Sut y ceir y data
Mae tirweddau eang Môr Hafren a Bae Lerpwl yn gorchuddio cannoedd
o gilomedrau sgwâr. Yr unig dechnoleg sy’n abl i dreiddio drwy’r dyddodion
ar wely’r môr a darparu gwybodaeth ar lefel dirweddol yw arolwg adlewyrchol
seismig. Golyga hyn anfon tonnau swn i’r is-wyneb ac yna recordio’r atsain a
adlewyrchir yn ôl, gan ddibynnu ar newidiadau yn y dyddodion islaw. Gellir cyfateb
yr amser a gymer i recordio adlewyrchiad â dyfnder bras. Gellir darlunio’r wybodaeth
hon, wedi’i recordio yn ddi-dor, fel trawsdoriad drwy wely’r môr. Mae
gan wybodaeth o’r fath sawl defnydd masnachol. Bydd cwmnïau ynni yn chwilota
ar wely’r môr am gronfeydd o nwy ac olew. Defnyddia cwmnïau graean y data
i leoli tywod a graean mân sy’n addas i’w godi. Bydd peirianwyr yn defnyddio
arolygon seismig bas wrth osod pibau, adeiladu rigiau drilio neu godi ffermydd gwynt, er
mwyn deall yn well natur gwely’r môr. Cesglir y data nail ai mewn arolygon dau-ddimensiwn
(2D) neu dri-dimensiwn (3D). Daw data 2D trwy gyfrwng cebl unigol ac mae’n dangos
tafell fertigol o wely’r môr. Defnyddia arolygon 3D geblau lluosog sy’n
agos at ei gilydd i ddarparu data y gellir ei weld mewn haen am i fyny neu ar draws. Yn
archeolegol, data 3D sydd fwyaf defnyddiol ar gyfer archwilio tirweddau mawr a foddwyd ond
ochr yn ochr â data 2D gellir creu gwell darlun o’r tiroedd a foddwyd.
|