![](../../shim.gif) |
![Hill Farm - Baldwin's Moor](images/hillfarmbaldwinsmoor.jpg)
HILL FARM - BALDWIN’S MOOR
CYFEIRNOD GRID: SS 073976
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 152
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern sir Benfro rhwng Maenorbyr
a Lydstep, o fewn plwyf Maenorbyr. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai
ym maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth
fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog,
o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n
helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd
ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth
eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed
ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i
gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn
1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael
ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant
y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Mae’n dirwedd o gaeau canolig
o siâp rheolaidd, yn eithaf gwahanol i’r llain-gaeau yn ardal
gymeriad Manorbier Newton i’r gogledd. Mae’n bosibl bod y
llain-gaeau - yr ymddengys eu bod yn deillio o’r oes efydd - wedi
ymestyn i’r ardal hon gynt ond eu bod wedi’u colli. Byddai
tenantiaid o fewn yr arglwyddiaeth yn dal tir drwy rydd-ddaliad, a thrwy
ddwy fath o gopihowld o’r enw ‘daliadaeth hwsmonaeth’
a ‘daliadaeth sensori’, yr ymddengys eu bod yn greiriau o
ddeiliadaeth ffiwdal gynharach. Ymddengys o dystiolaeth y tri arolwg,
yn 1601, 1609 a 1618, bod yr ardal yn cynnwys dau ddaliad, Hill a Skrinkle.
Roedd Hill wedi’i ddal gan un tenant hwsmonaeth ac un tenant sensori.
Roedd Skrinkle wedi’i ddal gan un tenant sensori. Ymddengys mai
hen dir demên barwnol oedd y tiroedd sensori ar y cyfan, y gadawyd
iddynt ddirywio, drwy landlordiaid absennol ar ddiwedd y 14eg ganrif a’r
15fed ganrif. Felly mae eu hanes yn hollol wahanol i’r daliadau
hwsmonaeth yr ymddengys iddynt gael eu sefydlu o fewn llain-gaeau cymunedol.
Awgryma’r arolygon fod y tir heb ei amgáu ar y cyfan, ond
efallai fod y broses wedi dechrau. Ymddengys bod y system bresennol o
gaeau o faint canolig yn rhagflaenu’r caeau o ddiwedd y 18fed a’r
19eg ganrif, gydag ardal o dir wedi’i amgáu’n ddiweddarach
ym mhen dwyreiniol yr ardal. Roedd Hill yn cynnwys fferm sylweddol, gyda
tair ysgubor, thair ysgubor wair a beudy. Roedd Skrinkle yn cynnwys dwy
fferm sylweddol gyda 2 ysgubor, 2 ysgubor wair a 2 feudy. Cofnodwyd bod
y tir âr wedi cynyddu. Mae’n bosibl mai Baldwin’s Moor
heddiw oedd un o ffermydd Skrinkle. Fe’i nodwyd fel ‘Baldwin’s
Moor’ alias Skrinkle Lays’ yn 1766. Dengys mapiau ystad o
ddiwedd y 18fed ganrif, a map degwm 1842, yr ardal hon yn debyg iawn i’r
ardal heddiw, er bod ffermdy Skrinkle wedi symud o’i safle gwreiddiol
ymhellach i’r gorllewin. Llosgwyd calch ger Hill, ac yn ystod yr
Ail Ryfel Byd sefydlwyd maes awyr milwrol, ynghlwm wrth Wersyll Maenorbyr,
dros ran o’r ardal hon. Mae bron bob ôl o’r gwersyll
hwn wedi diflannu erbyn hyn. Saif maes chwarae ar ran o’r ardal.
![Hill Farm - Baldwin's Moor](images/hillfarmbaldwinsmoor2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol
rhwng clogwyni uchel yr arfordir a gwersyll milwrol i’r de, a phentref
Maenorbyˆ r, ffermydd a chaeau i’r gogledd. Gorwedda ar y gwastadedd
arfordirol tua 50m i 70m uwchben lefel y môr. Mae’n agored
i’r prif wyntoedd de-orllewinol o Fôr Iwerydd, ac felly nid
oes fawr ddim coed yn yr ardal ac mae’r gwrychoedd wedi’u
troi’n llinellau isel o lwyni anniben. O ganlyniad mae golwg agored
iawn i’r dirwedd. Eto i gyd, mae wedi’i rhannu’n gaeau
weddol fawr a rheolaidd, a chloddiau isel â wyneb cerrig a waliau
morter yn ffiniau iddynt. Mae’r olaf mewn cyflwr gwael ar y cyfan.
Y defnydd tir amaethyddol yw tir pori wedi’i wella. Mae’r
adeiladau hyˆ n wedi’u hadeiladu o galchfaen lleol o dan doeau
llechi. Mae drychiadau naill ai wedi’u rendro â sment neu
wedi’u gadael yn noeth, gydag ychydig o enghreifftiau o lechi crog.
Mae’r tai yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r
19eg ganrif ar y cyfan, er bod manylion rhai ohonynt yn awgrymu bod rhannau
o adeiladu hyˆ n wedi cael eu hymgorffori ynddynt. Mae’r tai
hyn yn rhai deulawr ac wedi’u hadeiladu yn y traddodiad Sioraidd,
er bod gan rai nodweddion brodorol cryf, megis ffenestri bach, cynllun
anghymesur a simneiau mawr. Mae ty unllawr sy’n gysylltiedig ag
un o’r tai diweddarach hyn yn rhoi tystiolaeth uniongyrchol o draddodiad
adeiladu cynharach. Mae adeiladau fferm hyn yn gymharol fawr ac yn gymhleth,
ac maent wedi’u trefnu’n lled-ffurfiol o amgylch cyrtiau wrth
ymyl anheddau. Ceir enghreifftiau o adeiladau deulawr neu dri llawr. Ar
y rhan fwyaf o ffermydd mae ysgubor, beudy, cartws ac adeiladau eraill
gan awgrymu economi ffermio gymysg ar adeg eu hadeiladu ar ddechrau neu
ganol y 19eg ganrif. Mae un rhes o adeiladau fferm wedi cael eu haddasu
at ddefnydd nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth ac mae un arall yn
segur. Mae gan un fferm ystod fawr o adeiladau amaethyddol dur modern,
concrit ac asbestos. Mae hen ffyrdd milwrol o ganol yr 20fed ganrif, olion
gosodiadau cysylltiedig, a Hostel Ieuenctid dur a choncrit modern wrth
ymyl yr arfordir. Mannau darganfod o’r oes cynhanesyddol yw’r
unig archeoleg gofnodedig ac nid ydynt yn nodwedd o’r ardal.
Mae’r ffaith nad oedd fawr ddim gwrychoedd a choed
yn yr ardal hon yn ei gwneud yn wahanol i’r ardal amaethyddol gyfagos
i’r gogledd. I’r cyfeiriadau eraill mae ardaloedd cymeriad
tirwedd hanesyddol, y parth arfordirol, gwersyll milwrol a phentrefi yn
pennu ffiniau’r dirwedd hon yn eithaf manwl.
Ffynonellau: Charles 1992; map degwm Plwyf Maenorbyr
1842; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 88, Map Pictwn 11, Castell Pictwn
Cyf 4; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro HDX/945/2; Walker 1992
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |