Gall ymwelwyr â Chwareli'r Mynydd
Du fwynhau golygfeydd panoramig syfrdanol
o'r chwareli ac fe allan nhw ddarganfod
hanes diddorol y diwydiant calch hwn, a
oedd yn ffynnu ar un adeg. Gan ddechrau
o un o'r ddau faes parcio ar y safle, bydd
taith wedi'i chyfeirio yn mynd â chi
ar hyd llwybrau glaswelltog a thraciau
caregog drwy dirwedd o chwareli a gweddillion
sawl odyn galch sy'n ymestyn yn ôl
200 o flynyddoedd. Mae'r chwareli'n gartref
i sawl rhywogaeth o blanhigion sy'n ffynnu
yn yr amgylchedd galchfaen a'r amodau alcalïaidd
uchel a grëwyd gan weddillion y diwydiant
calch.
Mae'r trywydd yn gyffredinol
hawdd, ond gyda rhai rhannau byr mwy serth.
Ar ben y safle hwn fe welwch fyrddau dehongli
yn disgrifio hanes a daeareg y chwareli.
Bydd trywydd sain deialu neu i'w lwytho
i lawr yn sôn am y gorffennol wrth
i gymeriadau ddweud hanes eu bywydau yn
gweithio yn y chwareli.
Awdurdod Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog sydd yn berchen ar y
chwareli ac fe'u lleolir ar dir mynediad
agored. Byddwch yn ymwybodol fod y tir
yn gynefin i fywyd gwyllt ac fe'i defnyddir
fel porfa i anifeiliaid hefyd. Er mwyn
amddiffyn adar sy'n nythu a defaid ac wyn,
dylid cadw cwn ar dennyn pryd bynnag mae
da byw gerllaw, a bob amser rhwng 1 Mawrth
a 31 Gorffennaf.
Cyfeirnod
grid OS
OS Landranger 160, map
Explorer OL12 – SN733187
Sut i fynd yno
Gellir cyrraedd Chwareli'r
Mynydd Du gyda char neu feic o'r A4069
rhwng Brynaman a Llangadog. Mae'r safle
hefyd yn agos at lwybr Ffordd y Bannau
oddeutu hanner ffordd rhwng Hostel Ieuenctid
Llanddeusant a Charreg Cennen (www.breconbeaconsparksociety.org/national-park/the-beacons-way). Mae'r
orsaf drên agosaf yn Llangadog, ar
Reilffordd Calon Cymru (rhyw 10 milltir
o'r safle). Am yr wybodaeth ddiweddaraf
am deithio ac amserlenni, ewch i www.traveline-cymru.info neu ffoniwch 0871 200 2233.
Tref
neu bentref agosaf
Mae Brynaman rhyw 4 milltir
i'r de ar yr A4069. Mae Llangadog rhyw
10 milltir i'r gogledd ar yr A4069. Mae
siopau a thafarndai yn y ddau bentref.
Parcio
Mae dau faes parcio mawr am ddim ar gyfer
mynd am dro byr o gwmpas y chwareli.
Hygyrchedd
Mae llwybr wedi ei gyfeirio
o amgylch y safle. Dilyna'r llwybr draciau
a llwybr sy'n bodoli'n barod. Mae ychydig
o'r ddaear hon yn laswelltir garw a thir
caregog. Gall y glaswellt a'r creigiau
agored fod yn llithrig pan fydd hi'n wlyb.
Mae tomennydd gwastraff a llethrau sgri
yn ansefydlog dan draed, a ni ddylid eu
dringo.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
sydd berchen ar y chwareli, ac fe'u lleolir
ar dir mynediad agored. Byddwch yn ymwybodol
fod y tir yn gynefin i fywyd gwyllt ac
fe'i defnyddir fel porfa i anifeiliaid.
Er mwyn amddiffyn adar sy'n nythu a defaid
ac wyn, dylid cadw cwn ar dennyn pryd bynnag
mae da byw gerllaw, a bob amser rhwng 1
Mawrth a 31 Gorffennaf.
Gall tywydd ar y Mynydd Du fod yn arw
ac anwadal. Paratowch eich hunan. Gwiriwch
y rhagolygon tywydd ac ewch â dillad
addas a dillad glaw gyda chi. Mae signal
ffôn lIawn drwy'r safle er na fydd
cysylltiad data llawn fodd bynnag.
Cadwch yn ddiogel tra'r
ydych yn cerdded ym Mharc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog drwy ddarllen y
canllawiad yma.
Llwybr sain
Gallwch wrando ar y llwybr sain drwy ddefnyddio
eich ffôn symudol a dilyn y cyfarwyddiadau:
Ffoniwch 01269 333123 (Cymraeg) neu 01269
333123 (Saesneg)
Os ydych chi'n gallu cysylltu a'r rhyngrwyd tra eich bod ar y llwybr, gallwch wrando ar y ffeiliau sain isod neu fel arall lawrlwythwch y ffolder Zip sy'n cynnwys pob un o'r deg ffeil sain cyn i chi gychwyn er mwyn i chi allu gwrando arnyn nhw heb band eang tra ar y daith gerdded.
Canllaw
Llwybr
Mae taflenni arwain a llyfrynnau ar gael
yng nghanolfannau gwybodaeth Bannau Brycheiniog
neu gellir eu cael gan Ymddiriedolaeth
Archeolegol Dyfed neu yng Nghanolfan y
Mynydd Du ym Mrynaman.
Cliciwch
yma i lwytho PDF i lawr o daflen y llwybr.
Cliciwch
yma i lwytho PDF i lawr o lyfryn am Chwareli'r
Mynydd Du
Arddangosfa
Mae arddangosfa amlgyfrwng
a rhagor o wybodaeth am y chwareli ar gael
yng Nghanolfan y Mynydd Du, sy'n agored
o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9 a 2.
Edrychwch ar y wefan ( www.brynaman.org.uk )
am ragor o fanylion.