294 TYDDEWI CYFEIRNOD GRID: SM754254 Cefndir Hanesyddol O ganlyniad i benodi esgob Normanaidd, Bernard, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig, er bod y castell o gloddweithiau yn Nyffryn Alun, ychydig o bellter i'r gorllewin o'r eglwys gadeiriol a'r dref ddiweddarach, sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r un cyfnod â'r bathdy brenhinol a sefydlwyd yn ystod teyrnasiad William II ac a leolid y tu mewn iddo, yn arwydd bod y Normaniaid yn ymyrryd yn yr ardal ac yn ei rheoli cyn yr adeg honno. Mae'r eglwys gadeiriol ganoloesol uchel yn cynnwys enghreifftiau o'r bensaernïaeth eglwysig orau yng Nghymru, ac yn cyfateb iddi mae ysblander lleyg Palas yr Esgob. Adeiladwyd eglwys gadeiriol newydd sbon, a gysegrwyd ym 1131, gan yr Esgob Bernard a gymerodd le unrhyw strwythur(au) a fodolai cyn hynny. Adeiladwyd yr adeilad presennol rhwng 1176 a 1197 i gymryd lle'r eglwys gadeiriol honno. Sefydlwyd Coleg y Santes Fair, a leolir ynghyd â'i gloestr ar ochr ogleddol yr eglwys, ym 1377. Dechreuwyd adeiladu Palas yr Esgob yn ystod y 12fed ganrif yn ôl pob tebyg, am fod y Brenin Henry II a'i osgordd wedi aros yno ym 1171-2, ond rhoddwyd ei ffurf bresennol iddo ar ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif. Dengys map o 1720 y clos yn ei gyflwr mwyaf datblygedig, gyda phyllau pysgod, caeau a pherllannau yn llenwi'r rhan fwyaf o'r tu mewn. Roedd o leiaf un tþ crefyddol arall o'r cyfnod ar ôl y Goresgyniad Eingl-Normanaidd o fewn y ddinas, sef Whitewell, a sefydlwyd fel ysbyty ym 1287 ond a atodwyd at Goleg y Santes Fair ym 1377. Ni wyddom nemor ddim am unrhyw anheddiad sifil cyn 1115 pan sefydlwyd Tyddewi fel bwrdeistref ar ôl derbyn ei siarter gan y Brenin Henry I. Gweinyddid y fwrdeistref yn ôl y system Eingl-Normanaidd: meddiannai'r tenantiaid ddaliadau bwrdais ffurfiol, y delid un ohonynt, ym 1326, gan gydberchenogion fel crair unigol o system dirddaliaeth Gymreig. Rhoddwyd i Dyddewi yr hawl i gynnal dwy fair flynyddol a marchnad ddwywaith yr wythnos ym 1281. Ym 1326, roedd y boblogaeth o ryw 1000 yn byw mewn 130 o diroedd bwrdais, ond nid oes fawr ddim tystiolaeth o unrhyw gynllunio ffurfiol. Yn ei hanfod cynhwysai'r fwrdeistref farchnadfa drionglog y tu allan i brif borth dwyreiniol clos yr Eglwys Gadeiriol. O'r porth hwn rhedai pedair stryd hirfain a threfniant anffurfiol o lonydd llai o faint. Mae trefniant y lleiniau bwrdais wedi goroesi mewn cyflwr cymharol gyflawn. Dengys map Speed fod y dref yn dirywio erbyn yr 16eg ganrif, a bod ynddi 51 o dai yn unig, â gofod eang rhyngddynt, a disgrifiodd Camden, ac yntau'n ysgrifennu yn y 1680au, y dref fel 'Dinas fach iawn a thlawd heb unrhyw beth i ymfalchïo yn ei gylch'. Tyfodd y ddinas y tu hwnt i'w therfynau canoloesol, a dengys map ystad o ddechrau'r 19eg ganrif y Ffordd Newydd a oedd newydd ei hadeiladu bryd hynny, ond serch hynny nid oedd yn fwy na phentref mawr.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd Mae 119 o adeiladau rhestredig yn Nhyddewi. O fewn y clos mae eglwys y gadeirlan, Coleg y Santes Fair a'i gloestr, Palas yr Esgob a thai gwahanol archddiaconiaid, canonau a phrebendwyr, sydd at ei gilydd yn rhestredig Gradd I, II* a II, tra bod waliau'r clos, Porth y Tðr, grisiau a phontydd yn rhestredig yn yr un modd. Mae'r 82 o adeiladau rhestredig o fewn y dref at ei gilydd yn dai trefol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ac maent yn rhestredig Gradd II, er bod hen groes y farchnad, nifer o gapeli Anghydffurfiol a warws hefyd wedi'u cynnwys ar y rhestr. Mae archeoleg a gofnodwyd at ei gilydd yn gysylltiedig â'r eglwys gadeiriol a'r clos canoloesol, Porth y Twr, Coleg y Santes Fair, pwll pysgod a pherllan y 'cantorion' yn y clos, y cynhaliwyd arolwg archeolegol manwl arnynt ond mae maen hir posibl o'r oes efydd ar gyrion dwyreiniol yr ardal, tra cofnodwyd darganfyddiadau o ddechrau'r cyfnod canoloesol o fewn y clos. Mae capel a ffynnon Whitewell yn gofrestredig, a chofnodwyd safle melin. Er bod ffiniau pendant i'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol drefol hon, dros yr hanner canrif ddiwethaf maent wedi ymestyn gryn dipyn, ac erbyn hyn mae'n cwmpasu'r hyn a fu ar un adeg yn ardal o gaeau agored. Mae'n debyg y bydd ei ffiniau yn tresmasu ymhellach ar ardaloedd cyfagos yn ystod y degawdau sydd i ddod. Ffynonellau: Boon 1986; Green 1927; Evans 1991; Fenton 1811; James 1981; James 1993; Jones a Freeman 1856; Soulsby 1983; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/13; Turner 2000; Willis Bund 1902
|