![](../../shim.gif) |
HOLMHOUSE - TYCANOL
![HOLMHOUSE - TYCANOL](images/holmhouse.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN 043387
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 446
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys
y gwastadedd arfordirol rhwng Mynydd Carningli a’r clogwyni tua’r
gogledd, o amgylch Trefdraeth. Mae’n cynnwys caeau hirgul pedrongl,
o dir âr a thir pori, yn bennaf. Mae’r ffaith bod nifer o
gofebau, gan gynnwys maen hir a phâr o gerrig o bosibl, yn awgrymu
ei bod yn dirwedd ddefodol bwysig yn ystod yr oes neolithig a’r
oes efydd, a hynny o fewn golwg bryngaer Carningli, cofebau uwchdirol
eraill, a safleoedd arfordirol. Gorwedda’r ardal o fewn cantref
canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn
oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel
Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley.
Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a
grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a
rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Roedd y rhan fwyaf
o’r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn ffiniau bwrdeistref Trefdraeth,
sydd, yn ôl siarter yn 1278, yn rhannu yr un ffiniau fwy neu lai
â phlwyf Trefdraeth, ac roedd yn dir yr oedd gan y bwrdeiswyr hawl
tir comin drosto. Ymddengys nad oedd y bwrdeiswyr yn talu rhenti na thollau,
sydd o bosibl yn drefn a etifeddwyd o’r system deiliadaeth Gymreig
a fodolai cyn hynny. Ymddengys bod llawer o’r caeau yn yr ardal
hon yn llain-gaeau, ac fe’u darluniwyd felly ar fap yn 1758. Bryd
hynny i’r gorllewin o’r dref roedd y caeau yn dal heb eu hamgáu
ar y cyfan, gyda lleiniau hirgul yn ymestyn o’r dref i’r gorllewin
hyd at ffin y plwyf ac o’r môr i un neu ddau gan metr i’r
de o ffordd yr A487(T). I’r dwyrain o’r dref ac mewn ardaloedd
bach i’r gorllewin ymhlith y lleiniau gorweddai caeau bach, y mae
eu siâp hirgul yn dangos iddynt gael eu hamgáu o flociau
o nifer o lain-gaeau. Fodd bynnag, nid oes dim tystiolaeth glir mai caeau
agored âr oedd y llain-gaeau hyn. Yn wir, datgelodd gwerthusiad
archeolegol yn 2001 haen fas iawn o uwchbridd nad oedd yn dangos unrhyw
dystiolaeth iddi gael ei haredig dros gyfnod hir; at hynny cofnodwyd gan
Thomas Phaer, yn 1552, fod ardal Trefdraeth yn ‘bare in corn but
plenty enough in cattle’. Felly efallai mai rhaniadau tir yw’r
lleiniau hyn yn ôl mathau brodorol o ddeiliadaeth, fel yn y llain-gaeau
ym Mhenmaen Dewi a Phen Caer. Yng nghanol yr ardal, ochr yn ochr â
ffordd yr A487(T) - llwybr sy’n dyddio o’r canoloesoedd a
chyfnod cynharach - safai Capel Dewi, sef capel canoloesol i bereririon,
ond ymddengys mai anaml y mae capeli o’r fath yn gysylltiedig ag
unrhyw fath o anheddiad. Hefyd o fewn yr ardal gorweddai dau hen ddaliad
demên, a grybwyllwyd hefyd yn siarter 1278, y mae’r naill
a’r llall wedi’u hamgylchynnu gan glytwaith o gaeau mwy. Mae
demên Rhigian, ar wastadedd yr arfordir, yn gorwedd mewn cwm ac
mae’n cynnwys caeau o siâp afreolaidd. Mae Parc-y-marriage
yn gorwedd ar lethrau Carningli ac mae’n cynnwys caeau mwy rheolaidd
eu siâp, sydd o bosibl yn deillio o gyfnod diweddarach. Mae yna
gyfeiriad at Holmhouse, yng nghanol yr ardal, yn 1276 pan oedd ym meddiant
y bwrdeisiwr William Pecke, o Drefdraeth; yn ddiweddarach roedd yn dyˆ
bonheddwr ac mae wedi datblygu’n ddwy fferm erbyn hyn. Gorwedda
hwn hefyd o fewn ardal fach o gaeau bach ag iddynt siâp afreolaidd.
Mae’n debyg i Parc-y-marriage a Holmhouse gael eu sefydlu ar y ffin
rhwng y llain-gaeau a’r tir uwch heb ei amgáu i’r de.
Mae’r patrwm o lain-gaeau yn ymestyn hyd at blwyf Dinas, sef ffi
marchog yn y cyfnod canoloesol, a ddaliwyd gan Farnwriaeth Cemais drwy
ddeiliadaeth Gymreig. Yn yr adran hon mae daliad arall o’r enw Trewreiddig,
y mae ganddo ddyddiad canoloesol cofnodedig hefyd. Saif mewn lleoliad
tebyg i Holmhouse a Parc-y-marriage. Y cymysgedd hwn o lain-gaeau canoloesol
a ddaliwyd drwy ddaliadau cymunedol a demên gyda chaeau mwy rheolaidd
eu siâp sydd wedi creu’r patrwm caeau unigryw hwn yn yr ardal
hon. Dros y systemau cynharach hyn sefydlwyd ffermydd yn y 18fed ganrif
megis Ty-canol, a greodd gaeau mawr ac iddynt siâp rheolaidd o’r
llain-gaeau. Roedd y broses o amgáu tir a sefydlu ffermydd ar fin
dod i ben erbyn yr arolwg degwm yn 1844 a dyma beth sy’n cyfrif
am y dirwedd a welwn heddiw.
![HOLMHOUSE - TYCANOL](images/holmhouse2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn
cynnwys gwastadedd arfordirol tonnog. Mae’r tir yn tueddu i oleddfu
o’r de, o Fynydd Carningli, i’r arfordir gogleddol. Mae’n
dirwedd o gaeau a ffermydd. Tir pori wedi’i wella yw’r prif
ddefnydd tir amaethyddol, gydag ychydig o dir âr a hyd yn oed llai
o dir garw. Mae rhannau o’r ardal hon yn agored i’r gwynt
ac felly nid yw coed yn nodwedd ohonynt: ychydig o wrychoedd mawr sydd
ac yn yr unig goetir mae perthlysoedd bach prysgog o goed collddail mewn
pantiau a chymoedd cysgodol. Ymhlith y defnydd tir nad yw’n ymwneud
ag amaethyddiaeth mae gwersylloedd a meysydd carafanau. Mae ardaloedd
bach o gaeau hirgul yn dyst i’r ffaith mai llain-gaeau oedd rhannau
o’r ardal hon gynt. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gaeau
yn tueddu i fod yn fawr ac yn rheolaidd eu siâp. Cloddiau mawr â
wyneb carreg a gwrychoedd yn tyfu arnynt yw’r ffiniau. Yn gyffredinol
mae gwrychoedd wedi’u cynnal yn dda, gyda rhai enghreifftiau sydd
wedi tyfu’n wyllt yn y lleoliadau mwyaf cysgodol. Mae daliadau amaethyddol
yr ardal hon yn gymharol fawr, gyda’r mwyafrif wedi’u dosbarthu’n
rheolaidd ar hyd y llethrau mwy serth sy’n wynebu i’r gogledd
i’r de o ffordd yr A487(T) sy’n croesi o’r gorllewin
i’r dwyrain. Mae ffermdai ac anhedd-dai eraill mewn amrywiaeth o
arddulliau, wedi’u hadeiladau o garreg leol, ond yn aml wedi’u
rendro â sment, gyda thoeau llechi. Ar y cyfan maent yn dyddio o’r
19eg ganrif. Un eithriad yw’r hen reithordy, Gelli Olau, tyˆ
sylweddol tri llawr yn y traddodiad Sioraidd a adeiladwyd yn y 18fed ganrif.
Mae Pen-y-feidr, sef yr unig dyˆ tri llawr arall yn yr ardal, hefyd
wedi’i adeiladu yn y traddodiad Sioraidd cain, ond mae’n dyddio
o ganol y 19eg ganrif. Mae adeiladau amaethyddol cerrig yn gysylltiedig
ag ef, wedi’u gosod yn anffurfiol o amgylch y buarth. Mae rhai o’r
rhain yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif ac maent yn adeiladau deulawr,
mae eraill yn dyddio o’r un ganrif ond yn ddiweddarach. Ceir enghreifftiau
o dai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif yn y traddodiad brodorol ac yn yr
arddull Sioraidd. Ceir tai o’r 20fed ganrif hefyd. Mae gan y rhan
fwyaf o ffermydd un neu ddwy o resi o adeiladau allan o gerrig a adeiladwyd
yn y 19eg ganrif ac adeiladau amaethyddol dur, concrit ac asbestos a adeiladwyd
yn yr 20fed ganrif, ond nid yw’r rhain yn elfennau amlwg yn y dirwedd
fel y ceir mewn rhai ardaloedd tirwedd hanesyddol amaethyddol. Ceir sawl
pont hanesyddol fach ar hyd y brif ffordd, gan gynnwys enghraifft restredig
o 1811. Mae safleoedd archeolegol yn niferus ac yn amrywiol, ond nid ydynt
yn nodwedd gref o’r dirwedd hanesyddol, ac eithrio dau faen hir
o’r oes efydd a beddrod siambr neolithig Carreg-y-Gof. Ymhlith y
safleoedd eraill mae ffynnon sanctaidd, safle carreg arysgrifenedig o’r
oes dywyll a safle capel canoloesol.
I’r gogledd yn erbyn y llain arfordirol a Threfdraeth
mae ffiniau’r ardal hon yn eglur. I’r cyfeiriadau eraill mae’r
ardal hon yn ymdoddi yn yr ardaloedd cyfagos, ac felly nid oes modd pennu
ffin bendant iddi.
Ffynonellau: Ludlow 2001; Charles 1992; Jones 1996;
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llwyngwair Map 7 (1758), Map 8 (1758), Map
11 (1758); map degwm Plwyf Trefdraeth 1844; Owen 1897; Swyddfa Gofnodion
Sir Benfro HDX/18/1 (1809), HPR/33/33 (1772)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |