Arianwyr

Mae prosiect CALCH wedi atgyweirio rhai o'r adeiladwaithau sydd wedi goroesi yn Chwarel Herbert ac wedi creu llwybrau hunan dywys o gwmpas y safle i annog ymwelwyr. Mae'r prosiect hefyd wedi ymchwilio i hanes y diwydiant calch i ddarganfod a dathlu ei gysylltiadau â chymunedau lleol.

 

Efallai fod teithwyr ar yr A4069 dros y Mynydd Du rhwng Llangadog a Brynaman wedi sylwi ar gofeb ar lan y ffordd yn coffáu marwolaeth David Davies o Wynfe, a gafodd ei wasgu i farwolaeth ym 1884 yn 22 oed gan ei gert oedd yn llawn calch.

 

Mae'r gofeb yn sefyll mewn tirlun trawiadol o hardd gyda chwareli calchfaen ac odynau calch o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc Fforest Fawr.

 

Yn aml caiff cyfraniad hanfodol calch i greu tirweddau Cymru fel rydym ni'n adnabod y wlad heddiw ei esgeuluso. Mae ei nodweddion alcalïaidd wedi galluogi ffermwyr i drawsnewid priddoedd asid yn dir fferm cynhyrchiol; mae ei ddefnydd fel morter a gwyngalch wedi helpu i adeiladu ein trefi a'n dinasoedd. Mae calch a chalchfaen yn hanfodol hyd yn oed mewn prosesau diwydiannol megis mwyndoddi haearn a chopr a helpodd wneud Cymru'n enwog drwy'r byd.

Mae'r Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cydnabod bod angen cadw'r olion diwydiannol pwysig hyn, a hefyd y byddai gwella mynediad cyhoeddus a darparu gwybodaeth am y safle yn denu ymwelwyr newydd ac yn dod â buddion i gymunedau lleol. Mae prosiect CALCH wedi gwneud y chwareli yn lefydd hynod o ddifyr i ymweld a dysgu am etifeddiaeth ddiwydiannol, bywyd gwyllt, hanes cymdeithasol a daeareg yr ardal.

 

Yn ystod y prosiect cynhelir llawer o wahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau, gyda chyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn pob math o ffyrdd. Edrychwch drwy'r wefan yma i weld beth wnaeth pawb wneud!