Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Maenorbyr >

Hafan Lydstep

HAFAN LYDSTEP

CYFEIRNOD GRID: SS 091983
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 28

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, yn cynnwys llethr yn wynebu i’r dwyrain i lawr i flaendraeth Hafan Lydstep. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai ym maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Fodd bynnag erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd John Adams wedi prynu’r ardal gymeriad hon gan sefydlu tyˆ bonheddwr, Tyˆ Lydstep ar lethrau yn wynebu tua’r dwyrain. Roedd hwn yn safle newydd. Ymddengys na fu unrhyw gysylltiad rhwng y tyˆ hwn a Phalas Lydstep, yr adeilad canoloesol diweddar ym mhentref Lydstep (gweler ardal gymeriad Lydstep). Dengys map y degwm o 1842 annedd fach ynghanol clytwaith o gaeau bach, rheolaidd. Bu Ty Lydstep ym meddiant y teulu Adams drwy gydol y rhan fwyaf o’r 19eg ganrif. Cafodd ei ailadeiladu a’i estyn ar ddiwedd y 19eg ganrif, pan gafodd y tir o’i amgylch ei ailfodelu’n barc bach a gerddi. Ychwanegwyd tri phorthordy oddeutu 1900-1910. Mae West Lodge, a’r fferm a godwyd ar ochr ddwyreiniol pentref Lydstep yn y 1840au-50au yn ardal gymeriad Lydstep. Prynwyd y parc a’r ty i’w defnyddio fel maes carafanau a chanolfan wyliau yn y 1960au ac maent wedi aros felly hyd heddiw.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Hafan Lydstep yn cynnwys y blaendraeth uwchlaw’r marc penllanw a’i chyffiniau hyd at ffordd yr A4139 tua 50m uwchben lefel y môr. Nodweddid y dirwedd hon gynt gan erddi tir ffermio Ty Lydstep, ond erbyn heddiw maes carafanau mawr yw ei phrif nodwedd. Mae Ty Lydstep, sef ty o ro chwipio mewn arddull Jacobeaidd o ddiwedd y 19eg ganrif a tho llechi yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r cyfleusterau i dwristiaid, ond cadwyd llawer o’r tu mewn gwreiddiol. Mae North Lodge a South Lodge a godwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif o galchfaen patrymog bras o dan doeau o deils coch yn ôl patrwm llyfr dylunio hefyd yn yr ardal hon, ond nid West Lodge, sy’n rhan o bentref Lydstep. Ar wahân i’r coetir o goed collddail ar y llethr serth uwchben y tyˆ , yr hyn a geir yng ngweddill yr ardal hon yw carafanau sefydlog, ffyrdd a llwybrau a seilwaith cysylltiedig. Yr unig archeoleg gofnodedig yw darganfyddiadau cynhanesyddol ar y blaendraeth sy’n gysylltiedig â dyddodion o fawn.

Mae Hafan Lydstep yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol benodol. I’r dwyrain mae’r arfordir yn ffin iddi ac i’r cyfeiriadau eraill mae pentref Lydstep neu gaeau a ffermydd.

Ffynonellau: Howells 1987; Lewis 1833; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro D/MW/2/165; map degwm Plwyf Penalun 1842



Map Hafan Lydstep

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221