|
295 WARPOOL
CYFEIRNOD GRID: SM758254
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 151.5
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro o fewn Penrhyn Tyddewi, o
amgylch bwrdeistref (dinas yn ddiweddarach) Tyddewi. Fe'i lleolir o fewn
plwyf Tyddewi, yng nghantref canoloesol Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid
yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers
1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad,
i'r Esgob Sulien. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi,
cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth
eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd
yn ddiweddarach ym 1536. Roedd Pebidiog yn enwog am ei dir âr ffrwythlon
ac yn ôl y cyfrifiad yn Taylors Cussion gan George Owen, roedd yn un o'r
ardaloedd mwyaf trwchus ei phoblogaeth yn Sir Benfro yn yr 16eg ganrif,
lle y cofnodwyd y nifer fwyaf o barau gwedd, ac a gynhyrchai lawer iawn
o haidd. Mae ardal gymeriad Warpool yn cynnwys caeau tref Tyddewi. Ffermid
y llain-gaeau agored o dir âr gan fwrdeisiaid y ddinas ac - yn wahanol
i'r mwyafrif o'r systemau caeau o fewn plwyf Tyddewi - fe'u delid o dan
dirddaliadaeth Eingl-Normanaidd. O ganlyniad y caeau hyn yw'r math o gaeau
hir crwm a gysylltir â systemau canoloesol 'nodweddiadol' o gaeau agored,
yn hytrach na'r lleiniau (neu gyfrannau) a welir mewn mannau eraill ar
y penrhyn. Mae melin wynt a ddefnyddid i falu þd, y cyfeiriwyd ati yn
gyntaf ym 1509, yn arwydd o'r gyfundrefn âr. Fe'i lleolid yng ngorllewin
yr ardal gerllaw ffordd Porthclais ac fe'i dymchwelwyd ym 1809 pan adeiladwyd
y strwythur presennol yn ei lle i'r de-ddwyrain o'r dref. Mae'r ardal
gymeriad hefyd yn cynnwys pedair ardal fach o dir comin sy'n gysylltiedig
â'r fwrdeistref. Dangosir y lleiniau o gaeau âr agored ar fapiau ystad
o ddiwedd y 18fed ganrif, yn rhedeg i lawr i'r arfordir i'r de o'r ddinas
ac ymlaen i'r dwyrain ac i'r gorllewin. Nid yw'n glir o'r mapiau ystad
p'un a oedd y lleiniau wedi'u hamgáu ai peidio. Erbyn yr arolwg degwm
mae'n amlwg bod y lleiniau wedi'u hamgáu, ac yn agos at yr arfordir roeddynt
wedi'u troi'n gaeau hirsgwar. Mae enw blaenorol lôn o'r enw Meidir-y-saint
am geuffordd ddwfn a arweiniai tua'r gogledd allan o'r ddinas, gan ddisgyn
i Afon Alun lle y mae'n ei chroesi dros bont hynafol a elwir yn Pont-y-penyd,
yn nodweddiadol o dirwedd eglwysig yr ardal. Adeiladwyd Warpool Court
i'r de o'r ardal o'r newydd gan glerigwr oddeutu 1865. Gerllaw mae safle
gwn peiriant o'r ail ryfel byd, sydd bellach yn adfeiliedig.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Warpool yn cynnwys stribyn
llydan o dir sy'n gorwedd i'r de, i'r dwyrain ac i'r gogledd o ardal tirwedd
hanesyddol Tyddewi (Dinas Tyddewi). Yma ceir bryniau isel rhwng rhyw 35m
a 75m o uchder. Er bod yr ardal hon yn cynnwys system o lain-gaeau amgaeëdig
yn bennaf - mae'r hen gaeau agored a fu'n gysylltiedig â datblygiad Tyddewi
yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif a'r broses o gyfuno rhai lleiniau yn
gaeau hirsgwar wedi lleihau maint yr ardal o'r hyn a fu ar un adeg yn
stribyn eithaf llydan o dir, ac mae wedi effeithio ar ei chymeriad. Mae
ystadau tai, datblygiadau tai tameidiog, ysgolion a mynwent ar gyrion
y ddinas erbyn hyn yn gorchuddio rhannau o'r hen ardal hon (ymgorfforwyd
y rhain yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tyddewi). Serch hynny, nodweddir
yr ardal hon gan lain-gaeau amgaeëdig. Diffinnir y rhain gan gloddiau
pridd neu gloddiau o bridd a cherrig ac arnynt wrychoedd. Mae'r gwrychoedd
hyn yn isel ac yn ddigysgod. Mae llawer ohonynt wedi'u hesgeuluso ac ychwanegwyd
gwifrau atynt, ond maent yn elfen nodweddiadol o'r dirwedd. Rhennir rhai
caeau gan waliau sych hefyd. Tir pori wedi'i wella ac ychydig o dir âr
yw'r tir amaeth. Sefydlwyd dau adeilad mawr, sydd bellach yn westai -
sef Warpool Court Hotel a Thðr-y-felin - ar yr hen gaeau amgaeëdig yn
y 19eg ganrif. Mae Warpool Court yn rhestredig Gradd II, a datblygodd
o dþ sylweddol a adeiladwyd fel tþ newydd oddeutu 1865 ond a ailwampiwyd
gryn dipyn yn yr 20fed ganrif. Mae teras yr ardd, yr hanergylch a'r bwa,
sydd i gyd yn dyddio o'r cyfnod oddeutu 1870, yn rhestredig Gradd II.
Addaswyd y felin wynt yn Nhðr-y-felin sy'n dyddio o 1809, yn annedd, sydd
bellach yn westy, ac mae'n rhestredig Gradd II. Ar wahân i'r coed gerllaw'r
ddau westy hyn, tirwedd foel ydyw. Ychydig o aneddiadau eraill sydd, ond
dylid nodi 'fila' a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif yn yr arddull
Sioraidd bonheddig. Hefyd yn yr ardal mae safle gwn peiriant AA chweonglog,
a adeiladwyd o friciau yn ystod yr ail ryfel byd, sydd bellach yn adfeiliedig.
Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys ystad ddiwydiannol o'r 1990au.
Cyfyngir yr archeoleg a gofnodwyd i faen hir a chrug crwn
posibl o'r oes efydd, a chwarel ôl-ganoloesol.
Mae'r ardal hon o lain-gaeau amgaeëdig a fu'n ardal helaeth
gynt erbyn hyn yn llawer llai o faint ond mae wedi cadw ei chymeriad.
Mae'n amlwg ei bod ar wahân i ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tyddewi,
sydd yn ei hanfod yn ardal drefol ac a amgaeir ganddi yn rhannol. Fodd
bynnag, nid oes unrhyw ffin bendant, eithr ardal gyfnewid, rhwng yr ardal
hon a'r ardaloedd cymeriad i'r gogledd, i'r dwyrain, i'r de ac i'r gorllewin.
Ffynonellau: Charles 1992; Dicks 1968; Fenton 1811; James
1981; James 1993; Nash 1986; Archifdy Sir Benfro D/RTP/J H Harries 6/67a;
Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/13; Archifdy Sir Benfro D/RTP/Sto/ 183;
Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Willis-Bund 1902
|