|
Gwyl
Archaeoleg Prydain
Er mwyn dathlu Gwyl Archaeoleg
2013 darparodd prosiect CALCH arddangosfa,
teithiau tywys ac adrodd storïau o
gwmpas Chwarel Herbert. Roedd CALCH hefyd
ar y safle. Daeth tua 80 o bobl i'r digwyddiad
dros y penwythnos. |
|
Gweithdy
Cyfryngau Digidol
Rhoddodd gweithdy dan
arweiniad y gwirfoddolwr Colin Jones gyflwyniad
i gynhyrchu ffilm a chyfryngau digidol
gyda'r bwriad o greu cofnod fideo o ddigwyddiadau
prosiect CALCH. |
|
Gweithdy
Celf i'r Teulu
Cynhaliwyd gweithdy celf
i'r teulu gyda'r artist lleol Katie Jane
Vickers yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman.
Creodd y plant (a rhieni!) “ddarnau cyfryngau
cymysg” gan ddefnyddio mwd, carreg galch
a cherrig o'r mynydd ei hun, yn ogystal â siarcol,
pensiliau, a phaent. Gobeithiwn arddangos
y gwaith hwn yn y dyfodol. |
|
Eitem
ar Prynhawn Da
Ffilmiodd y rhaglen gylchgrawn
deledu Gymraeg Prynhawn Da eitem newyddion
5 munud ar brosiect CALCH i wahodd pobl
i ymweld â'r chwareli. |
|
Grwp
Sgowtiaid Tycroes
Gydag ymweliad â'r
chwarel a gweithdai dan do, gweithiodd
CALCH gyda Grwp Sgowtiaid Tycroes i'w galluogi
i ennill eu bathodynnau ‘Gweithgaredd Treftadaeth'
a ‘Gweithgaredd Artist'. |
|
Diwrnod
Agored Hostel ieuenctid Llanddeusant
Ymunodd CALCH â Diwrnod
Agored Hostel Ieuenctid gydag odyn ar gyfer
gwneuthurwyr calch y dyfodol! Roedd y Diwrnod
Agored yn brysur iawn er gwaetha'r glaw,
a gweithgaredd yr odyn model yn boblogaidd
iawn! |
|
Profiad
Gwaith
Daeth myfyrwyr profiad
gwaith o ysgolion lleol i wneud gwaith
maes a chofnodi odynau gyda CALCH. |
|
Ymchwil
Gwirfoddol
Ymwelodd gwirfoddolwyr
ymroddedig CALCH â Swyddfa Gofnodion
Caerfyrddin i ymchwilio i'r diwydiant carreg
galch, yr ymddiriedolaethau tollbyrth,
Terfysgoedd Beca a briciau ffwrnes. |
|
Diwrnod
Darganfod Treftadaeth Carreg Galch Llangadog
Ym Mai fe wnaethom gynnal
Diwrnod Darganfod Treftadaeth Carreg Galch
ar gomin Llangadog fel rhan o Wyl Geoparc
Fforest Fawr. Er bod y tywydd yn ddiflas
daeth llawer o ymwelwyr gwydn i ddysgu
am dreftadaeth carreg galch y Mynydd Du
trwy arddangosfeydd, sgyrsiau, adrodd storïau,
gweithgareddau plant a theithiau cerdded. |
|
Gwaith
maes – Mawrth
Helpodd grwp gwydn o chwech
o wirfoddolwyr lleol i wneud cofnod manwl
o odynau calch a'r adeilad bloc swyddfeydd
lle bydd y gwaith cadwraeth yn digwydd.
Er gwaetha'r tywydd ofnadwy – eira, corwyntoedd,
a glaw trwm - cyflawnwyd llawer a gwerthfawrogwyd
y cymorth yn fawr! |
|
Gwaith
maes – Mai
Ym Mai, gyda thywydd gwell,
dychwelodd ein gwirfoddolwyr a chwblhau
cofnodion yr odynau a'r bloc swyddfa. Cloddiwyd
ffosydd bach ar ben y tri odyn, a glustnodwyd
ar gyfer cadwraeth yn ddiweddarach yn y
flwyddyn. |
|
Gwaith
Cadwraeth
Dechreuwyd y gwaith trwsio
a diogelu'r tri odyn mwyaf a'r mwyaf cyflawn
ac i leihau waliau'r bloc swyddfa a pheiriandy
yn ystod yr haf. Cafwyd cynnydd da, ond
yn anochel daeth y glaw, a bydd yn rhaid
cwblhau'r gwaith yn y gwanwyn. |
|
Teithiau
Cerdded a Sgyrsiau
Cynhaliwyd teithiau cerdded
a sgyrsiau amrywiol ar hyd 2013 i bobl
a grwpiau lleol yn cymryd diddordeb, Cymdeithas
Parc Bannau Brycheiniog; grwpiau U3A Porth
Tywyn ac Aberhonddu; Grwp Treftadaeth Ddiwydiannol
Sir Benfro; Panel Hanes Diwydiannol Cymru;
Probus Rhydaman; Ymddiriedolaeth Ddinesig
Llandeilo; Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed;
Diwrnod Archaeoleg Caerfyrddin; Cymdeithas
Porwyr y Mynydd Du. |
|
Mynychodd
Calch sawl digwyddiad treftadaeth gan gynnwys
y Sioe Frenhinol Cymru, Cymdeithas Hanes
Teuluol Dyfed a Gŵyl Threftadaeth Llanelli.
|
|
Digwyddiadau
eraill
Dangoswyd arddangosfa
bosteri am CALCH a diwydiant carreg galch
y Mynydd Du yng Ngwyl Treftadaeth Llanelli,
Diwrnod Hanes Teuluoedd Dyfed yng Ngwbert,
digwyddiad ‘Yn ôl i Ddoe' yng Nghanolfan
y Mynydd Du, Brynaman, y Sioe Amaethyddol
Frenhinol a symposiwm Cymdeithas Genedlaethol
Mudiadau Hanes Cloddio yn Aberystwyth .
Daeth llawer i'r digwyddiadau hyn a chafwyd
cyfleoedd da i godi ymwybyddiaeth am y
prosiect . |
|
Rhaglen
Ysgolion
Yn 2013 aeth Sarah, ein
swyddog lleoliad Cyngor Archaeoleg Prydain
ar raglen brysur o deithiau safle a gweithdai
dosbarth, i godi ymwybyddiaeth am Chwareli'r
Mynydd Du ymhlith ysgolion lleol, ac i'n
helpu i ddatblygu pecyn addysg fydd yn
galluogi athrawon i ddefnyddio'r chwareli
i ddysgu amrywiol bynciau, neu am ddiwrnod
o hwyl yn yr awyr agored i'w disgyblion.
Cymerodd dros dri chant o ddisgyblion ran,
gan gynnwys Grwp Addysg Cartref Dinefwr,
Ysgol Baratoi Llanymddyfri, Ysgol Gynradd
Llandeilo, Ysgol Tycroes, Ysgol y Bedol,
Ysgol Dyffryn Aman ac Ysgol Penrheol. Yn
ystod eu hymweliadau dysgodd disgyblion
am dreftadaeth ddiwydiannol y Mynydd Du,
a sesiynau dosbarth wedyn ar bynciau'n
amrywio o hanes, cemeg a chelf. Cynhyrchwyd
rhai campweithiau gwych! |
|
Cafwyd
llawer o waith hefyd ar adrodd am yr holl
ymchwil dogfennol, gwaith arolwg, cloddiadau
a chynllunio a datblygu paneli dehongli,
marcwyr llwybr i'r teithiau hunan dywys,
llyfrynnau a thaflenni ac yn y blaen. Mae
llawer i'w wneud o hyd yn 2014! |