Burry Holms
(Llun © Hawlfraint y Goron : CBHC)


Mor Hafren


Bae Lerpwl

 

Nodweddion Unigol y Dirwedd

Mae’r mapiau hyn yn dangos nodweddion unigol y dirwedd wedi’u plotio o ddata 2D a 3D. I gael rhagor o fanylion ewch at y mapiau yn y llyfryn poblogaidd ac yn yr adroddiad technegol.

Nodwch i’r nodweddion a ddangosir yn ardal Môr Hafren gael eu hallosod o ddata 2D, ac felly er bod eu nodwedd a’u lleoliad cyffredinol yn debygol o fod yn gywir, ni wyddys unrhyw fanylion; sy’n awgrymu bod nifer o nodweddion y dirwedd yn aros i gael eu darganfod yn yr ardal hon. Mae nodweddion a nodwyd o’r data 2D yn cynnwys dau lyn/ardal wlyptir, nifer o sianeli ac ardaloedd tir uwch.

Ym Mae Lerpwl mae’r ardal y mae data 3D o ansawdd da ar gael ar ei chyfer wedi’i darlunio’n glir gan y nifer fawr o nodweddion tirwedd a nodir. Yn bennaf mae’r rhain yn cynnwys sianeli ffrwd-rewlifol a rhai eraill wedi’u torri i mewn i wastadedd llydan ac isel. Nid yw absenoldeb y nodweddion hyn yn syth i’r de a’r dwyrain yn absenoldeb gwir, ond yn hytrach mae’n dangos diffyg data 3D. Yma, mae’n bosibl bod llawer mwy o nodweddion y dirwedd yn aros i gael eu darganfod. Yn agosach at arfordiroedd Cymru a Lloegr mae’r sefyllfa’n debyg i sefyllfa Môr Hafren, lle cafodd y nodweddion eu hallosod o’r unig ddata 2D a oedd ar gael.

 

 


English