a barhâi am dridiau (Cal. Charter Rolls 2, 1906). Mae'n debyg bod hyn
yn cynrychioli asart mawr o dir cymharol wael yn y 13eg ganrif, a oedd
wedi 'methu' erbyn y 16eg ganrif pan na chofnodwyd ond pedwar daliad demên
(Howells 1977). Daliai ei dri thenant eu tir drwy gyfuniad o arferion
Seisnig a Chymreig ac, yn wir, mae'n bosibl mai llygriad ar y term Rudvall
yw'r enw Seisnig 'Redwalls', sef term a ddefnyddid yn Sir Benfro i ddisgrifio
ffurf ar ddaliadaeth leol lle y byddai llain-gaeau yn cael eu cronni a'u
pori fel tir comin (Owen 1897). Arferai maenor Nanhyfer, a maenor neu
is-arglwyddiaeth Eglwyswrw yn rhan ddwyreiniol Cemaes, weithredu system
faenoraidd, ac roedd gan Eglwyswrw ei lys maenorol ei hun (Owen 1897).
Ceir hefyd awgrymiadau mai anheddiad cynnar oedd pentref Eglwyswrw. Cyfeiriai
Owen at yr anheddiad yn Nanhyfer ei hun (ychydig y tu allan i'r ardal
astudiaeth) wrth amrywio megis maenor, treflan neu fwrdeistref, a thua
1600 disgrifiodd Drefdraeth a Nanhyfer fel 'dwy fwrdeistref hynafol Cemais',
gyda 28 o diroedd bwrdais yn Nhrefdraeth ac 18 yn Nanhyfer (Owen 1897,
477). Fodd bynnag, ni fu Nanhyfer erioed yn fwrdeistref ffurfiol ac nid
oedd iddi unrhyw seilwaith corfforaethol neu drefol. Hyd yn oed o fewn
maenorau Eglwyswrw a Nanhyfer cedwid elfennau helaeth o arferion daliadaeth
Gymreig, gan arwain at ddatblygu nifer o dirddaliadaethau bychain a thy
bonedd o statws amrywiol ym mhob un ohonynt. Erbyn y 16eg ganrif roedd
gan Eglwyswrw o leiaf 15 (Jones 1996). Mae gwaith diweddar gan Sambrook
wedi nodi olion patrwm anheddu yma gyda saith canolbwynt anheddu posibl,
sydd efallai yn cyfateb â model Jones o 'ystad luosog' gynnar (Sambrook
2000). Ymddengys fod aneddiadau bychain eraill o fewn ardal y Preseli
- ee. Brynberian, Felindre Farchog, Llangolman a Mynachlog?ddu oll yn
tarddu o'r cyfnod ôl-ganoloesol - wedi'u sefydlu ar ganolbwyntiau aneddiadau
a gynrychiolir gan felinau ac eglwysi a fodolai eisoes, tra sefydlwyd
Rosebush yn y 1870au i wasanaethu'r chwarel lechi gerllaw.
DATBLYGIADAU YN YR 20FED GANRIF
Gyda niferoedd y boblogaeth yn dirywio, araf fu'r datblygiadau
yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Cafodd y safleoedd a'r gwersyll milwrol
a sefydlwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, effaith ddwys
ar rai ardaloedd yn Sir Benfro, yn enwedig yn ne'r sir, ond effaith lai
yn y gogledd; maes awyr Tyddewi oedd yr unig sefydliad milwrol o bwys
ar benrhyn Tyddewi ac ardal y Preseli a byrhoedlog fu'r defnydd ohono,
er y gellir gweld olion nifer o fân safleoedd milwrol o'r Ail Ryfel Byd,
gan gynnwys dau wersyll carcharorion rhyfel, hyd heddiw ar yr arfordir
o amgylch Tyddewi. Dim ond yn ystod y blynyddoedd a ddilynai'r ail ryfel
byd y gwelwyd datblygiadau modern yn dechrau newid y dirwedd hanesyddol,
a hynny yn sgîl y cynnydd yn y boblogaeth, trafnidiaeth gyflymach a rhatach
i bob rhan o Gymru a thu hwnt, newidiadau mewn arferion ffermio a chynnydd
mewn safonau byw. Yn y 1950au a'r 1960au roedd y datblygiad yn araf, ond
ers hynny mae wedi cyflymu. Gellir nodi tri maes allweddol yn benodol:
addasiadau i'r stoc tai ac adeiladu tai newydd; datblygiad y diwydiant
twristiaeth; a'r newidiadau i'r dirwedd amaethyddol, yn enwedig codi adeiladau
fferm newydd. Er bod nifer o dai a godwyd cyn 1900 yn bodoli o hyd, prin
yw'r tai hanesyddol hynny nas addaswyd gan fod nifer o addasiadau a gwaith
atgyweirio wedi'i wneud iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio
â safonau byw modern. Fodd bynnag, yr hyn a gafodd yr effaith fwyaf ar
y dirwedd hanesyddol fu'r tai newydd a adeiladwyd yn ystod y 1970au ac
ers hynny, er mai cymharol fach yw nifer y datblygiadau newydd o'u cymharu
ag ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr. Mewn nifer o achosion tai newydd
yn lle ffermdai neu fythynnod hyn ydynt, ond ar gyrion Tyddewi ac o fewn
pentrefi fel Eglwyswrw, Felindre Farchog, Maenclochog a Rosebush cafodd
y datblygiadau tai, gan gynnwys ystadau bach, effaith ddramatig ar gymeriad
yr aneddiadau. Mae parciau carafannau a safleoedd gwersylla, tai, cwrs
golff a datblygiadau eraill sy'n gysylltiedig â'r diwydiant twristiaeth
wedi effeithio ar dirwedd hanesyddol penrhyn Tyddewi. Mae rheolau cynllunio
caeth a weithredir gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi lliniaru
effaith rhai o'r datblygiadau hyn. Er hynny, mae effaith y diwydiant twristiaeth
bellach yn elfen o'r dirwedd hanesyddol. Gall effaith adeiladau amaethyddol
mawr newydd ar y dirwedd fod yn sylweddol. Mae hyn yn arbennig o wir am
benrhyn Tyddewi lle y mae ffermydd wedi'u hamgylchynu gan gyfresi o adeiladau
dur a choncrid yn elfen amlwg o'r dirwedd hanesyddol. Trafodir y mathau
gwahanol o adeiladau isod yn yr adran ar bensaernïaeth frodorol.
DIWYDIANT
Ni fu diwydiant yn ffactor o bwys yn natblygiad tirwedd
yr Ardaloedd Cofrestr a ddisgrifir yma, a phrin yw'r dystiolaeth a geir
o weithgaredd diwydiannol cynnar. Fodd bynnag, datblygodd diwydiant llechi
o bwys ar hyd cyrion deheuol ardal y Preseli yn dilyn darganfod llechi
'Gwyrdd' Ordofigaidd o ansawdd da (Richards 1998). Mae'n debyg i'r chwarelydda
a'r masnachu ddechrau mor gynnar â chyfnod y Rhufeiniaid pan ddefnyddid
llechi Sir Benfro fel balast ar ochrau'r cei yng Nghaerllion (Boon 1978),
gan ailddechrau yn ystod yr Oesoedd Canol er mwyn diwallu'r galw am ddeunydd
i doeau a waliau adeiladau eglwysig. Mae George Owen, a ysgrifennai tua
1600, yn awgrymu bod masnach sylweddol mewn llechi o Sir Benfro. Dechreuodd
gwaith mawr yng Ngilfach a Thyrch yn ystod y 18fed ganrif ond dim ond
yn ystod y 19eg ganrif y datblygodd cyfundrefnau a mecanweithiau'r diwydiant
pan oedd 20 chwarel o leiaf yn weithredol yn yr ardal (Richards 1998).
Sefydlwyd chwareli mawr, gyda'r gwaith mwyaf dwys yn cael ei gynnal yn
Rosebush a Bellstone a ddechreuodd oddeutu 1830. O tua 1870 ymlaen ehangodd
Rosebush i gyflogi ymhell dros 100 o bobl, gan gynhyrchu 5000 o dunelli,
a gwelwyd pentref, gyda chapel a gwesty, yn datblygu yno (ibid.). Fodd
bynnag, aflwyddiannus fu'r ymgais i sefydlu Rosebush fel canolfan dwristaidd,
ac wedi cau'r chwarel ym 1908 nid ehangodd i fod yn fwy na phentrefan
gwledig. Fodd bynnag, mae'r chwarel yn parhau i fod yn nodwedd weledol
drawiadol yn y dirwedd. Yn ogystal â'r chwareli, cynhyrchwyd calch ar
raddfa fach yn y Preseli. Ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol o leiaf, roedd
ardal y Preseli hefyd yn un o'r prif ganolfannau cynhyrchu gwlân yn Sir
Benfro, gydag o leiaf chwe safle melin bannu a nodwyd a ddyddiai o'r 16eg
ganrif (Lewis 1972) a sawl ffatri a ddyddiai o'r 19eg ganrif, gan gynnwys
Felindre Farchog, lle'r oedd melin wlân a thanerdy, a Brynberian. Yn sgîl
sefydlu'r ffatrïoedd hyn, datblygwyd aneddiadau bach a pharhaodd rhai
ohonynt, megis Pontyglasier, yn gynhyrchiol hyd yr 20fed ganrif. Erbyn
y 1830au roedd diwydiant gwlân ardal Tyddewi wedi tyfu'n fwy na'r diwydiant
gwlân yn y Preseli, a'r nifer uchaf ar gyfer unrhyw ardal oedd dwy ar
bymtheg yn ardal cymdogaeth Tyddewi ei hun gan gynnwys Felin Ganol, sydd
bellach yn gweithredu fel atyniad twristiaeth. Fodd bynnag parhâi economi'r
ardal i fod yn seiliedig yn bennaf ar amaethyddiaeth ac roedd diwydiannau
eraill wedi'u cyfyngu'n bennaf i echdynnu a llosgi calch a glo mân. Sefydlwyd
nifer o chwareli ar hyd yr arfordir yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, tra
bod y rhesi o odynau calch ym Mhorth Clais, er enghraifft, yn elfen arwyddocaol
o dirlun y porthladd. Yn draddodiadol, ar hyd yr arfordir deheuol y sefydlwyd
y chwareli ar gyfer meini adeiladu hefyd, yn enwedig y tywodfaen rhywiog
a gloddiwyd o amgylch Caer Bwdi ac a ddefnyddid wrth adeiladu ochr orllewinol
Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn ogystal ag adeiladau eraill. Dim ond ar raddfa
fach y cloddiwyd am adnoddau mwynol eraill, er enghraifft y mwyngloddiau
copr ar y clogwyni o amgylch Treginnis ar ddechrau'r 19eg ganrif.
PENSAERNÏAETH FRODOROL
Anheddau gwledig Yn ardal gofrestr y Preseli, ac i raddau
llai yn ardal gofrestr Tyddewi, elfen amlycaf y bensaernïaeth frodorol
ddomestig hynaf yw'r ffermdai a'r bythynnod sy'n dyddio o'r 19eg ganrif.
Ar draws de-orllewin Cymru gyfan, ond yn enwedig yng ngogledd Sir Benfro
yn y 19eg ganrif, gwelwyd rhaglen o ailadeiladu a ddileodd ymron pob enghraifft
o'r ffermdai a'r anheddau cynharach. Mae'r tai hyn sy'n dyddio'r 19eg
ganrif yn unffurf iawn eu cymeriad ac wedi'u hadeiladu gan fwyaf o garreg
leol ac iddynt doeau o lechi. Yn wreiddiol, naill ai toeau gwellt neu,
yn fwy tebygol, toeau o lechi lleol a fyddai i'r tai hyn, ond bellach
mae pob un bron wedi'i adnewyddu â llechi masnachol. O ran eu harddull,
tri bae sydd i'r tai, gyda drws ffrynt yn y canol a simneiau yn y talcenni.
Dau lawr sydd i'r rhan fwyaf ohonynt ond ceir enghreifftiau o dai unllawr
a thai unllawr a hanner. Codwyd rhai ohonynt yn ôl yr arddull Sioraidd
'bonheddig', ac mae iddynt gynllun cymesur ac agoriadau cymesur i ddrysau
a ffenestri, ond codwyd y rhan fwyaf o'r tai yn ôl y traddodiad brodorol.
Cynllun isel anghymesur a ffenestri bach sydd i'r tai hyn. Oherwydd ansawdd
da y garreg adeiladu leol yn ardal Tyddewi a'r Preseli, ni rendrwyd nifer
fawr o'r tai â sment; mae hyn mewn gwrthgyferbyniad ag ardaloedd eraill
yn ne-orllewin Cymru lle y gwelir bod y rhan helaethaf o dai carreg a
adeiladwyd yn ôl y cynllun traddodiadol brodorol wedi'u rendro â sment.
Mae maint y ffermdai a'r bythynnod yn dynodi mai cymharol fychan oedd
y daliadau amaethyddol yn y 19eg ganrif. Fodd bynnag maent hefyd yn dynodi
cyfnod o ffyniant amaethyddol i'r ffermwyr bach yn ystod y 19eg ganrif
gan ei bod yn amlwg bod ganddynt adnoddau digonol i fuddsoddi mewn anheddau
newydd. Cofnodir i bridd gael ei ddefnyddio fel deunydd adeiladu yn ardal
y Preseli mewn adeiladau sy'n dyddio, fwy na thebyg, o'r 19eg ganrif,
ond mae'n anodd mesur i ba raddau y'i defnyddiwyd ac i ba raddau y mae
wedi goroesi oherwydd i'r waliau pridd gael eu rendro â sment yn ddiweddarach
gan guddio gwneuthuriad yr adeilad. Felly, gan amlaf, dim ond mewn adeiladau
anghyfannedd neu led-anghyfannedd y gellir gweld ym mha le y defnyddid
pridd. Mae'n bosibl i bridd gael ei ddefnyddio ac iddo oroesi tipyn mwy
na'r hyn a gofnodir, ac mae'n bosibl mai o bridd y codwyd tai y tybir
iddynt gael eu codi o garreg. Yn ardal Tyddewi yn unig, gyda rhai enghreifftiau
prin yn y Preseli, y ceir tai mwy crand a/neu gynharach. Y rhai amlycaf
yw'r tai hynny yn Nhyddewi sy'n dyddio o'r cyfnod is-ganoloesol y mae
iddynt simneiau crwn (Romilly Allen 1902). Mae'r tai hyn wedi goroesi
o gyfnod cynharach o ffyniant amaethyddol. Maent yn dai sylweddol, ac
felly ni chawsant eu hailgodi yn ystod y 19eg ganrif fel yr anheddau llai
a ddyddiai o gyfnodau cynharach. Hefyd yn ardal Tyddewi, arweiniodd datblygiad
ystadau bach preifat yn ystod y 18fed ganrif at godi ffermdai cymharol
rodresgar eu pensaernïaeth. Yn yr un modd â'r tai eu hunain, fe'u codwyd
o garreg ond maent yn fwy o faint ac wedi'u hadeiladu yn yr arddull Sioraidd
'coeth'. Ar benrhyn Tyddewi un o nodweddion amlwg llawer o'r adeiladau
yw sgim sment dros doeau llechi. Mewn ardal mor agored mae i'r arfer hwn
fanteision ymarferol amlwg, ac fe'i gwelir hyd heddiw ar dai sydd wedi'u
haildoi ynghyd ag adeiladau modern; o bosibl at ddibenion esthetig yn
gymaint ag at ddibenion ymarferol. Elfen nodedig o'r dirwedd hanesyddol,
er ei bod yn diflannu'n gyflym, yw'r defnydd o fframiau pren a haearn
gwrymiog neu dun mewn pensaernïaeth ddomestig ar draws gogledd Sir Benfro.
Yr enghraifft fwyaf adnabyddus o'r dull adeiladu hwn yw'r cyn Station
Hotel yn Rosebush a adwaenir bellach fel Y Tafarn Sinc ac a adeiladwyd
ar ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau a
godwyd yn y dull hwn yn dyddio o hanner cyntaf y 19eg ganrif, a bythynnod
unllawr tri bae ydynt gan fwyaf. Ychydig iawn ohonynt sy'n goroesi bellach
ond gellir gweld enghreifftiau mewn sawl lleoliad ym Maenclochog a Llangolman,
i'r de o fynyddoedd y Preseli. Ar wahân i'r adeiladau haearn gwrymiog
a nodwyd uchod ac ambell i ffermdy neu annedd arall a godwyd, prin fu'r
adeiladau domestig gwledig newydd a godwyd yn ystod yr 20fed ganrif cyn
y 1960au a'r 1970au. Ers hynny mae rhai ffermdai a bythynnod wedi'u hailgodi
ac mae tai newydd wedi'u hadeiladu naill ai mewn lleoliadau pellennig
neu mewn pentrefi. Codwyd yr adeiladau newydd hyn mewn amrywiaeth o arddulliau
a deunyddiau a phrin iawn yw'r enghreifftiau sy'n adleisio unrhyw elfen
o bensaernïaeth draddodiadol yr ardal. Adeiladau fferm Mae'r adeiladau
fferm hyn yn dyddio bron yn ddieithriad o'r 19eg ganrif ac o garreg y'u
hadeiladwyd gan fwyaf. Mae rhai adeiladau sydd wedi'u codi o bridd yn
bodoli yn ardal y Preseli ond cymharol brin yw'r rhain. Yn y Preseli a
Thyddewi, fel ei gilydd, cymharol fach yw maint ac ystod yr adeiladau
fferm o'u cymharu â'r rheini sydd i'w cael yn ne Sir Benfro a de Sir Gaerfyrddin.
Yn y Preseli mae'n arferol i fferm gynnwys un neu ddwy res o adeiladau
carreg bach, gyda beudy, stabl, sied certiau ac ysgubor. Mae'r ysguboriau
yn fach. Mae maint ac ystod yr adeiladau yn adlewyrchu economi gymysg
y ffermydd yn y 19eg ganrif a maint cymharol fach y tirddaliadaethau.
Yn ardal Tyddewi ac ar Ynys Sgomer ac Ynys Dewi, mae'r adeiladau fferm
yn fwy na'r rheini yn y Preseli, gyda chyfresi o adeiladau, gan gynnwys
ysguboriau mawr wedi'u cysylltu â ffermdai mwy o faint. Mae cynllun lled-ffurfiol
y ffermdy a'i gyfres o adeiladau fferm o amgylch iard, fel y gwelir mewn
rhannau eraill o dde-orllewin Cymru, yn enwedig yr ardaloedd hynny lle
y ceir ystadau mawr, yn brin yn ardaloedd Tyddewi a'r Preseli. Agwedd
nodedig o'r dirwedd amaethyddol, yn enwedig yn ardal y Preseli ac yn arbennig
i'r de o'r mynyddoedd, yw'r defnydd a wneid o haearn gwrymiog ar gyfer
yr adeiladau fferm. Mae'n debyg mai yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif y
gwelwyd y defnydd mwyaf ohono, ond caiff siediau haearn gwrymiog eu codi
o bryd i'w gilydd hyd heddiw. Siediau gwair crwn a adeiledid gan fwyaf
gan ddefnyddio'r deunydd hwn. Mae nifer o'r rhain yn goroesi hyd heddiw
a chânt eu paentio'n ddu fel arfer. Yn yr un modd ag adeiladau fferm hyn,
mae'r adeiladau amaethyddol modern a godir â dur, concrid ac asbestos
yn gyffredinol yn llai o faint na'r rheini a geir mewn mannau eraill yn
ne-orllewin Cymru. Yr eithriad yw penrhyn Tyddewi lle y mae ffermydd wedi'u
hamgylchynu gan adeiladau mawr modern, yn un o nodweddion y dirwedd.
EGLWYSI A CHAPELI
Yn ninas Tyddewi gwelir peth o'r bensaernïaeth eglwysig
orau yng Nghymru. Mae'n bosibl i gwlt Dewi a thraddodiad pererindota ddyddio
o'r 7fed ganrif. Erbyn y 9fed ganrif roedd y cwlt yn amlwg gysylltiedig
â Thyddewi ei hun. Atgyfnerthwyd y cysylltiad hwn pan gydnabuwyd yr esgobaeth
gan y brenhinoedd Normanaidd a thrwy faddeueb y Pâb Calixtus ym 1123 a
ddatganodd fod dwy daith i Dyddewi yn gyfwerth ag un daith i Rufain (James
1993, 105). Ymddengys i'r cyfan o Gantref Pebidiog ddod i feddiant esgobol
erbyn tua 1100, yn bennaf drwy rodd brenin Dyfed, Rhys ap Tewdwr, ym 1082
(James 1981, 28). Erbyn diwedd y cyfnod canoloesol o leiaf, roedd eglwysi
a chapeli lu yn yr ardal a daethant yn brebendau neu yn adfowsynau'r eglwys
gadeiriol. Fel y nodwyd gan James, 'hyd yn oed heddiw mae i Dyddewi a'r
cyffiniau dopograffi eglwysig rhyfeddol' (James 1993, 105). Mae'r penrhyn
yn dirwedd ddefodol ym mhob ystyr, gyda nifer fawr o gapeli a safleoedd
capeli coll, mynwentydd, ffynhonnau cysegredig a henebion Cristnogol cynnar.
Er bod adeiladau'r capeli eu hunain yn dyddio o'r cyfnod wedi concwest
yr Eingl-Normaniaid, mae rhai - St Justinian's a'r Santes Non, er enghraifft
- yn gysylltiedig â ffynhonnau a mynwentydd a allai ddyddio o'r cyfnod
cyn y goncwest, ac yn sicr roedd safle'r Santes Non wedi'i gysylltu â
chwlt Non, mam Dewi Sant, erbyn i Gerallt Gymro gofnodi ei arsylwadau
ddiwedd y 12fed ganrif. Yn ogystal â hynny, mae bodolaeth 'seilwaith'
eglwysig sy'n gysylltiedig â henebion Cristnogol cynnar y gellir eu dyddio
i'r cyfnod cyn y Goncwest, a'i gyd-destun defosiynol yn hytrach na ffurfiol,
yn awgrymu ei fod yn tarddu o gyfnod cynharach. O ran gweinyddiaeth eglwysig
ffurfiol ddiweddarach, mae ardal Tyddewi yn gorwedd yn bennaf ym mhlwyf
Tyddewi, sydd o bosibl yn sicrhau parhad rhaniad cynharach. Mae Tre-groes,
a gysegrwyd i Dewi Sant hefyd, yn gysylltiedig â heneb Gristnogol gynnar
ac roedd hefyd yn gapelyddiaeth i Dyddewi tan y cyfnod ôl-ganoloesol pan
ddaeth yn blwyf (Ludlow 1998). Y drydedd eglwys sy'n goroesi, yn Llanhywel,
oedd canolbwynt plwyf a darddai o gyfnod cynharach, ac yn wahanol i'r
arfer, fe'i cadwyd gan y Goron tan 1302 pan drosglwyddwyd y fywoliaeth
i'r eglwys gadeiriol (ibid). Mae cryn dipyn o ddeunydd canoloesol i'w
weld o hyd yn y ddwy eglwys, fel sy'n wir am yr eglwys gadeiriol ei hun.
Tymhestlog fu dyddiau cynnar Anghydffurfiaeth yn ardal Tyddewi ond roedd
wedi bwrw'i gwreiddiau'n ddwfn erbyn diwedd y 18fed ganrif gyda nifer
o gapeli ffurfiol yn cael eu codi. Mae rhai o'r capeli hyn bellach yn
adeiladau rhestredig, fel capel hynaf y Methodistiaid ym mhlwyf Caerfarchell,
a adeiladwyd ym 1763. Dechreuodd Anghydffurfiaeth fel crefydd ar yr aelwyd
a nodwedd arbennig o'r ardal yw bod y pentrefannau, yr oedd eu patrwm
bellach yn nodwedd o'r ardal erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, bellach
yn grwp o adeiladau fferm ôl-ganoloesol sydd yn aml yn cynnwys capel ee
Carnhedryn a Llandidgige. Mae'r rhain fel arfer yn dyddio o ddiwedd y
18fed ganrif neu'r 19eg ganrif, ac yn perthyn i amrywiaeth o enwadau,
ac ymddengys fod rhai ohonynt wedi'u hadeiladu ar safle crefyddol cynharach.
Yn ôl hanes lleol, roedd Maes-y-mynydd ger Tyddewi yn anheddiad a mynwent
i'r Crynwyr. Mae topograffi eglwysig hefyd yn perthyn i ardal y Preseli
- ac i Gemaes yn gyffredinol - ac er mai eiddo sefydliadau uchel fynachaidd
sy'n tra-arglwyddiaethu, mae'r topograffi hwn yn tardduo ddyddiau cynnar.
Roedd eglwys plwyf Llandeilo Llwydarth sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd
Canol yn safle un o'r saith 'tai esgob' fel y'u gelwid a ddyddiai o'r
cyfnod cyn goresgyn Dyfed ac mae'n bosibl bod y safle wedi'i gysegru i
Deilo mewn cyfnod cynnar. Mae dwy Heneb Gristnogol Gynnar o'r safle bellach
yn eglwys Maenclochog ac yn ôl y chwedl sy'n gysylltiedig â'r ffynnon
gysegredig gerllaw, yfwyd y dwr o benglog Teilo Sant ei hun. Yn ystod
y cyfnod canoloesol cysylltwyd Llandeilo, ynghyd ag eglwys y plwyf yn
Llangolman gerllaw, â ficerdy Maenclochog, a roddwyd i Abaty Llandudoch
gan David de la Roche oddeutu 1320 (Ludlow 1998). Ailgodwyd eglwysi Llangolman
a Maenclochog yn llwyr yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, tra bod
eglwys Llandeilo bellach yn adfail. Roedd abaty Tironaidd Llandudoch yn
cynrychioli'r presenoldeb eglwysig amlycaf yn yr ardal hon. Roedd hefyd
yn berchen ar y faenor fawr Nigra Grangia a roddwyd ym 1118 gan William
Fitzmartin, Arglwydd Cemaes, a chynhwysai'r rhan helaethaf o blwyf diweddarach
Mynachlog-ddu. Roedd ei eglwys ganoloesol, a gysegrwyd i Dudoch Sant,
yn wreiddiol yn gapel maenorol (ibid). Hwyrach bod capel maenorol arall
o fewn y plwyf, a gysegrwyd i Sulyn Sant, yn tarddu o gyfnod cynharach.
Roedd Sistersiaid Abaty Hendy-gwyn hefyd yn dirfeddianwyr yn yr ardal
ac roedd maenor fawr Llwyn-yr-ebol yn eiddo iddynt ynghyd â hawliau pori
o fewn Maenclochog. I'r gogledd o Fynydd y Preseli ceir casgliad pellach
o safleoedd eglwysig a oedd yn gysylltiedig ar un adeg â phlwyf canoloesol
mawr Eglwyswrw. Ymddengys fod eglwys Eglwyswrw ei hun, a gysegrwyd bellach
i Gristiolus Sant, wedi'i lleoli ar safle cynharach a'i bod wedi'i chysegru'n
wreiddiol i'r Forwyn Fair yn ogystal â'r gapelyddiaeth ddibynnol yn Llanfair
Nant-Gwyn, a ddaeth yn eglwys y plwyf yn ddiweddarach, ynghyd â nifer
o ffynhonnau yn yr ardal gyfagos (Ludlow 1998b). Roedd eglwys y plwyf
yn Eglwyswen - sy'n segur yn awr ond a ailgodwyd yn y 19eg ganrif fel
yn achos Llanfair ei hun - hefyd yn gapelyddiaeth i Eglwyswrw ond roedd
eglwys Meline gerllaw yn eglwys y plwyf o'r cyfnod canoloesol pan oedd
o dan nawdd rhyddfreinwyr y faenor yr oedd ganddynt yr hawl, bob yn ail,
i gyflwyno'r fywoliaeth yn ôl ffurf arbennig ar hen arfer Cymreig (Ludlow
1998). Mae'r eglwys - a gysegrwyd i Dudoch Sant, sef y prif ffigwr cwlt
yn yr ardal - wedi'i lleoli mewn mynwent gron a gall fod yn dyddio o'r
cyfnod cynnar, ond fe'i hailadeiladwyd yn y 19eg ganrif, er i ffrâm ddrws
sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ac arni fowldiau wynebau dynol
grotésg, gael ei chadw. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal ogleddol hon yn gorwedd
o fewn plwyf canoloesol Nanhyfer ac mae'r eglwys gaeëdig yn y Cilgwyn
yn goroesi fel capel anwes a gafodd ei ailadeiladu'n helaeth. Yn y Cilgwyn
hefyd y gwelir un o adeiladau Anghydffurfiol gorau Cemaes, sef Capel Caersalem
gyda'r pwll bedyddio allanol a adeiladwyd ym 1841 ar gyfer cymuned a sefydlasid
ym 1820 (Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997). Arweiniwyd y Bedyddwyr
yn ardal y Preseli a thu hwnt gan gymuned y capel hyn yn Rhydwilym, a
sefydlwyd yn gynnar iawn ym 1668 o dan nawdd teuluoedd bonedd lleol, ac
a gafodd, o'r cychwyn cyntaf, ddylanwad trwm iawn dros ardal eang (Lewis
1975). Ymhlith y capeli cynnar eraill mae Capel Bethel ym Mynachlog?ddu
a sefydlwyd ym 1794, ac mae'r Tabernacl ym Maenclochog a godwyd fel capel
annibynnol yng nghanol y 19eg ganrif yn dilyn anghydfod mewnol ymhlith
cynulleidfa yr Hen Gapel a adeiladwyd ddechrau'r 19eg ganrif yn dyst i'r
rhaniadau parhaus a fu (Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997).
CAEAU CYNHANESYDDOL
Dim ond ar dir ymylol y ceir tystiolaeth o gaeau cynhanesyddol,
fel Penmaendewi, Ynys Sgomer a Mynyddoedd y Preseli; er hynny nid oes
amheuaeth na fu caeau o'r fath yn gyffredin yn yr ardal astudiaeth hon.
Nid oes sicrwydd pendant ynghylch y math o ddylanwad a gafodd caeau cynhanesyddol
dros y dirwedd hanesyddol ddiweddarach, ond tybir bod y systemau caeau
diweddarach wedi dileu'r ffiniau cynharach hyn ymron i gyd. Nodwyd dau
fath o system caeau. Ar Benmaendewi, gellir gweld ffiniau hir a syth sy'n
ymestyn dros sawl kilometr gan rannu'r dirwedd yn flociau mawr (Murphy
2001), patrwm a adwaenir fel system caeau cyfechelin. Sefydlwyd y rhaniadau
hyn fel system unedig o dan nawdd unigolyn neu grwp pwerus yn yr ail fileniwm
CC. Prin yw'r dylanwad a gafodd y system hon ar dirwedd fodern Penrhyn
Tyddewi, gan mai dim ond ychydig o ffiniau'r caeau heddiw sydd wedi'u
halinio â hwy. Fodd bynnag, mewn mannau eraill yn Sir Benfro, mae Kissock
(1993) wedi nodi sawl plwyf lle y mae system caeau cyfechelin dybiedig
wedi dylanwadu'n gryf ar siâp a ffurf y caeau sy'n bodoli heddiw. Mae
ail ffurf y system caeau yn cynnwys ffiniau dolennog sydd yn aml yn gysylltiedig
â chylchoedd cytiau a chlostiroedd. Gwelir yr enghraifft orau o'r math
hwn o system ar Ynys Sgomer (Evans 1990), ac yna ar Benmaendewi, ac mae
nifer o safleoedd gwahanol ar Fynyddoedd y Preseli. Tybir bod y systemau
hyn yn dyddio o'r oes haearn, ond ni phrofwyd hyn i sicrwydd. Ymddengys
mai ychydig iawn o ddylanwad a gafodd y math hwn o system caeau ar y dirwedd
amaethyddol fodern.
CAEAU AGORED A'U CLOSTIROEDD
Yn ystod yr Oesoedd Canol, yr arfer, ymron yn ddieithriad,
oedd trin y tir ffermio mewn systemau caeau agored (a elwir hefyd yn gaeau
isranedig neu gaeau comin). Yn y system hon tir comin a fyddai'r tir hwn,
ac ar wahân i ambell i glos a phadog yn gysylltiedig â ffermydd, prin
iawn oedd y clostiroedd a rhennid y tir yn lleiniau neu'n rhannau o fewn
caeau mawr agored. Tir diffaith a thir comin heb ei drin oedd y tu hwnt
i'r caeau agored hyn. Yn draddodiadol ni fyddai'r lleiniau o fewn y caeau
agored yn perthyn i un ffermwr ond yn hytrach caent eu cylchdroi yn flynyddol.
Fodd bynnag erbyn y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif daeth hawliau trin rhai
lleiniau o fewn y caeau agored i ffermwyr unigol. Drwy fargeinio a chyfnewid
gellid cronni sawl llain wrth ymyl ei gilydd. Mater syml wedyn oedd codi
gwrych o amgylch y lleiniau a gronnwyd. Drwy'r broses hon felly y newidiwyd
y caeau comin agored yn systemau caeau dan berchenogaeth breifat sy'n
bodoli hyd heddiw. Roedd dyddiad a chyflymder y broses o amgáu'r caeau
agored yn amrywio'n fawr. Ar dir fferm llewyrchus gogledd Sir Benfro,
i'r gogledd o Fynyddoedd y Preseli, roedd systemau caeau agored i'w cael
ym mhobman pan ysgrifennodd George Owen ei ddisgrifiad o Sir Benfro oddeutu
1600. Ond mae'n debyg iddynt ddiflannu ymron yn llwyr o fewn cenhedlaeth
neu ddwy a'u disodli gan gaeau cymharol fawr, rheolaidd eu patrwm wedi'u
hamgylchynu gan gloddiau a gwrychoedd. Prin iawn bellach yw'r dystiolaeth
weledol o'r caeau agored blaenorol. Mae'r ffaith iddynt gael eu disodli
mor gyflym, ynghyd â phatrwm cydlynus y caeau newydd, yn awgrymu i'r broses
fynd rhagddi â sêl bendith y gymuned amaethyddol fel rhan o raglen o welliannau
amaethyddol. I'r de o Fynyddoedd y Preseli, mae olion gweledol y caeau
agored blaenorol yn amlycach o lawer yn y dirwedd fodern. Yma, ymddengys
i'r broses o newid fynd rhagddi'n arafach, gyda'r gwaith o amgáu lleiniau
unigol a lleiniau a feddiannwyd yn cael ei adael i ffermwyr unigol. Yn
sgîl hyn, mae ôl lleiniau'r caeau agored blaenorol i'w gweld yn y dirwedd
fodern. Gwelir enghraifft dda o hyn ym Maenclochog lle yr adlewyrchir
caeau agored blaenorol y gymuned, a hyd yn oed leiniau unigol, ym mhatrwm
y caeau sy'n bodoli heddiw. Dim ond ar ddiwedd y 18fed ganrif y daeth
y broses o amgáu'r caeau agored i ben. Mewn gwrthgyferbyniad, ni chwblhawyd
y broses o amgáu caeau agored ar benrhyn Tyddewi a Phebidiog yn gyffredinol
hyd ddechrau'r 19eg ganrif i ganol y 19eg ganrif. Roedd rhannau helaeth
o'r ardal honno yn parhau heb eu hamgáu ac yn 'agored i'r tymhestloedd'
pan ysgrifennai Owen oddeutu 1600 ac felly y bu tan y 18fed ganrif a dechrau'r
19eg ganrif, fel y tystir gan Charles Hassall ym 1794 (Howells 1987).
Mae mapiau ystad sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a gedwir yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru ac yn Archifdy Sir Benfro yn cofnodi tirwedd gyfnewidiol
iawn. O amgylch dinas Tyddewi roedd rhai lleiniau yn parhau i gael eu
defnyddio mewn system caeau agored ar ddiwedd y 18fed ganrif tra amgaewyd
eraill yn gaeau hir, crwm. Erbyn arolwg degwm 1840-1 roedd y broses amgáu
wedi'i chwblhau. Er i nifer o'r caeau hir, crwm a grëwyd o ganlyniad i'r
broses amgáu, gael eu hymgorffori mewn patrymau mwy rheolaidd, ac er bod
rhai wedi diflannu o dan ddatblygiadau'r ddinas, gellir gweld ôl patrwm
y system caeau agored o hyd. Roedd system caeau agored dinas Tyddewi yn
system gonfensiynol Seisnig, a sefydlwyd gan ac ar ran bwrdeisiaid y ddinas.
Mewn mannau eraill ar y penrhyn roedd cymeriad gwahanol iawn i'r caeau
agored. Mae Tretïo, Treleidr a Threleddyd ymhlith y pentrefannau a nodir
fel aneddiadau cnewyllol ar fapiau ystad ddiwedd y 18fed ganrif, a dangosir
rhai ohonynt wedi'u hamgylchynu gan system caeau isranedig. Nid y lleiniau
hir, cul a chrwm a oedd mor nodweddiadol o system caeau agored 'Seisnig'
mo'r rhain ond, yn hytrach, lleiniau neu leini byr a hirsgwar wedi'u gwasgaru
dros ardal eang ac a oedd wedi goroesi o ddyddiau system dirddaliadaeth
Gymreig. Yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif trawsnewidiwyd
y systemau caeau agored hyn yn dirwedd o gaeau mawr hirsgwar. Prin y gwelir
unrhyw dystiolaeth o'r caeau agored blaenorol yn y dirwedd.
MEDDIANNU TIR COMIN A THAI UNNOS
Erbyn y 18fed ganrif roedd y tir amaethyddol ar benrhyn
Tyddewi yn cael ei ddefnyddio ymron i gyd ac nid oedd llawer o gyfle gan
bobl i greu ffermydd newydd neu gaeau newydd o'r ychydig dir comin a oedd
ar gael. Yn ardal y Preseli, fodd bynnag, roedd ardaloedd helaeth o dir
comin, tir diffaith a thir mynyddig ar gael, ac yn ystod y cyfnod o gynnydd
mawr yn y boblogaeth a barodd hyd at ganol y 19eg ganrif, sefydlwyd llawer
o ffermydd newydd a daeth tir a fu unwaith yn ddiffaith, yn dir âr. Yn
gyffredinol sefydlwyd ffermydd ar dir rhwng 200m a 300m yn ystod y cyfnod
hwn. Roedd aneddiadau parhaol eisoes yn bodoli ers canrifoedd ar dir islaw
200m, ac uwchlaw 300m nid oedd y rhostir agored yn ddigon caredig i ffermwyr.
Ar ochr ogleddol Mynyddoedd y Preseli, mae tir ffermio ffrwythlon a chymharol
isel yn codi'n sydyn i rostir uchel agored ac felly dim ond llain gul
o dir a oedd yn addas i'w feddiannu. Serch hynny, dengys arolwg degwm
oddeutu 1840 y meddiannwyd cyrion y tir comin hwn. Ar y tir ei hun nodweddir
y feddiannaeth hon gan ddaliadau amaethyddol bach - bythynnod neu dai
bychain gyda chyfres gyfyngedig o dai allan, os o gwbl - mewn tirwedd
o gaeau bach afreolaidd. Mae llawer o'r aneddiadau hyn ar ymylon uwch
y tir hwn bellach yn anghyfannedd. Ar ochr ddeheuol Mynyddoedd y Preseli
ceir llain lydan o dir bryniog sydd ymron i bum kilometr o led mewn mannau
a rhwng 200m a 300m o uchder, a fu, hyd at yr 17eg ganrif, yn rhostir
agored. Er enghraifft, ar ddiwedd yr 17eg ganrif, disgrifiwyd y dirwedd
o amgylch Glandy Cross fel rhostir a gweundir gan Edward Llwyd. Fe'i meddiannwyd
a'i amgáu erbyn dechrau'r 19eg ganrif. Yn Rhos-fach, ym mhlwyf Llangolman,
mae bythynnod a ffermydd bach mewn tirwedd o gaeau bach afreolaidd yn
cynrychioli meddiannaeth y tir comin. Gan i dir i'r gogledd o'r ardal
hon gael ei hamgáu gan Ddeddf Seneddol (gweler isod) ym 1815, tybir i'r
ffermydd a'r caeau gael eu creu yn y 18fed ganrif neu ynghynt. Yn ystod
y 18fed a'r 19eg ganrif gelwid tai newydd ar dir comin yn dai unnos. Yn
ôl y traddodiad, byddai gan rywun hawl i'w dy pe câi ei adeiladu mewn
un noson a phe bai mwg yn dod o'r simne erbyn toriad gwawr. Gallai'r perchennog
newydd hefyd amgáu y tir hwnnw a fesurid yn ôl pa mor bell y gallai daflu
bwyell. Mewn mannau eraill yng Nghymru heriwyd yr hawl hon i adeiladu
ar dir comin yn daer gan ystadau mawr, y Goron, rhydd-ddeiliaid a thenantiaid
(Murphy 1999, 16-18), ond yng ngogledd Sir Benfro dangoswyd goddefgarwch
a hyd yn oed anogaeth i'r arfer hwn. Er enghraifft, ym 1786, ym mhlwyf
Llanfyrnach, darparwyd gwellt a byrddau i deulu er mwyn gorffen bwthyn
a adeiladwyd ar dir comin gyda 'sêl bendith Arglwydd y Faenor' (Lewis
d.d., 79-80). Fodd bynnag, bu anghydfod, a chofnoda Lewis (ibid., 61)
i wrychoedd a godwyd yn anghyfreithlon ym 1802 ar dir comin ym mhlwyf
Llanfyrnach, gael eu tynnu i lawr. Mae'n annhebygol bod unrhyw dai unnos
neu fythynnod sgwatwyr yn bodoli yn eu cyflwr gwreiddiol. Mae'r rhan fwyaf
ohonynt wedi'u hailadeiladu neu eu haddasu, droeon o bosibl, yn ystod
eu hoes. Er i'r broses o greu ffermydd newydd ddod i ben fwy neu lai erbyn
canol y 19eg ganrif, gwelwyd enghreifftiau o rostir yn cael ei amgáu a'i
ffermio o hyd, a hynny yn yr 20fed ganrif. Gellir gweld enghreifftiau
o hyn mewn pantiau cysgodol ar ochrau deheuol Mynyddoedd y Preseli.
Y DEDDFAU CAU TIR
Dim ond cyfran fechan o benrhyn Tyddewi a amgaewyd gan
Ddeddf Seneddol, ond i'r de o Fynyddoedd y Preseli, cafodd y dull ffurfiol
hwn o amgáu tir effaith fawr ar rannau o'r dirwedd. Pasiwyd dau ddyfarniad
cau tir, un ym 1815 ym mhlwyf Llangolman ar ochrau deheuol Mynyddoedd
y Preseli a'r llall ym 1812 ym mhlwyf Llanfyrnach, ar ochrau de-ddwyreiniol
y mynyddoedd. Yn y ddau achos rhostir agored oedd y tir cyn ei amgáu.
Yn sgîl yr amgáu crëwyd tirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau rheolaidd
a ffyrdd syth. Ym mhlwyf Llanfyrnach, mae'r dirwedd a sefydlwyd ddechrau'r
19eg ganrif yn parhau hyd heddiw. Mae tirwedd clostiroedd yn Llangolman
wedi dioddef yn sgîl diboblogi; gadawyd ffermydd ar y lefelau uwch yn
wag a phlannwyd coedwigoedd coniffer ar draws rhai o'r caeau blaenorol.
CAEAU A FFINIAU'R CAEAU
Fel y disgrifiwyd uchod esblygodd y rhan fwyaf o'r patrwm
caeau modern naill ai o'r systemau caeau agored yn ystod y cyfnod rhwng
yr 17eg ganrif i'r 19eg ganrif neu fe'i crëwyd gan y broses o amgáu rhostir
a thir diffaith yn ystod yr un cyfnod. Yn aml iawn bydd ffurf a chymeriad
y caeau yn cynnig awgrym o'u dyddiad a'r dull a ddefnyddid i'w creu. Er
enghraifft, crëwyd patrwm rheolaidd unionlin gan broses amgáu'r Deddf
Seneddol, tra crëwyd tirwedd o gaeau bach afreolaidd gan y broses o feddiannu
tir comin. Gellir gweld gwahaniaethau o ran manylion hefyd. Mae ffiniau
caeau a grëwyd o ganlyniad i Ddeddf Seneddol yn tueddu i fod yn unffurf
o ran eu maint a'u gwneuthuriad ar draws yr ardal o glostiroedd. Mae hyn
yn gwrthgyferbynnu ag ardaloedd lle y datblygodd y caeau mewn modd mwy
naturiol a lle y gwelir mwy o amrywiaeth o ran y math o ffiniau. Fodd
bynnag ni cheir llawer o amrywiaeth yn y mathau o ffiniau caeau a geir
yn y Preseli a Thyddewi. Yn ddiau y ffin hanesyddol fwyaf cyffredin yw'r
clawdd pridd a cherrig; er bod y math hwn yn cynnwys y clawdd sy'n nodweddiadol
o Sir Benfro - sef haenau o dyweirch a cherrig am yn ail - dim ond yn
achlysurol y'i cofnodwyd yn Nhyddewi neu'r Preseli. Y cloddiau amlycaf
yw cloddiau syml o bridd yn gymysg a cherrig. Mae'r gyfran o bridd a cherrig
yn amrywio yn ôl yr hyn a oedd ar gael yn lleol. Mewn rhai lleoliadau,
ond yn enwedig ar hyd ffyrdd a llwybrau, ac yn aml am ysbeidiau byr iawn,
caiff y cloddiau hyn eu gorchuddio â waliau cerrig sych, er mwyn eu diogelu,
mae'n debyg, rhag trafnidiaeth ac anifeiliaid. Ar dir uwch, ond hefyd
ar lefelau is, ceir cloddiau sydd wedi'u creu ymron yn gyfan gwbl o garreg
lanw. Mae'n arferol i wrychoedd gael eu plannu ar gloddiau terfyn. Gall
ansawdd, cyflwr a'r math o wrychoedd fod yn bwysig wrth bennu cymeriad
ardal. Ar lefelau is mewn mannau cysgodol, mae gwrychoedd sydd wedi'u
cadw'n dda, ac weithiau coetrychoedd yn aml yn creu ymdeimlad o dirwedd
amgaeëdig iawn. Ar y llethrau uwch, mwy agored, yn aml iawn rhesi gwasgarog
o lwyni yw'r gwrychoedd neu mae rhai ohonynt wedi'u disodli'n llwyr gan
ffensys gwifren. Mae hyn yn gwneud i'r dirwedd edrych yn fwy agored ac
yn darparu ardal o drawsnewid rhwng y dirwedd is amgaeëdig a'r rhostir
agored uwch. Oherwydd natur agored iawn penrhyn Tyddewi, rhesi isel gwasgarog
a digysgod o eithin a llwyni eraill yw'r gwrychoedd yma. Gan nad ydynt
ynddynt eu hunain yn rhwystrau effeithiol rhag anifeiliaid, mae'r cloddiau
yn anferth. Nid yw'n anarferol gweld cloddiau sy'n fwy na 2m o uchder.
Yr ail fath mwyaf cyffredin o ffin hanesyddol yw'r waliau cerrig sych,
er nad ydynt yn niferus iawn a dim ond mewn ychydig o leoliadau y maent
yn amlwg. Ceir grwpiau ohonynt ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli,
ar ben gorllewinol eithaf Penrhyn Tyddewi, ar Ynys Dewi ac ar Ynys Sgomer.
Ar yr ynysoedd hyn, y waliau cerrig sych yw'r math traddodiadol o ffin.
Ar wahân i'r ffensys gwifrau a phostyn, sydd i'w gweld ym mhobman, prin
iawn yw'r mathau eraill o ffiniau caeau ac yn aml mân elfennau o'r dirwedd
hanesyddol ydynt. Un o nodweddion tirwedd amaethyddol Tyddewi, nad yw
mor gyffredin yn ardal y Preseli yw'r defnydd a wneid o bileri gatiau
carreg â morter wrth fynedfeydd y caeau. Mae ffermio âr yn elfen bwysig
yn economi amaethyddol Tyddewi, fel y bu erioed, ac mae mynedfeydd digon
llydan i beiriannau amaethyddol yn hanfodol, gyda'r pileri yn amddiffyn
y cloddiau. Mae llawer o'r pileri wedi'u disodli bellach gan flociau concrid.
Yn ardal mwy bugeiliol y Preseli, mae'r mynedfeydd i'r caeau yn gul gyda
physt pren neu bileri carreg.
RHOSTIR A THIR COMIN
Roedd y tir comin nas amgaewyd yn ne-orllewin Cymru
yn bodoli ar ddwy ffurf: i) tir comin ffurfiol lle y delid hawliau pori
gan y rhyddfreinwyr fel rhan o'u rhwymedigaethau a'u hawliau maenorol,
neu ii) ardaloedd o dir mwy gwael, gwlyb yn aml, a neilltuwyd fel tir
diffaith anffurfiol. Yn Nhyddewi, yn arbennig, mae'r gwahaniaeth yn parhau
yn amlwg mewn enwau llefydd lle y gwelir yr elfennau 'comin' a 'gwaun'.
Roedd tir nas amgaewyd o'r ddau gategori uchod yn gyffredin yn ardaloedd
y Preseli a Thyddewi, er mai ucheldir helaeth Mynydd y Preseli ei hun
oedd, ac sydd, i gyfrif am y mwyafrif ohono yn ardal y Preseli. Er y ceir
tystiolaeth o ffermio cynhanesyddol ar lethrau Mynydd y Preseli, rhostir
agored fu'r tir yn hanesyddol erioed. Ffurfiolwyd yr hawl i'w ddefnyddio
mewn siarter gan Nicholas Fitzmartin, Arglwydd Cemaes, ar ddiwedd y 13eg
ganrif, a oedd yn caniatáu hawliau pori a thorri mawn i ryddfreinwyr Cemaes
(Howells 1977, 23). Diffiniwyd y tir comin hwn mewn arolwg a gynhaliwyd
ym 1594 a nodai mai'r ffiniau oedd "Ffordd y Ffleminiaid a Bwlch-y-gwynt
gan fynd yn anuniongyrchol i'r dwyrain tuag at Flaenbanon gan ddisgyn...mor
bell â'r Eglwyswen, Meline a Chilgwyn" (ibid). Mae "Ffordd y Ffleminiaid"
(neu Via Flandrensica") a nodir yma ac mewn dogfennau cynharach yn gloddwaith
amlwg yr ystyrir mai llwybr cynhanesyddol ydyw. Mae arolwg 1594 yn ei
gwneud yn amlwg 'na fu i'r arglwydd wella'r comin erioed', ac mae'n parhau
yn dir agored hyd heddiw. Fodd bynnag dechreuwyd amgáu tir comin neu dir
diffaith ar ochr ddeheuol Mynydd y Preseli yn ystod y 16eg ganrif. Er
enghraifft, roedd maenor Llandudoch, Nigra Grangia, (Mynachlog-ddu) yn
cynnwys 5 gweddgyfair gwerth £8 15s 6c ym 1535 (Lewis 1969), ond aseswyd
mai dim ond hanner ffi marchog oedd ei werth, a'r awgrym felly yw mai
tir agored ydoedd yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, yn y 16eg ganrif,
roedd plwyfolion Eglwys Wythwr, ger Llandudoch, yn hawlio hawliau comin
dros 'diroedd penodol a elwir Llethr' ym mhlwyf Mynachlog-ddu (ibid).
Mae cyfeiriad uniongyrchol at hafota a hendrefa yn anarferol yn ne-orllewin
Cymru ac ymddengys mai parhad ydoedd o'r hyn a arferid o dan rheolaeth
Abaty Llandudoch. Fodd bynnag yng nghanol y 16eg ganrif, disgrifiodd Llys
yr Ychwanegiadau diroedd o fewn Mynachlog-ddu fel 'daliadau' gan awgrymu
bod proses ffurfiol o amgáu'r faenor wedi dechrau, ac mae patrwm presennol
y ffiniau o fewn yr ardal yn nodweddiadol o ddulliau amgáu yn y cyfnod
ôl-ganoloesol cynnar. Mae maenor Maenclochog, hefyd ar ochr ddeheuol Mynydd
y Preseli, yn cynnwys sawl ardal ar wahân o dir comin sy'n cynrychioli
olion ardal helaethach a barhaodd yn dir agored yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.
Ym 1724 hawliwyd hawliau torri mawn yn yr ardal hon (Howells 1987) sy'n
awgrymu bodolaeth tir comin ffurfiol helaeth. Fodd bynnag, ym 1301, rhoddodd
Arglwydd Maenclochog, David de la Roche, hawliau pori i fynachod Abaty
Hendy-gwyn ar Daf ar gyfer eu ceffylau 'ar y Preseli a'r tiroedd diffaith
o'u hamgylch am saith mlynedd am geiniog ac am 2 swllt wedi hynny' (Hunter
1852) sydd yn ôl pob tebyg yn cyfeirio at yr un ardal. Mewn gwrthgyferbyniad,
roedd tir comin yn ardal Tyddewi yn brinnach ac fe'i rheolid mewn modd
mwy ffurfiol. Patrwm anheddu amlycaf yr ardal yw dwysedd uchel o bentrefannau
bach yn seiliedig yn bennaf ar dreflannau, ac a aseswyd yn Llyfr Du Tyddewi
dyddiedig 1326 (Willis Bund 1902). Ymddengys fod nifer ohonynt yn gysylltiedig
â dwy ardal ar wahân o dir comin. Gelwid un ardal yn gomin a'r llall yn
waun. Y gweundir oedd y tir diffaith. Fodd bynnag, gwelir yr un math o
gysylltiad rhwng tir comin o fewn treflannau nas cofnodwyd cyn y 17eg
ganrif. Yn ne'r ardal rhannwyd llain fawr agored o dir diffaith rhwng
pum treflan o leiaf ac roedd gan bob treflan hawl i ran o'r tir hwn. Ni
ellir diffinio gwahaniaeth gweledol bellach rhwng yr ardaloedd hyn ond
mae llawer o'r ardal wedi'i meddiannu gan safle Maes Awyr Tyddewi a ddatblygwyd
yno yn ystod yr 20fed ganrif. Mae ardal fwy o dir comin creiriol yng nghanol
y penrhyn, sef Dowrog, yn cynrychioli ardal o dir diffaith nas amgaewyd
byth, ond ymddengys fod ardaloedd amlwg o dir a feddiannwyd o amgylch
Tretïo, yn ddrylliau o gaeau agored yn hytrach na lleiniau o dir a feddiannwyd
gan sgwatwyr. Mae'n bosibl bod y rhain yn cynrychioli asartau sy'n dyddio
o'r 13eg ganrif neu'r 14eg ganrif.
COEDWIGOEDD A CHOETIR
Nid yw coetir collddail lled-naturiol yn elfen amlwg
yn nhirwedd y Preseli ac ni cheir coetir o gwbl ar benrhyn Tyddewi, Ynys
Dewi ac Ynys Sgomer. O fewn ardal y Preseli, mae coetir collddail i'w
gweld ar lethrau serth dyffryn y Cleddau Wen i'r de o'r mynyddoedd ac
i'r gogledd ar lethrau dyffryn Nanhyfer a Chwm Gwaun uchaf o amgylch y
Cilgwyn. Mae coetir hanesyddol cwm Gwaun yn parhau yn drwchus, ac mae'r
patrwm presennol o gaeau afreolaidd bach yn debygol o fod yn deillio o
broses ysbeidiol o amgáu'r coetir ar ddiwedd yr Oesoedd Canol ac ar ddechrau'r
cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'n cynnwys Coedwig Pentre Ifan a fu, fel rhan
o'r gyn Goedwig Cilruth, o dan awdurdod Barwniaeth Cemaes ers yr 12fed
ganrif ac y defnyddiwyd y geiriau 'rhyfeddod...i weld y fath goed teg'
amdano ym 1603 (Trethowan 1998). Roedd coedwigoedd y Wenallt a'r Brithdir
i'r gogledd yn 'fân goedwigoedd' yn ystod y 16eg ganrif. Dechreuodd y
gwaith clirio ac amgáu erbyn y 13eg ganrif pan sefydlwyd nifer o ddaliadau,
yn ôl traddodiad, ar hen goetir a gliriwyd. Ers canol y 19eg ganrif, mae
rhai o'r daliadau hyn wedi'u gadael yn wag ac yn ôl tystiolaeth o fapiau
ac arsylwadau maes, gwelir bod cryn dipyn o'r coetir modern wedi'i adfer
ar dir hen gaeau a ffermydd. Rheolwyd y gwaith adfer hwn gan yr ystadau
cyfagos ac adeiladwyd lein fach ym Mhentre Ifan ar gyfer y gwaith hwn.
Bellach caiff llawer o'r coetir ei reoli gan y Fenter Coedwigaeth a Pharc
Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae planhigfeydd coniffer sy'n dyddio
o ail hanner yr 20fed ganrif yn elfen nodweddiadol o lethrau deheuol Mynyddoedd
y Preseli. Plannwyd y fwyaf o'r rhain, Pant Maenog, sydd dros 300 ha,
ar rostir agored neu gaeau segur. Mae'n elfen amlwg o'r dirwedd yn enwedig
pan y'i gwelir o'r dwyrain a'r de-ddwyrain. Fe'i plannwyd ar ôl cau chwarel
lechi Bellstone ym 1908, ac mae rhai elfennau o'r gwaith llechi yn bodoli
o hyd o dan y goedwig. Mae'r planhigfeydd eraill yn gymharol fach o ran
maint, ond serch hynny, maent yn elfennau amlwg yn lleol.
CYSYLLTIADAU
Er i nifer o hynafiaethwyr o'r 18fed a'r 19eg ganrif
honni bod Ffordd Rufeinig yn bodoli rhwng Caerfyrddin a Thyddewi, y Via
Julia fel y'i gelwir, mae'n bosibl bod rhyw fath o sail i'r honiad hwn.
Yn dilyn gwaith maes diweddar canfuwyd bod ffordd yn rhedeg i'r gorllewin
o Gaerfyrddin i Sir Benfro fel y mae heddiw (Page i ddod). Awgrymodd Fenton
a Colt-Hoare i'r ffordd hon ddirwyn i'w therfyn ym Mhorth Mawr, y traeth
tywod llydan i'r gorllewin o Dyddewi "lle yr arferid, am oesoedd lawer,
hwylio am Iwerddon" (Fenton 1903, 65), ond nis gwyddys hyd yn hyn i ble
yr arweiniai'r ffordd hon. Fodd bynnag, mae Porth Mawr ymhlith nifer o
borthladdoedd naturiol o amgylch ardal Tyddewi, gan gynnwys St Justinian's
lle dangoswyd bodolaeth capel a ddyddiai o ddiwedd yr Oesoedd Canol ond
a adeiladwyd ar safle cynharach, gan awgrymu i'r porthladdoedd hyn gael
eu defnyddio o gyfnod cynnar iawn. Mae sawl cyfeiriad o ddechrau'r cyfnod
canoloesol at bererinion Gwyddelig, yn ogystal â brenhinoedd ac ysbeilwyr,
yn defnyddio'r mannau glanio hyn (Janes 1993, 106) a allai fod o gymorth
i gadarnhau'r defnydd a wnaed o lwybr a fodolai eisoes. Roedd St Justinian's
hefyd yn gwasanaethu Ynys Dewi lle y ceir cyfeiriadau at ddau gapel cynnar.
Ymhlith porthladdoedd mwy cysgodol yr arfordir deheuol mae Porthlysgi
a Phorth Clais. Roedd cabidwl Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn masnachu o Borth
Clais erbyn 1381 fan bellaf. Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif roedd porthladd
Porth Clais yn ganolfan i fasnach ffyniannus mewn gwenith, calch a glo
mân. Ar wahân i brif ffordd yr A487 sy'n cyrraedd Tyddewi o'r de-ddwyrain
ac yn ei gadael i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain, gan ddilyn llwybr ffordd
dyrpeg y 18fed ganrif yn ogystal â ffyrdd cynharach o bosibl, ffyrdd annosbarthedig
sydd i'w cael yn bennaf yn ardal Tyddewi ynghyd â lonydd cul anffurfiol.
Sefydlwyd maes awyr gan Uned Reolaeth y Glannau yr Awyrlu Brenhinol i'r
dwyrain o'r dref ym 1943. Ni ddaeth y rheilffordd erioed i Dyddewi. Mewn
gwrthgyferbyniad, mae Rheilffordd Maenclochog yn croesi ardal orllewinol
y Preseli. Sefydlwyd y rheilffordd hon i wasanaethu chwareli llechi Rosebush
a Bellstone ym 1876 (Gale 1992) ac fe'i hestynnwyd yn ddiweddarach i Abergwaun
lle y'i cysylltwyd â phrif reilffordd De Cymru (y GWR yn ddiweddarach)
ym 1906. Yn sgîl cau'r chwarel, caewyd Rheilffordd Maenclochog ym 1949.
Cyn dyfod Rheilffordd Maenclochog, gwasanaethid y chwareli gan ffordd
a fodolai eisoes. Mae'n bosibl ei bod yn dyddio o'r Oesoedd Canol, gan
mai prif stryd echelinol anheddiad Maenclochog ydoedd. Cynrychiolir llwybrau
canoloesol eraill drwy ardal y Preseli gan ffordd fawr y B4329 sy'n rhedeg
ar draws Mynydd y Preseli, o Hwlffordd i Aberteifi, dros bontydd Brynberian
a Phontgynon a grybwyllwyd gan Owen oddeutu 1600 (Owen 1897, 507). Ffordd
dyrpeg oedd hon tua diwedd y 18fed ganrif. Mae ffordd yr A487 o Abergwaun
i Aberteifi sy'n dyddio o'r un cyfnod, yn croesi Pont Clydach sydd hefyd
yn cael ei chrybwyll oddeutu 1600 a Phont Baldwyn, sydd, yn ôl y sôn,
wedi'i henwi ar ôl Archesgob Baldwin o Gaergaint a groesodd y bont, gyda'i
osgordd, yn ystod eu teithiau o amgylch Cymru yn pregethu'r Drydedd Groesgad
ym 1188. Ffordd dyrpeg oedd hon hefyd a ddaeth yn ffactor yng nghyd-destun
datblygiad pentref Felindre Farchog. Mae'n ymuno â'r B4329 ychydig i'r
gorllewin o Eglwyswrw, lle y saif tafarn y goets fawr - the Serjeants
Arms - ers canol y 18fed ganrif. Cynhaliwyd Sesiwn Fach Cemaes yn yr adeilad
hwn yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.
|