![](../../shim.gif) |
![Lydstep](images/lydstep.jpg)
LYDSTEP
CYFEIRNOD GRID: SS 085983
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 6
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Benfro, yn cynnwys
pentref adeiledig Lydstep. Mae enw Lydstep yn deillio o Hafan Lydstep,
yn hytrach na’r ffordd arall. Tarddiad Sgandinafaidd sydd i’r
enw gan awgrymu bod yr ardal yn gyfarwydd i forwyr o Norwy ac efallai
eu bod yn hyd yn oed byw yma yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Fe’i
cofnodir gyntaf fel ‘Loudeshope’ yn 1362. Yn ystod y cyfnod
canoloesol, gorweddai ym maenor Eingl-Normanaidd, Maenorbyr (a Phenalun)
a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd,
drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef
rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth
yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau
Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth
gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl
i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd
Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen
cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r
teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr
20fed ganrif. Ymddengys bod yr ardal o amgylch Lydstep yn weddol bwysig
yn ystod y cyfnod cyn y Goncwest Eingl-Normanaidd, o leiaf yn ymwybyddiaeth
ddiwylliannol Dyfed. Mae dogfen o’r 11eg ganrif, y dywedir iddi
fod yn gopi o ddogfen wreiddiol o’r 6ed ganrif, yn rhestru sawl
lleoliad yn yr ardal y mae un ohonynt, sef ‘Pwll Arda’ wedi’i
nodi gyda phetruster fel Lydstep. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth
ar hyn o bryd i gefnogi’r traddodiad bod Lydstep yn ganolfan i ‘Frenin
Dyfed’ Aircol Lawhir yn y 6ed ganrif. Eto i gyd, dangoswyd ei bod
yn dal i gael ei hystyried yn bwysig oherwydd ei swyddogaeth wedi’r
Goncwest fel man cyfarfod. Cofnodir yn yr 16eg ganrif bod rhydd-ddeiliaid
maenor Maenorbyˆ r a Phenalun oll yn talu gwrogaeth bob pythefnos
yn llys ‘Langstone’. Dadleuwyd bod hwn yn fan cyfarfod awyr
agored, mewn cae hannergylch o amgylch maen hir o’r oes efydd ar
y ffin rhwng Maenorbyˆ r a Phenalun, ychydig i’r gogledd o’r
adeilad canoloesol diweddar o’r enw ‘Plas’ Lydstep.
Dadleuwyd hefyd bod y Plas wedi disodli’r cae fel y llys. Mae’n
debyg bod yn y pentref adeilad cerrig arall o’r cyfnod canoloesol
hwyr, o’r enw ‘y Palas Arfau’. Yn 1362, roedd ‘John
of Lydstep’ yn dal ffi marchog John Carew yn Jeffreyston. Fodd bynnag,
mae’n bosibl na chafodd Lydstep ei sefydlu’n ffurfiol fel
anheddiad maenorol neu bentrefan. Eto i gyd, yn ôl arolygon manwl
o 1601, 1609 a 1618 roedd 3 rhydd-ddeiliad yn Lydstep, a dalai eu rhenti
mewn arian parod, ac a roddai rosyn yn ôl y ddefod. Ni restrir unrhyw
denantiaid eraill, ac nid oes unrhyw arwydd o’r eiddo arall yn y
pentref. Yna mae’n bosibl bod anheddiad presennol Lydstep wedi’i
greu yn y 17eg ganrif ac yn ddiweddarach ar y cyfan. Nid yw ei ffurf yn
awgrymu fawr ddim cnewyllyn ac yn sicr dim elfennau cynlluniedig. Erbyn
diwedd y 18fed ganrif roedd ystad Norchard wedi prynu’r ardal lle
saif ochr ogleddol pentref Lydstep heddiw. Dengys mapiau o’r ‘Demesne
and Lordship of Norchard’ o 1772 a 1774-5, glwstwr llac o bump neu
chwech o adeiladau yn y pentref, gan gynnwys Plas Lydstep. Ceir darlun
tebyg yn arolwg y degwm yn 1841. Roedd unrhyw bwysigrwydd a berthynai
i Blas Lydstep wedi diflannu erbyn dechrau’r 19eg ganrif. ond roedd
ei ddefnydd fel annedd wedi parhau; mae map y degwm yn dangos yr adeilad
a’r cae yr oedd yn sefyll ynddo fel ‘cottage and garden’
a ddaliwyd gan denant o’r enw Thomas Lewis. Ymddengys na fu erioed
gysylltiad rhwng Plas Lydstep a Thy Lydstep, plasty ar lan Hafan Lydstep
sy’n sefyll hyd heddiw, yr oedd y teulu Adams yn byw ynddo yn y
19eg ganrif (gweler ardal gymeriad Hafan Lydstep). Codwyd ei fferm ar
ochr ddwyreiniol pentref Lydstep yn y 1840au-50au. Dengys mapiau dilynol
ychydig iawn o newid ym maint a morffoleg y pentref. Cafodd West Lodge
Ty Lydstep a’r tai o’r 20fed ganrif eu hadeiladu bob yn dipyn.
![Lydstep](images/lydstep2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach hon
yn cynnwys pentref Lydstep yn unig. Gorwedda tua 50m uwchben lefel y môr,
tua 1km o’r arfordir. Clwstwr o adeiladau heb eu cynllunio ar hyd
ffordd yr A4139 ydyw yn y bôn. Calchfaen lleol yw’r prif ddefnydd
adeiladu. Gorwedda Plas Lydstep, sef adeilad cerrig cromennog o’r
cyfnod canoloesol diweddar, a oedd wedi mynd yn adfail ond sydd wedi cael
ei ddiogelu’n ddiweddar, yng nghraidd y pentref. Mae adeiladau o’r
19eg ganrif yn rhai cerrig gyda thoeau llechi, gan gynnwys nifer fach
o dai deulawr a hen adeiladau amaethyddol. Er bod y tai wedi’u hadeiladu
yn y traddodiad brodorol, mae eu ffenestri mawr a chymesuredd eu cynllun
yn dangos ôl dylanwad yr arddull Sioraidd gain. Fodd bynnag, prif
nodwedd y pentref yw’r toeau teils coch a’r defnydd o galchfaen
wedi’i naddu’n fras mewn adeiladau o ddechrau’r 20fed
ganrif. Mae’n debyg mai ystad Lydstep oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r
arddull hon i’r pentref, efallai yn sgîl adeiladu West Lodge
mewn arddull ‘Arts and Crafts’ yn 1912. Mae teils coch ar
y tafarndy, rhes fawr o hen adeiladau fferm sydd wedi cael eu troi’n
llety gwyliau, ac ar dai sydd wedi’u hadeiladu’n ddiweddar.
Yn yr enghraifft olaf mae rendr sment wedi’i baentio’n wyn
a manylion brics coch yn pwysleisio’r toeau o deils coch. Gellir
gweld dylanwad yr ystad hefyd yn y defnydd o galchfaen wedi’i naddu’n
fras mewn pyst clwydi a rhai waliau terfyn. Ymhlith yr adeiladau eraill
mae byngalos a godwyd yng nghanol yr 20fed ganrif. Mae mwy a mwy o dai
sengl modern yn cael eu hadeiladu i lawr y llwybr tuag at Dy Lydstep.
Mae hon yn ardal nodweddiadol a phenodol ac mae’n
gwrthgyferbynnu â’r dirwedd o ffermydd a chaeau a datblygiadau
gwyliau mewn ardaloedd cyfagos.
Ffynonellau: Charles 1992; King a Perks 1970; Kissock 1993;
Lewis 1833; Ludlow 1996; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Milne 2001; Llyfrgell
Genedlaethol Cymru 88; Owen 1892; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro D/MW/2/165,
D/Bush/26/6; Arolwg Ordnans 1:10560, sir Benfro. Taflen 44NW, 1888; map
degwm Plwyf Penalun 1842; Walker 1992
![Map Lydstep](images/maplydstep.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |