Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Newport a Carningli>

 

ABER NYFER

ABER NYFER

CYFEIRNOD GRID: SN 054396
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 31

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern yn cynnwys parth rhynglanw aber Afon Nyfer. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemais. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Mae’r ardal gymeriad hon yn cynnwys fflatiau llaid ond hefyd ardaloedd bach o forfa heli, a ddefnyddiwyd ar gyfer pori garw tan y cyfnod modern. Fe’i hystyriwyd yn wastraff maenorol, ac yn 1278, cyhoeddodd Nicholas Fitzmartin siarter a oedd yn rhoi i fwrdeiswyr Trefdraeth hawl i bori cyffredin dros ‘all the marshland on both sides of the River Nevern as far as the bridge…. and the small island which is between the said bridge and the lord’s mill (by the castle) which is called New Mill’. Mae pont dros yr aber heddiw, a ffordd annosbarthedig drosti. Byddai gynt wedi cysylltu bwrdeistref Trefdraeth â thrioedd demên Fitzmartin ym Mryn Berry. Yn 1598, fe’i disgrifiwyd fel pont garreg, gyda chwe bwa, ond mae’n debyg iddi gael ei dymchwel yn fuan wedi hynny, a gosodwyd sarnau yn ei lle (sydd wedi goroesi hyd heddiw) a sefydlwyd fferi. Nid ailadeiladwyd y bont tan 1894, ac fe’i hailadeiladwyd yn yr 20fed ganrif. Nid yw lleoliad y ‘Felin Newydd’ yn hysbys. Tybir bod cei canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar Trefdraeth yn yr ardal hon, ar ymyl ogleddol y dref. Bu Trefdraeth yn ganolfan diwydiant llechi canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar, ond yn y 16eg ganrif mewn gwirionedd y dechreuodd y dref ddatblygu fel porthladd masnachu pan allforiodd brethyn a gwlân. O ganlyniad, datblygodd diwydiant tecstilau mawr yn y gefnwlad o amgylch y dref. Ymhlith yr allforion oedd cynnyrch y chwareli lleol niferus. Dengys siart o ‘Fae a harbwr Trefdraeth’, a luniwyd gan Lewis Morris yn 1748, gwrs yr afon, y fflatiau llaid a’r traethellau fwy neu lai fel y maent heddiw. Tua’r adeg hon, penderfynwyd rhoi’r gorau i’r hen gei oherwydd newidiadau yn y siltio yn yr aber a sefydlwyd cei newydd yn y Parrog, gyda chyfleusterau adeiladu llongau, stordai ac odynnau calch. Roedd Trefdraeth hefyd yn adnabyddus am ei physgodfa benwaig, a darddodd o’r cyfnod canoloesol fel hawl gyffredin i bysgota rhwng aber afon Nyfer a’i chydlifiad ag Afon Clydach. Yn yr ardal hon: cofnodwyd cored ‘on the water of Nevarne’ gyda ‘the free fishery there’ yn 1594 pan oedd yn werth 13s 4d y flwyddyn, a pharhaodd pysgota â rhwydi sân tan yr 20fed ganrif.

ABER NYFER

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys hydoedd llanw aber Nyfer, o lannau’r afon ger Trefdraeth hyd 2.2km i fyny’r afon. Nid oes unrhyw anheddau yn yr ardal hon. Ymhlith yr adeileddau mae Pont Trefdraeth, a ailadeiladwyd yn ddiweddar, a’i sarnau dynesu, ac odyn calch o’r 19eg ganrif. I lawr yr afon o’r bont mae’r aber yn cynnwys fflatiau llaid a darnau cul o forfa heli ar y naill ochr a’r llall ac ar y lan ddeheuol mae coetir prysgog. I fyny’r afon nodweddir yr aber gan welyau cyrs. Mae gwaith halen a llawr cloddio fflint cynhanesyddol wedi cael eu cofnodi yn yr aber. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd yr aber i lawr yr afon o’r bont.

Mae ffiniau pendant i’r ardal hon. Mae Trefdraeth yn gorwedd i lawr yr afon o’r bont ar y lan ddeheuol ac mae tir ffermio ffrwythlon ar y lan ogleddol. I fyny’r afon o’r bont mae llethrau coediog serth a thir ffermio ar y naill ochr a’r llall i’r aber.

Ffynonellau: Howells 1977; Miles 1995; map degwm Plwyf Nyfer 1843; map degwm Plwyf Trefdraeth 1844; Owen 1892; Rees 1932

MAP ABER NYFER

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221