Ardaloedd Cymeriad y Dirwedd
Nododd Prifysgol Birmingham saith ar hugain o ardaloedd cymeriad y dirwedd danfor, pedair
ar ddeg ym Môr Hafren a thair ar ddeg ym Mae Lerpwl. Mae’r ardaloedd cymeriad hyn yn seiliedig ar
y nodweddion tirwedd unigol a’r ardaloedd tirwedd bras a nodwyd yn ystod dadansoddi’r data. Aseiniwyd
gwerth tirwedd archaeolegol/hanesyddol posibl bras i bob ardal o isel i uchel. Yn y rhan fwyaf o achosion dylid
ystyried y gwerthoedd hyn yn rhai dros dro a bydd angen eu haddasu wrth i fwy o ddata fod ar gael. Er y dangosir
yr ardaloedd cymeriad fel rhai ag ymylon caled, dylid ystyried y ffin rhwng yr ardaloedd yn barth newid, a gaiff
ei fireinio o bosibl yn y dyfodol.
Cliciwch ar un o'r ardaloedd ar y mapiau i agor bocs gyda gwybodaeth bellach am yr ardal honno.
Cliciwch ar y groes yn y gornel uchaf ar y dde i gael gwared o'r bocs.
|