![](../../shim.gif) |
TREFDRAETH
![TREFDRAETH](images/newport1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN 045292
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 85
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys
ardal adeiledig Trefdraeth. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemaes.
Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y
teulu Fitzmartin a sefydlodd eu castell yn Nyfer ar safle bryngaer o’r
oes haearn. Parhaodd Cemais ym meddiant Eingl-Normanaidd tan 1191 pan
gafodd ei ail-gipio gan Rhys ap Gruffudd. Atgyfnerthwyd Castell Nyfer
ganddo, ond byrhoedlog fu goruchafiaeth y Cymry oherwydd bu farw Rhys
yn 1197 ac yn yr un flwyddyn enillodd William Fitzmartin reolaeth dros
Gemais unwaith eto, Yn lle ailadeiladu amddiffynfeydd Nyfer, sefydlodd
Wiliam gastell newydd yn Nhrefdraeth (o bosibl cloddiau’r Hen Gastell
ger aber Nyfer) a sefydlodd dref newydd. Yn tua 1241, cadarnhaodd Nicolas
Fitzmartin mewn siarter freiniau a roddwyd i’r dref gan ei dad William.
Nid oedd blynyddoedd cynnar y dref yn hawdd i’r gwladychwyr newydd.
Yn 1215 dinistriwyd Castell Trefdraeth gan Llywelyn ap Iorwerth ac nid
ailenillodd y teulu Fitzmartin reolaeth tan tua 1230, ond yn 1257 dymchwelwyd
y castell unwaith eto, y tro hwn gan Llywelyn ap Gruffudd. Erbyn 1276-77
roedd y castell unwaith eto ym meddiant y teulu Fitzmartin a’i cadwodd,
yn ogystal â Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu
gan y teulu Audley. Mae gwaith cloddio a thirfesur wedi dangos i’r
dref gael ei gosod â lleiniau bwrdais yn wreiddiol - lleiniau adeiladu
hir - ar hyd y ddwy brif stryd, Long Street a Stryd Eglwys Fair a rhyngddynt
saif y castell, a elwir yn Hen Gastell bellach ar lannau aber afon Nyfer.
Ni pharhaodd yr eiddo ar y strydoedd hyn yn hir, efallai o ganlyniad i
ymosodiadau gan y Cymry, ac erbyn diwedd y 13eg ganrif, os nad cynt, gadawyd
y lleiniau bwrdeis hyn yn wag ac nis defnyddiwyd eto. Ail-sefydlwyd y
castell ar ei safle presennol yn edrych dros ben deheuol y dref, o bosibl
o ganlyniad i’r ymosodiadau yn 1215 neu 1257. Sefydlwyd rhwydwaith
o strydoedd newydd ac eglwys y plwyf, eglwys Santes Fair, yn yr un ardal
hefyd. Fodd bynnag ni ffynodd y dref, oherwydd mewn arolwg yn 1434 rhestrwyd
233 o leiniau bwrdais ond dim ond 76 o ddeiliaid bwrdeisiau. Erbyn 1594,
cofnodwyd 211 o leiniau, ond dim ond 44 a oedd wedi’u meddiannu,
a’r rhan fwyaf o’r rhain ym mhen deheuol y dref. Parhaodd
llawer o leiniau tai heb eu defnyddio tan ychydig cyn y cyfnod modern
fel y nododd Richard Fenton yn y 19eg ganrif - ‘the chasms in its
depopulated streets are filling up fast with buildings’. Yn amlwg
gwelodd Fenton y gwaith ailadeiladu sydd i’w weld yn y dref heddiw,
ar ffurf y tai niferus o ansawdd da a adeiladwyd yn y 19eg ganrif. Cafodd
y castell, a oedd wedi bod yn dadfeilio ers diwedd y cyfnod canoloesol
diweddar, ei ailfeddiannu yn 1859 a chafodd y porthdy ei droi’n
dyˆ ac ychwanegwyd rhagor o adeiladau. Er gwaethaf y dirywiad a welwyd
yn y dref, roedd gan Drefdraeth sawl diwydiant bach ond pwysig. Roedd
economi’r dref yn seiliedig ar amaethyddiaeth, pysgota a masnachu
arfordirol. Buasai Trefdraeth yn ganolbwynt i ddiwydiant llestri canoloesol
ac ôl-ganoloesol cynnar, ond yn y 16eg ganrif y daeth y dref i’r
amlwg fel porthladd masnachol pan allforiwyd brethyn a gwlân. O
ganlyniad, datblygodd diwydiant tecstilau sylweddol yn y gefnwlad o amgylch
y dref. Ymhlith yr allforion roedd hefyd gynnyrch y chwareli lleol niferus.
Roedd y dref hefyd yn adnabyddus am ei physgodfa benwaig. O ganlyniad
i siltio yn yr aber adeiladwyd cei newydd yn y Parrog, gyda chyfleusterau
adeiladu llongau, stordai ac odynnau calch. Bu’n ffynnu tan yn hwyr
yn yr 19eg ganrif - daeth 97 o longau i’r porthladd yn 1884 - ond
yn fuan wedyn dirywio a wnaeth. Ar y cyfan nid yw Trefdraeth wedi tyfu
y tu hwnt i’w therfynau canoloesol, ond adeiladwyd tai yn yr 20fed
ganrif mewn ardal fach o amgylch Cnwc-y-grogwydd, i’r gorllewin
o’r dref, ar safle crocbren ganoloesol (a safle crefyddol canoloesol
cynnar o bosibl). Mae’r economi yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif
wedi cael ei llywio’n bennaf gan hamdden, gan gynnwys clwb iotiau
ar y Parrog, a thwrisitaeth, gyda nifer o feysydd carafanau. Mae Trefdraeth
bellach yn ddewis atyniadol i brynwyr tai dosbarth canol, sydd wedi rhoi
gwedd sydêt i’r dref
![TREFDRAETH](images/newport2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Trefdraeth yn
cynnwys tai, gerddi, siopau, ysgol, ffyrdd a seilwaith arall y dref yn
bennaf, ond mae’n cynnwys caeau a darnau eraill o dir agored rhwng
yr ardaloedd adeiledig. Mae’r dref yn gorwedd ar lethrau esmwyth
yn wynebu i’r gogledd gan ymestyn i lawr hyd at lan ddeheuol aber
Nyfer. Saif y castell a’r eglwys ganoloesol ar dir uwch ym mhen
deheuol y dref. Mae canol y dref wedi datblygu o amgylch ffordd yr A487(T)
sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin a sawl stryd ymyl
gul sy’n ffurfio patrwm grid llac i’r gogledd ac i’r
de. Mae’r Parrog, sydd wrth ymyl yr aber, yn ganolfan eilaidd, sydd
bellach wedi’i chysylltu â’r dref ei hun drwy ddatblygiad
llinellol, a cheir datblygiad llinellol hefyd ar hyd ffordd yr A487(T)
a Stryd y Bont i’r gogledd-ddwyrain. Mae cynllun y dref fel ag yr
oedd ar ddiwedd y 12fed ganrif - 13eg ganrif yn dal i gael dylanwad cryf
dros y topograffi modern, ac mae llawer o dai wedi’u lleoli yn dynn
wrth ffryntiad y stryd o fewn lleiniau bwrdais canoloesol. Ailadeiladwyd
eglwys y plwyf, sef eglwys fawr groesffurf, yn helaeth ar ddechrau’r
19eg ganrif a chollwyd llawer o’r manylion canoloesol, ac eithrio’r
twˆ r gorllewinol hardd a adeiladwyd yn y 15fed neu’r 16eg
ganrif. Saif y castell yn un caeadle, gyda thyrrau drwm a phorthdy dau
dwˆ r, sy’n cynnwys gwaith maen sy’n dyddio o’r
13eg neu 14eg ganrif, gydag ychwanegiadau sy’n dyddio o’r
19eg ganrif. Mae hyn ynghyd â’r defnydd o garreg ddolerit
leol a charreg adeiladu glai ymhob adeilad bron yn rhoi nodwedd bensaernïol
unigryw a chryf iawn i Drefdraeth. Mae cymysgedd eithaf cyfartal o rendr
sment a cherrig noeth. Mae’r rendr ar lawer o’r tai wedi cael
ei dynnu ymaith yn ddiweddar i ddatgelu cerrig noeth, fel arfer cerrig
llanw heb eu trefnu mewn haenau. O edrych yn fanwl ar hyn gwelir bod y
garreg wedi’i gwyngalchu cyn ei gorchuddio â sment. Fel arfer
mae’r ddolerit lwydlas neu frown wedi’i threfnu mewn haenau
bras, gan roi ystyriaeth i liwiau gwahanol y cerrig, ac mewn rhai achosion
mae haenau o lechi yn rhoi ymddangosiad mwy ffurfiol i’r adeiladau.
Llechi modern wedi’u torri â pheiriant yw’r prif ddeunydd
toi, llechi nad ydynt yn dod o’r ardal leol. Yng nghanol y dref
mae’r rhan fwyaf o anheddau mewn terasau. Nid terasau sengl ydynt,
ond yn hytrach mae pob tyˆ wedi datblygu’n unigol o fewn ei
lain bwrdais ei hun, gan arwain at amrywiaeth mawr o adeiladau gwahanol,
o fythynnod unllawr brodorol i dai tri llawr wedi’u hadeiladu yn
y traddodiad Sioraidd. Fodd bynnag, tai deulawr yw’r mwyafrif, gyda’r
rhan helaethaf o enghreifftiau yn y traddodiad ‘Sioraidd’
cain, ac mae llawer wedi cadw manylion gwreiddiol megis pyrth, casys drysau
a ffenestri codi â ffrâm bocs. Mae eiddo masnachol, gan gynnwys
Gwesty’r Castell a Llwyngwair Arms, ser adeilad tri llawr, a chapeli
megis capel Ebeneser a chapel Bethlehem, oll yn dyddio o’r un cyfnod
ac maent wedi’u hadeiladu yn yr un traddodiad adeiladu â’r
anheddau. Mae’r arddull adeiladu debyg a’r defnydd o garreg
leol i’w gweld yn Ffordd Parrog ac ar y Parrog ei hun, ond yma mae
tai sengl yr un mor gyffredin â’r terasau. Mae’r defnydd
o garreg leol mewn waliau ymyl ffordd ac yn waliau gerddi hefyd yn nodwedd
amlwg o’r dref. Mae bron bob datblygiad modern wedi’i adeiladu
yn ail hanner yr 20fed ganrif neu’n ddiweddarach, gan gynnwys tai
sengl newydd ar gyrion y dref, ac ystadau bach o dai a byngalos ar ymylon
y dref yn ogystal â’r rhai yng nghanol hanesyddol y dref Mae
cyfleusterau sy’n gwasanaethu’r gymuned leol ac ymwelwyr megis
llyfrgell, ysgol newydd, meddygfa, meysydd parcio a swyddfa gwybodaeth
i dwristiaid yn y dref. Mae clwb iotiau modern ar y forwal garreg yn y
Parrog ac mae maes gwersyll a maes carafanau ar gyrion y dref. Mae caeau
bach wedi’u hamgylchynu gan dai yn rhoi naws wledig i rannau o’r
ardal hon, yn enwedig wrth ymyl yr aber. Porfa yw’r caeau hyn ac
maent wedi’u hamgáu gan gloddiau ac arnynt berthi sydd wedi
tyfu’n wyllt. Mae’r rhan fwyaf o’r archeoleg gofnodedig
yn ymwneud â’r elfennau o’r dref a ddisgrifir uchod
- y castell a’r eglwys - neu’r adeiladau eraill sydd wedi
goroesi megis melin sy’n dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif.
Mae safleoedd eraill megis nifer fach o odynnau calch sy’n dyddio
o’r 19eg ganrif yn dyst i bwysigrwydd y fasnach forwrol yn y gorffennol.
Mae Carreg Coetan Arthur, sef beddrod siambr neolithig, yn elfen hanesyddol
amlwg, sy’n rhywbeth anarferol mewn tref. Serch hynny erbyn hyn
mae yng nghysgod y tai modern cyfagos i ryw raddau.
Mae Trefdraeth yn ardal unigryw ac iddi ffiniau pendant.
Mae’n cyferbynnu â’r tirweddau cyfagos o ffermydd a
chaeau i’r gorllewin, i’r de ac i’r dwyrain a chydag
aber afon Nyfer i’r gogledd.
Ffynonellau: Bignall 1991; Browne a Percival 1992; Howells 1997; Lewis
1833; Ludlow 2000; Miles 1995; Murphy 1994; map degwm Plwyf Trefdraeth
1844; RCAHMW 1925
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |