Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Maenorbyr >

EAST MOOR A WEST MOOR

EAST MOOR A WEST MOOR

CYFEIRNOD GRID: SS 046989
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 453

Cefndir Hanesyddol

Ardal o fewn ffiniau modern sir Benfro, rhwng Maenorbyr a Hodgeston. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal yn gorwedd o fewn plwyf Maenorbyr. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorwedda o fewn maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Mae’n cynnwys tirwedd o gaeau rheolaidd o faint canolig, sy’n wahanol iawn i’r llain-gaeau yn ardal gymeriad Manorbier Newton i’r gogledd. Dichon fod y lleiniau - yr ymddengys eu bod yn dyddio o’r oes efydd - yn ymestyn dros yr ardal hon gynt ond maent wedi cael eu colli oherwydd arferion ffermio gwahanol. Yn ôl cofnod o 1582, bu llawer o’r ardal hon yn rhan o dir demên barwnol y gadawyd iddo ddirywio, oherwydd landlordiaid absennol ar ddiwedd y 14eg a’r 15fed ganrif. Yn wir, ym mhen dwyreiniol pellaf yr ardal roedd Parc Castell Maenorbyr. Erbyn dechrau’r 17eg ganrif roedd y demên yn cael ei osod ar rent ar y cyfan. Roedd tenantiaid o fewn yr arglwyddiaeth yn dal tir drwy rydd-ddaliad, a thrwy ddau fath o gopihowld o’r enw ‘daliadaeth hwsmonaeth’ a ‘daliadaeth sensori’. Roedd y rhan fwyaf o’r ardal gymeriad hon, yn debyg i hen diroedd demên eraill, yn ddaliad(au) sensori a oedd wedi’u cynnwys o fewn Manorbier Newton at ddibenion asesu. Felly mae eu hanes yn wahanol i hanes y daliadau hwsmonaeth yr ymddengys iddynt gael eu sefydlu o fewn llain-gaeau cymunedol. Ymddengys o dystiolaeth y tri arolwg, a gynhaliwyd yn 1601, 1609 a 1618 fod y tir dal heb ei amgáu ar y cyfan, er mae’n bosibl bod y broses amgáu wedi dechrau. Erbyn adeg yr arolygon nid oedd dim adar hela na cheirw yn y parc, a oedd wedi cael ei rannu’n dri chae. Dros gyfnod y tri arolwg, ymddengys bod y daliad(au) sensori - a elwid yn ‘Calvesland’ yn cwmpasu tir gwael erbyn 1618, a dim ond 16 erw o dir âr, 4 ysgubor a 3 beudy a gofnodwyd. Fodd bynnag, cofnodwyd West Moor - fel ‘Moor’ fel daliad hwsmonaeth. Ymddengys nad yw East Moor wedi’i gofnodi, sy’n dystiolaeth bellach ei bod, o bosibl, yn deillio o ddemên. Erbyn yr 17eg ganrif mae wedi mynd yn dyˆ mân foneddigion pan oedd ym meddiant y teulu Lort o Ystagbwll, a aseswyd fel 7 aelwyd yn 1670 ac a ddisgrifiwyd gan Fenton, yn 1811, fel ‘one of the chief mansions of this district about 200 years ago’. Erbyn y 18fed ganrif roedd ym meddiant y teulu Owen o Orielton. Mae’r ardal gymeriad hefyd yn cynnwys systemau caeau tebyg yn y plwyf cyfagos, sef Hodgeston. Roedd hon yn arglwyddiaeth fên arall a ddelid gan Iarllaeth Penfro. Fe’i rhannwyd rhwng nifer o gyd-etifeddion ar farwolaeth Ieirll Marshall yn 1245, a pharhaodd ym meddiant y cydberchnogion nes dod yn rhan o ddaliadau Owen ar ddiwedd yr 17eg ganrif - dechrau’r 18fed ganrif. Mae’n bosibl felly bod y patrwm o amgáu wedi digwydd o dan ddeiliadaeth Owen, ar ddiwedd yr 17eg ganrif - dechrau’r 18fed ganrif. Ychydig iawn o fapiau hanesyddol o’r ardal hon sydd ar gael, ac mae’r rheini sydd ar gael megis map ystad o ddiwedd y 18fed ganrif a mapiau’r degwm o oddeutu 1840 yn dangos tirwedd sy’n debyg i’r dirwedd heddiw. Yn ogystal dengys mapiau’r degwm chwarela calchfaen ar raddfa fach ac odynnau calch i’r dwyrain i bentref Hodgeston.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol rhwng 30m a 50m ar y cyfan yn gorwedd ar wastadedd arfordirol de Penfro gyda chlogwyni uchel rhyngddi a’r môr. Tir pori wedi’i wella, gyda pheth tir âr a braidd ddim tir garw yw’r defnydd tir. Mae’n agored i wyntoedd de-orllewinol o’r Môr Iwerydd, ac felly ar wahân i’r coed a blannwyd i greu cysgod wrth ymyl tai nid yw coetir yn nodwedd o’r dirwedd. Yn wir, mae’r gwrychoedd sy’n tyfu’n drwchus ac sydd wedi’u cadw’n dda yn rhan ogleddol yr ardal hon yn troi’n raddol yn llinellau anniben o lwyni nes diflannu’n gyfan gwbl wrth ymyl yr arfordir yn nannedd y gwynt. Mae ffiniau yn gymysgedd o gloddiau â wyneb carreg a waliau â morter. Cloddiau a gwrychoedd yn tyfu arnynt sydd fwyaf cyffredin yn rhan ogleddol yr ardal hon. I’r de mae’r waliau yn fwy cyffredin, wedi dymchwel erbyn hyn ac wedi’u disodli gan ffensys gwifren. Mae caeau yn gymharol fawr ac yn sgwâr neu’n hirsgwar o ran siâp. Ffermydd gwasgaredig yw’r patrwm anheddu. Mae adeiladau hyˆ n bron i gyd yn dyddio o’r 19eg ganrif, wedi’u hadeiladu o galchfaen lleol (wedi’u rendro â sment neu’n noeth, er mae adeiladau fferm bron bob amser heb eu rendro), gyda thoeau llechi. Mae ffermdai yn amrywio o ran maint ac arddull, o dai deulawr Sioraidd o ddechrau’r 19eg ganrif, i dai deulawr brodorol â ffryntiad dwbl wedi’u hadeiladu yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif. Fodd bynnag, mae’r ffenestri mawr a chymesuredd y tai brodorol yn dangos ôl dylanwad yr arddull Sioraidd gain. Yn yr un modd mae adeiladau fferm yn amrywio, gyda rhesi mawr, weithiau wedi’u trefnu’n anffurfiol o amgylch iard sy’n gysylltiedig â’r adeiladau mwy, i un rhes sy’n gysylltiedig â thyˆ bychan, ar y pegwn arall. Mae adeiladau fferm ar rai o’r ffermydd llai wedi cael eu haddasu at ddefnydd nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth. Ar ffermydd mwy gwelir yn aml adeiladau amaethyddol o ddur modern, concrit ac asbestos. Nid oes llawer o anheddau modern yn yr ardal hon. Mae maes carafanau mawr a safle gwersylla. Mae ffordd yr A4139 yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ac mae nifer o lonydd yn croesi’r dirwedd. Mae ffiniau hanesyddol wedi cael eu diddymu ar hyd rhannau o’r A4139 ac yn eu lle mae ffensys wedi cael eu gosod. Nid yw safleoedd archeolegol cofnodedig yn nodwedd amlwg o’r ardal hon. Maent yn dod o dan ddau brif gategori, lloriau cloddio fflint cynhanesyddol ac odynnau calch ôl-ganoloesol.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol East Moor a West Moor yn rhannu llawer o elfennau tirwedd yr ardal (heb ei phennu eto) i’r gorllewin. O ganlyniad nid oes modd pennu ffin bendant yma. I’r cyfeiriadau eraill gellir gwahaniaethu’n glir rhwng yr ardal hon a’r llain-gaeau a phentref Jameston i’r gogledd, y llain arfordirol i’r de a phentref Maenorbyr i’r dwyrain.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Hodgeston 1840; Jones 1996; King a Perks 1970; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Map 5 Pictwn; Walker 1992

MAP EAST MOOR A WEST MOOR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221