![](../../shim.gif) |
PARC A GERDDI LLYS YSTAGBWLL
![PARC A GERDDI LLYS YSTAGBWLL](images/stackpolecourt1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SR 975953
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 367
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern yn cynnwys
parc a gerddi Llys Ystagbwll. Mae’r ardal gymeriad hon ym mhlwyf
Stackpole Elidor, a oedd yn faenor yn ystod y cyfnod canoloesol, a oedd
yn cynnwys ffioedd 4-5 marchog o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro,
rhanbarth Seisnigaidd iawn a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid
cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd linellau maenoraidd Lloegr ac na chafodd
ei ailgipio erioed gan y Cymry. Efallai fod yr enw Ystagbwll o darddiad
Sgandinafaidd, yn deillio o ‘stack’ neu graig, gan nodi bod
morwyr Nordig yn gyfarwydd â’r ardal – ac wedi cyfanheddu
yno efallai – yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Rhennir yr enw
gyda Bosherston, lle cyfagos, a elwid yn Stackpole Bosher yn wreiddiol.
Mae’n bosibl bod yr ôl-ddodiad ‘Elidor’ –
a ddefnyddiwyd gyntaf yn oddeutu 1200 ac a welir hefyd yng nghysegriad
ar y cyd eglwys plwyf Ystagbwll - yn deillio o enw personol unigolyn y
cyfeiriodd Gerallt Gymro ato fel ‘Elidyr Ystagbwll’, ac mae
rhai awduron o’r farn mai arglwydd cynnar ydoedd. Fodd bynnag, mae’r
enw yn codi mewn cysylltiad â dameg led-ffuglennol. Ac er ei bod
yn ddiddorol i ‘William mab Elidur’ roi ardal o dir heb ei
nodi i Gomandwr Slebets, mae’r elfen ‘Elidor’, a’r
cysegriad, yn deillio o ‘Eliud’ yn ôl pob tebyg, sef
ffurf anwes ar enw Sant Teilo. Cofnodwyd bod Philip de Stackpole yn meddu
ar 4 ffi marchog yn 1247, tra bod gan Richard de Stackpole 4 ffi yn Ystagbwll
yn 1324. Efallai fod eu preswylfa wedi’i hatgyfnerthu – ymddengys
yr enw ‘Stackpole’ ar restr o 19 o ‘hen gestyll’
yn sir Benfro, wedi’i llunio gan George Owen yn 1599. Fodd bynnag,
nid oes unrhyw arwydd o ran ar ba ffurf yr oedd yr ‘hen gastell’
hwn, neu pa un a oedd ar safle’r plas diweddaraf. Efallai fod yr
eglwys, gyda’i chysegriad i Sant Teilo, yn sylfaen cyn y Goncwest.
Saif mewn anheddiad cnewyllol, Cheriton, 700m i’r gogledd o bentref
Ystagbwll ei hun, yr ymddengys ei fod yn anheddiad cnewyllol eilaidd a
sefydlwyd o amgylch croesffyrdd yn ystod y cyfnod ar ôl y Goncwest.
Ymddengys mai treflan amaethyddol ydoedd yn bennaf, ond mae’r ffaith
bod pentref canoloesol yno yn awgrymu i farchnad neu ffair gael ei chynnal
yn y pentref, ac yn wir mae map 1932 Rees yn dangos mai safle ffair bosibl
ydoedd. Trosglwyddwyd yr ystad drwy etifeddes o deulu Stackpole i deulu
Vernon o Neuadd Haddon, Swydd Derby. Gadawyd George Lort, stiward teulu
Stackpole, yn gyfrifol am Ystagbwll. Erbyn canol yr 16eg ganrif, roedd
Lort wedi prynu’r ystad o deulu Vernon. Yn 1698, trosglwyddwyd yr
ystad i Elizabeth Lort, a briododd St Alexander Campbell o Gawdor. Bu
farw yn 1714, ac felly trosglwyddwyd yr ystad i deulu Campbell. Trawsnewidiodd
teulu Campbell y tyˆ , y gerddi a’r ystad. Dengys engrafiad
o 1758 dyˆ sgwâr enfawr. Erbyn 1782, roedd llynnoedd wedi’u
creu drwy godi argaeau ar draws y cymoedd islaw’r tyˆ , a chrëwyd
gerddi pleser, gardd â wal o’i chwmpas a Pharc Ceirw Newydd,
yn ychwanegol at yr Hen Barc Ceirw. Dilëwyd hanner deheuol pentref
Ystagbwll yn ystod y gwaith o adeiladu’r parc newydd hwn, gan olygu
bod croes y pentref canoloesol ar ei phen ei hun mewn parcdir. Adeiladwyd
tai haf a grotos hefyd, ac ar ei hanterth roedd Ystagbwll ymhlith y gerddi
gorau ym Mhrydain. Cafodd y plas a’r adeiladau cysylltiedig eu hymestyn
a’u gwella gan Syr John Wyattville, pensaer y Brenin, a Henry Ashton
yn yr 1820au. Daeth Ystagbwll yn un o ystadau pwysicaf y De, gan gwmpasu
dros 17,700 o erwau erbyn 1900. Yn 1962, gwerthwyd cynnwys y tyˆ
a chafodd yr adeilad ei ddymchwel yn fuan ar ôl hynny. Mae’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn berchen ar y rhan fwyaf o’r
gerddi a’r parcdir.
![PARC A GERDDI LLYS YSTAGBWLL](images/stackpolecourt2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Parc a Gerddi
Llys Ystagbwll yn rhannu’r un ffiniau bron â’r parc
a’r ardd a gaiff eu cynnwys yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi ar
gyfer sir Gaerfyrddin, Ceredigion a sir Benfro. Mae’r Gofrestr yn
cynnwys disgrifiad llawn o’r safle. Tirwedd ystad yw hon ac mae’n
cynnwys sawl cwm cul sy’n cydgyfarfod ar yr arfordir yn Aberllydan,
a phocedi o dir gwastad uwchlaw’r cymoedd tua 30m – 35m yn
uwch na lefel y môr. Mae’r safle cyfan wedi’i dirlunio
i greu parciau a gerddi: codwyd argaeau ar draws y cymoedd i greu llynnoedd
a chafodd y tir gwastad ei fowldio i greu parcdir a gerddi. Wrth wraidd
yr ardal hon mae sawl llyn neu bwll lili addurniadol cul hir cydgloadol,
y mae’r gangen hiraf ohonynt yn rhedeg i ganol y tir o Aberllydan
am dros 2km. Mae llwybrau a thraciau yn cysylltu sawl pont garreg neu
sarn sy’n croesi’r llynnoedd. Mae llawer o ymwelwyr yn defnyddio’r
llwybrau hyn. Mae coetir collddail ar lethrau serth y cymoedd uwchlaw’r
llynnoedd. Mae Parc Ystagbwll, lle y ceir porfa wedi’i rhannu gan
ffensys gwifren, clystyrau o goed a lleiniau cysgodi i’r dwyrain
o’r ardal. I’r gogledd, mae llawer o goed yn y rhan fwyaf
o’r hen barc, gyda rhywfaint o borfa agored. Saif y gerddi addurniadol
a’r gerddi pleser i’r gorllewin o blas Llys Ystagbwll, a ddymchwelwyd
yn yr 1960au. Mae llawer o goed yn y gerddi pleser erbyn hyn. Yr ystad
fu’n gyfrifol am y mwyafrif helaeth o’r agweddau adeiledig
ac maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn bennaf.
Maent yn cynnwys y pontydd a’r sarnau y cyfeiriwyd atynt eisoes,
yn ogystal â gardd â wal o’i chwmpas, bwthyn garddwr,
bloc stablau, adeiladau gwasanaeth i’r de o’r hen blas, tai
haf a grotos. Mae ffermdy Sioraidd mawr Fferm y Plas gyda’i ystod
helaeth iawn o adeiladau fferm wedi’u hadeiladu o galchfaen ac wedi’u
trefnu’n ffurfiol (sydd wedi’u troi’n swyddfeydd, gweithdai
a chanolfan breswyl) wedi’u cynnwys yn yr ardal hon, yn ogystal
â Chei Ystagbwll a’r fferm ystad gyfagos o ddechrau’r
19eg ganrif ac ystod dda o adeiladau allan o amgylch iard (wedi’u
troi’n llety gwyliau). Mae llawer o’r adeiladau a’r
strwythurau hyn wedi’u rhestru. Waliau calchfaen wedi’u plastro
â morter yw’r prif fath o ffin – nodwedd amlwg o ystad
– ond mae waliau sych achlysurol a chloddiau ffin yno. Mae’r
rhan fwyaf o archeoleg sydd wedi’i chofnodi yn gysylltiedig â’r
ystad, y parc a’r gerddi, megis yr odyn galch gywrain yng Nghei
Ystagbwll. Cofnodir hefyd nifer o chwareli calchfaen a bryngaer, o’r
enw Fishpond Camp, ar esgair rhwng y llynnoedd.
Mae Llys Ystagbwll yn dirwedd barcdir nodweddiadol a
phwysig iawn. Mae’n gwrthgyferbynnu â’r tirweddau amaethyddol
cyfagos i’r gogledd, i’r dwyrain ac i’r gorllewin ac
â thywod chwyth Cwningar Ystagbwll i’r de.
Ffynonellau: Map degwm Plwyf Bosherston 1839; Cadw
2002; Davies 1946; Lloyd 1989; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyfrol 87
1782; Llyfr Mapiau Cawdor Cofnod Henebion Cenedlaethol 1787; Owen 1897;
Owen 1918; Rees 1932; map degwm plwyf Stackpole Elidor 1839 ; map degwm
plwyf St Petrox 1839; Thorpe 1978; Walker 1950
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |