TIROEDD COLL EIN CYNDEIDIAU
AROLWG AR BALEODIRWEDDAU ARFORDIR Y GORLLEWIN
Yn 2010-11, astudiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, mewn partneriaeth â Phrifysgol
Birmingham, a Chomisiwn Brenhinol Henebion dirweddau tanfor Môr Hafren a Bae Lerpwl - Prosiect Paleodirweddau
Arfordir y Gorllewin. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler llyfryn poblogaidd a gynhyrchwyd gan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Tiroedd Coll Ein Cyndadau, ac adroddiad technegol Prifysgol Birmingham
ar y prosiect - West Coast Palaeolandscapes Survey. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi cymryd
y wybodaeth a gasglwyd gan Birmingham a’i chyflwyno mewn fformat syml er budd cynllunwyr a phawb arall
sy’n ymwneud â rheoli’r amgylchedd morol, a hefyd ar gyfer y cyhoedd. Caiff pedwar map thematig
yn dangos y ddwy ardal - Môr Hafren a Bae Lerpwl - eu cyflwyno yma. Mae’r un cyntaf yn dangos mewn
modd wedi’i symleiddio nodweddion unigol y dirwedd a nodwyd yn ystod dadansoddiad Birmingham o’r
data; mae’r ail yn dangos ardaloedd o gymeriad y dirwedd sy’n seiliedig ar y dadansoddiad hwn, mae’r
trydydd yn dangos y potensial i ddyddodion sy’n cynnwys gwybodaeth archaeolegol ac amgylcheddol oroesi,
ac mae’r pedwerydd yn dangos yr ardaloedd astudio wedi’u rhannu’n ardaloedd rheoli, ac aseinir
arweiniad rheoli bras i bob un.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gronfa Gynaliadwyedd Aggregates Levy a weinyddir gan English
Heritage a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chan gyllid a ddarparwyd gan Cadw.
|