Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Mae’r castell canoloesol
wedi’i leoli ar y naill ochr o’r dyffryn a’r eglwys
ganoloesol ar yr ochr gyferbyn yn nodwedd amlwg yn ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Maenorbyr. Rhwng y tai cerrig
a’r adeiladau eraill, a godwyd yn y 19eg ganrif yn bennaf,
sy’n ffurfio craidd y pentref bach ceir tai modern. Yn yr
ardal hon ceir ystadau tai bach a adeiladwyd yng nghanol yr 20fed
ganrif. |
|
Mae
Jameston yn bentrefan cnewyllol yn cynnwys craidd
o dai cerrig o’r 19eg ganrif ac anheddau modern, gyda ffermdai
ac adeiladau mawr sylweddol o’r 18fed ganrif ar ei gyrion.
Bu gynt yn bentref amaethyddol, ond mae’r rhan fwyaf o’r
adeiladau fferm wedi cael eu haddasu at ddefnydd preswyl. |
|
Mae
caeau hirgul wedi’u hamgáu gan gloddiau uchel â
wyneb cerrig a gwrychoedd yn tyfu arnynt, waliau cerrig morter a
waliau cerrig sychion yn nodwedd gref o ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
Llain-gaeau Manorbier Newton. Mae’r ffermydd
gwasgaredig ac adeiladau eraill wedi’u hadeiladu o gerrig
ac yn dyddio o’r 19eg ganrif ar y cyfan. |
|
Mae Llain Arfordirol
Freshwater East i Lydstep yn cynnwys clogwyni uchel, traethau
tywod bach a darn cul o dir ar ben y clogwyni y mae Llwybr Arfordir
Sir Benfro yn rhedeg drwyddo. Mae’r dreftadaeth adeiledig
yn cynnwys beddrod siambr neolithig, bryngaerau o’r oes haearn,
gosodiadau milwrol o’r Ail Ryfel Byd a hen chwareli cerrig. |
|
Mae
East Moor a West Moor yn ardal gymeriad tirwedd
hanesyddol amaethyddol digysgod sy’n cynnwys caeau mawr a
ffermydd gwasgaredig. Waliau cerrig morter neu gloddiau isel a gwrychoedd
yn tyfu arnynt yw’r ffiniau. Nid oes llawer o goed. |
|
Mae’r
adeiladau a’r gosodiadau milwrol o ddiwedd yr 20fed ganrif
ynghyd â bryngaer o’r oes haearn, oll wedi’u gosod
mewn tir pori, yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Gwersyll
Maenorbyr. |
|
Pentrefan
yw ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Lydstep. Mae
adeiladau o’r 19eg ganrif, dechrau’r 20fed ganrif ac
adeiladau modern yn sefyll y naill ochr a’r llall i adfeilion
mân Plas Lydstep a saif yng nghanol y pentref. Mae’r
defnydd o deils to coch (o dan ddylanwad ystad Lydstep yn ôl
pob tebyg) a’r calchfaen wedi’i naddu’n fras yn
nodwedd o’r pentref. |
|
Mae caeau
mawr rheolaidd a chloddiau a gwrychoedd neu waliau morter yn ffiniau
iddynt, ynghyd â ffermydd sylweddol yn nodweddu ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Norchard - Tarr. Mae ffermdai
ac elfennau canoloesol iddynt neu dai canoloesol adfeiliedig yn
agos iddynt yn nodwedd o’r ardal hon. |
|
Nodwedd
amlwg o ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Hafan Lydstep
yw’r maes carafanau modern, gydag ystad wledig yn cynnwys
Tyˆ Lydstep, porthordai a choetir yn ail elfen gref ohoni. |
|
Mae ffermydd
gwasgaredig sylweddol a chaeau o siâp rheolaidd a chloddiau
a waliau digysgod yn ffiniau iddynt yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd
hanesyddol Hill Farm - Baldwin’s Moor. Mae’r
rhan fwyaf o’r adeiladau yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif
neu ddechrau’r 19eg ganrif. Y deunydd adeiladu traddodiadol
yw calchfaen. |
|