![](../../shim.gif) |
CWNINGAR YSTAGBWLL
![CWNINGAR YSTAGBWLL](images/stackpolewarren.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SR983947
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 197
Cefndir Hanesyddol
Ardal arfordirol fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern,
sydd ym mhlwyf Stackpole Elidor yn bennaf, a oedd yn faenor yn ystod y
cyfnod canoloesol, a oedd yn cynnwys ffioedd 4-5 marchog o dan Arglwyddiaeth
ac Iarllaeth Penfro, rhanbarth Seisnigaidd iawn a ddygwyd o dan reolaeth
yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd linellau maenoraidd
Lloegr ac na chafodd ei ailgipio erioed gan y Cymry. Efallai fod yr enw
Ystagbwll o darddiad Sgandinafaidd, yn deillio o ‘stack’ neu
graig, gan nodi bod morwyr Nordig yn gyfarwydd â’r ardal –
ac wedi cyfanheddu yno efallai – yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar
diweddaraf. Rhennir yr enw gyda Bosherston, lle cyfagos, a elwid yn Stackpole
Bosher yn wreiddiol. Llwyfandir gwastad yw’r ardal gymeriad hon,
y mae hanner ohono wedi’i orchuddio gan dywod chwyth calchaidd.
Mae’r twyni tywod wedi gwella cadwraeth safleoedd a thirweddau cynhanesyddol.
Mae ymchwiliadau archeolegol wedi dangos i bobl gyfanheddu yn yr ardal
hon, bod yr ardal wedi’i rhannu’n gaeau a’i bod wedi’i
hamaethu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Fodd bynnag, yn y pen draw,
creodd tywod a chwythwyd gan y gwynt, a ddechreuodd gronni yn y cyfnod
cynhanesyddol, amgylchedd a oedd yn gwneud yr ardal yn anaddas i’w
hamaethu ac o ganlyniad gadawodd pobl yr aneddiadau a’r caeau. Yn
y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal hon yn rhan o ddemên Ystagbwll
(ystad Ystagbwll yn ddiweddarach), ac mae cofnodion dogfennol yn dangos
ei bod yn dirwedd nodweddiadol a ddefnyddiwyd fel cwningar. Yn ystod y
Ddau Ryfel Byd, fe’i defnyddiwyd fel ardal hyfforddi milwyr. Mae’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn berchen arni ac yn ei rheoli.
![CWNINGAR YSTAGBWLL](images/stackpolewarren2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yw’r
rhan fwyaf o ardal gofrestredig gymharol fach Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Arbennig yng Nghymru Cwningar Ystagbwll. Mae’n cynnwys llwyfandir
arfordirol rhwng 30m a 35m gyda chlogwyni môr calchfaen unionsyth
yn ffin i’r de a’r dwyrain, gyda chwm wedi’i foddi’n
artiffisial yn ffin i’r gorllewin – rhan o erddi Llys Ystagbwll
– a chyda Pharc Ystagbwll yn ffin i’r gogledd. Tirwedd agored
ydyw o dywod calchaidd a chwythwyd gan y gwynt dros greigwely calchfaen.
Mae trwch y tywod yn amrywio o groen cymharol denau i systemau twyni datblygedig.
Mae creigwely calchfaen yn amlwg yn y tywod mewn sawl lle, ond yn arbennig
ar hyd yr arfordir. Mae’r llystyfiant yn cynnwys porfa a rhedyn
ar y llwyfandir gyda rhywfaint o goetir yn cynnwys sycamorwydd yn bennaf
ar ei llethrau mwy cysgodol. Mae’r tywod, a ddechreuodd ffurfio
yn y cyfnod cynhanesyddol, wedi chwarae rhan allweddol i gadw tirwedd
gynhanesyddol gyfoethog ac amrywiol. Mae’r dirwedd gynhanesyddol
hon yn haeddu cael ei chynnwys ar y Gofrestr. Datgelodd gwaith cloddio
ac arolygu yn yr 1970au fod pobl wedi byw yno o’r Cyfnod Mesolithig
i’r Cyfnod Brythonaidd-Rufeinig a’r tu hwnt, a chafodd sawl
cam o’r gorwel archeolegol ei gadw a’i wahanu gan y tywod.
Ymhlith y safleoedd mae maen hir Devil’s Quoit, aneddiadau a systemau
caeau helaeth, ac mae’r ffaith bod y tywod wedi’u cadw mewn
cyflwr ardderchog yn golygu y gellir nodi marciau erydr cynhanesyddol
ac olion carnau gwartheg. Mae nifer o’r safleoedd archeolegol yn
Henebion Cofrestredig. Nid oes unrhyw adeiladau, a ffensys gwifren yw’r
unig ffiniau a ddefnyddir ar hyn o bryd. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro
yn rhedeg ar ben y clogwyn.
Mae’r ardal gymeriad hon wedi’i diffinio’n
dda iawn, ac mae’n gwrthgyferbynnu â’r dirwedd parcdir
i’r gorllewin a’r gogledd. Mae wedi’i diffinio gan glogwyni
môr uchel i’r de a’r dwyrain.
Ffynonellau: Benson et al 1990; Cadw 2001; Higgins
1933; Howells 1964; Owen 1918; Walker 1950
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |