|
Unwaith y bydd ychydig o ddifrod yn gadael y tywydd i mewn, bydd
y difrod yn gwaethygu’n fuan iawn.
|
|
Yn y pen draw, bydd yr odynau'n cwympo a chwyn yn tyfu drostyn nhw. Wrth i amser fynd yn ei flaen bydd tystiolaeth am y diwydiant calch yn diflannu'n llwyr. |
|
Drwy
atgyweirio rhai o'r adeiladwaithau sy'n
goroesi gallwn ni nawr sicrhau bod y rhan
hynod ddifyr a phwysig hon o'n treftadaeth
ddiwydiannol yn goroesi i genedlaethau'r
dyfodol ei mwynhau.
|
|
Gyda
rhai atgyweiriadau wedi'u cwblhau, bydd
yr odynau mwy o faint yn goroesi am flynyddoedd
lawer.
|
|
Mae rhai o'r odynau eraill wedi dirywio'n ormodol ac mae'n well gadael llonydd i'r rheini. |
Model tir digidol o Chwarel Herbert
Delwedd tir wedi’i harlliwio
o’r un ardal
Delwedd 'model goledd' o'r chwareli
|
Arolwg
y Chwarel
Er mwyn penderfynu pa
odynau oedd yn bwysig i achub, ac i benderfynu
pa waith atgyweirio oedd angen, roedd
yn rhaid i ni wneud arolwg llawn o'r
safle cyfan.
Mae arolwg o’r awyr wedi ei wneud
o Chwarel Herbert gyda thechneg sy’n
defnyddio laserau o’r enw LiDAR (Light
Detection and Ranging - Canfod a Mesur
gyda Golau). Y canlyniad yw map cyfuchlin
manwl ianw wedi ei wneud allan o 8,757,573
o bwyntiau LiDAR! Ar ei ben ei hun gall yr arolwg Lidar
fod yn anodd i'w ddeall ond drwy ddefnyddio
cyfrifiaduron gall y data LiDAR ei arddangos
mewn ffyrdd gwahanol i'w wneud yn hawsach
i'w ddeall. |
|
Gallwn
hefyd daenu ffotograff o’r awyr dros
yr arolwg LiDAR er mwyn cynhyrchu delwedd
3D o’r safle.
Gallwn ddefnyddio’r
olwg hon o’r awyr i’n helpu
i ddeall y safle cyfan.
Drwy gymharu’r safle
fel ag y mae heddiw gyda hen fapiau o’r
un ardal gallwn weithio allan sut mae’r
safle wedi newid dros y blynyddoedd, a pha
rannau yw’r rhai hynaf.
Drwy gyfuno'r holl wybodaeth rydym ni wedi
gallu creu cynllun digidol ar gyfrifiadur
o Chwarel Herbert. Gellir defnyddio hwn i
ddangos sut mae'r chwareli a'r odynau wedi
datblygu dros amser, a sut mae'r system ffyrdd
yn y tirlun o amgylch hefyd wedi newid.
Y cam nesaf oedd gwirio'r sefyllfa wirioneddol
drwy wneud 'arolwg tir'... |
|
Arolwg Maes
Bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i wneud cofnod manwl o weddillion y diwydiant calch yn Chwarel Herbert. Yn gyntaf defnyddiwyd ffotograffau o'r awyr ac arolwg LiDAR i wneud cynllun o'r ardal, gan osod lleoliadau Chwareli, odynau, adeiladau, pentyrrau gwastraff, ffyrdd a thraciau. |
|
Nesaf wynebon ni'r elfennau a threulio rhai dyddiau'n crwydro'r chwareli, gan dynnu lluniau o'r holl odynau, cwblhau ffurflenni cofnodi, creu cynlluniau a gwneud mesuriadau. |
|
Hefyd aethom ati i gofnodi'r mathau o friciau ac unrhyw gliwiau eraill y gallem ni ddod o hyd iddyn nhw. Cafodd y fricsen hon ei gwneud yn Bonnybridge yn yr Alban! |
|
Mae pob odyn yn gysylltiedig ag ardal benodol yn y chwarel ac mae ganddi ei set ei hun o bentyrrau gwastraff a thraciau. Mae hyn yn awgrymu y gallai'r tirfeddianwyr fod yn prydlesu pob odyn a chwarel ar wahân (Ystad Cawdor). |
|
Mae'r arolwg manwl wedi dangos i ni fod odynau a chwareli ar amrywiol lefelau i fyny'r llechwedd, yn debyg i chwareli eraill i'r gorllewin. Mae llawer o'r gweithiau cynharach wedi'u dinistrio neu eu claddu gan chwareli a thipiau gwastraff diweddarach yn uwch i fyny'r llethrau. Yn y ffotograff hwn, mae odyn bron wedi'i chladdu'n llwyr dan bentwr gwastraff. Mae olion o leiaf 36 odyn ar y safle. |
|
O gwmpas ymylon y chwarel, mae rhai olion o weithiau cynharach yn dal i oroesi. Mae'r ffotograff hwn yn dangos fod y pridd wedi'i balu ymaith i ddatgelu brigiad o galchfaen. I'r chwith gwelir wyneb y chwarel fodern. |