Ar ei ben ei hun gall yr arolwg Lidar fod yn anodd i'w ddeall ond
drwy ddefnyddio cyfrifiaduron gall y data LiDAR ei arddangos mewn ffyrdd gwahanol
i'w wneud yn hawsach i'w ddeall.
Model tir digidol o Chwarel Herbert
|
Delwedd tir wedi’i harlliwio o’r un ardal
|
Gallwn hefyd daenu ffotograff o’r awyr dros yr arolwg LiDAR
er mwyn cynhyrchu delwedd 3D o’r safle.
Gallwn ddefnyddio’r olwg hon o’r awyr i’n helpu
i ddeall y safle cyfan.
Drwy gymharu’r safle fel ag y mae heddiw gyda hen fapiau o’r
un ardal gallwn weithio allan sut mae’r safle wedi newid dros y blynyddoedd,
a pha rannau yw’r rhai hynaf.
Beth am archwilio’r safle mewn 3D o gyfforddusrwydd eich cadair
freichiau i weld beth allwch chi ei ddarganfod!
Wrth i’r prosiect ddatblygu caiff delwedd y map 3d ei datblygu.
Er mwyn gweld y map 3d bydd angen i chi gael Cortona 3D wedi’i
osod ar eich cyfrifiadur. Gallwch ei lawr lwytho am ddim yma,
http://www.cortona3d.com/install.aspx
Bydd angen i chi wybod a yw eich system weithredu yn un 32-bit neu
64-bit cyn penderfynu pa fersiwn i’w lawr lwytho.
Lawr lwythwch y rhaglen a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin, wedyn
adnewyddwch y dudalen hon i weld y map. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r
gwyliwr 3D Cortona mewn ffurf PDF yma
trwy glicio ar y cysylltiad ar ochr dde'r dudalen.