|
240 Y MYNYDD DU
CYFEIRNOD GRID: SN 820228
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 14720.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy'n cynnwys mynyddoedd Y Mynydd Du/Mynydd Myddfai/Mynydd
Bach i gyd. Gorwedd y rhan fwyaf o'r ardal o fewn Cwmwd Perfedd yng Nghantref
Bychan, lle y goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid hyd ddiwedd y
cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern, ond
gorweddai ei rhan fwyaf dwyreiniol o fewn Arglwyddiaeth Brycheiniog. Erbyn
hyn mae'n weundir a mynydd agored sydd yn amlygu'n gyffredinol ffin bendant
â'r ardaloedd a rennir yn gaeau i'r gogledd, sy'n awgrymu cyfnod hir o
sefydlogrwydd - ers yr 16eg ganrif mewn mannau (Leighton 1997,29). Fodd
bynnag digwyddodd ymwthiad ad hoc a chlostiro seneddol ar hyd ei hymyl
gorllewinol pellaf. Mae llawer o'r ardal yn cynnwys mynydd-dir na chafodd
ei ddefnyddio'n helaeth gan ddyn, ond mae'r ardaloedd hynny o weundir
a gafodd eu defnyddio yn arddangos pum prif thema ar ddefnydd tir. O'u
dominyddu gan bori defaid ar yr ucheldir yn barhaus, maent yn cynnwys
dileu coetir naturiol a gyrhaeddai uchderau o 800m o'r cyfnod Mesolithig;
meddiannu a chlostiro rhannol ar y dirwedd yn y cyfnod cyn-hanesyddol,
a gweithgaredd defodol cyfoes; peth meddiannu anffurfiol ar yr ardal,
gyda thai hir, a'r clostiro rhannol a fu arno yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol;
gweithgareddau hamdden y 19eg a'r 20fed ganrif yn cynnwys hela (Leighton1997).
Mae rhan ogleddol yr ardal yn amlygu hanes mwy cymhleth. Yn y fan hon,
caiff mynydd Myddfai ei groesi gan y ffordd Rufeinig o Lanymddyfri (Alabum)
i Aberhonddu (Cicutio), gyda sefydlu dau wersyll gorymdeithio olynol a
orfodwyd yn y Pigwn. Hepgorwyd y ffordd yn ddiweddarach a ffafrio trywydd
yr A40(T) bresennol. Mae ail wersyll gorymdeithio yn gorwedd ar lwyfandir
y gweundir yn arosfa Garreg i'r de. Gorweddai llawer o Fynydd Myddfai
ar un adeg ym maenor Dôl Hywel a roddwyd i Abaty Talyllychau erbyn 1324
(Ludlow 1998). Maenor ucheldir ydoedd a weithredwyd fwy na thebyg gan
ffermwyr tenant. Ymwnâi yn bennaf â phori anifeiliaid ar y mynydd, ac
ymddengys ei fod i raddau pell iawn heb ei rannu'n gaeau yn y cyfnod hanesyddol,
fel y mae heddiw. Manteisiwyd ar yr ardal hon yn ddiweddarach ar gyfer
cerrig llechi ac roedd y rhes o chwareli a ddilynai'r brigiad yn gweithio'n
bennaf yn yr 18fed a'r 19eg ganrif. Mae ffordd porthmyn yn rhedeg o'r
dwyrain i'r gorllewin ar ymyl Arosfa Garreg o Langadog i Drecastell, a
cheir mawnfa fawr o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn bellach i'r de, cafodd
y ffordd y mae'n bosibl ei gweld o hyd, dros y mynydd o Frynaman i Langadog,
a fuasai'n llwybr porthmyn ôl-ganoloesol ei gwneud yn ffordd dyrpeg o
1779. Disodlwyd hi gan yr A4069 bresennol ond mae'n dal i oroesi fel llwybr
a'r enw 'Hewl y Bryn' (DAT a CPAT, 1997, 5). Nodweddir ymyl dwyreiniol
yr ardal gan nifer o dwmpathau gobennydd a all fod o darddiad ôl-ganoloesol
cynnar, er bod ffarmio cwningod wedi ei weithredu mewn ardaloedd cyfagos
ymhellach i'r dwyrain hyd ddiwedd y 19eg ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad eithriadol fawr hon yn cynnwys pob rhan o'r Mynydd
Du/Mynydd Myddfai/ Mynydd Bach sy'n gorwedd y tu allan i Ardal 239. Mae'r
holl ardal yn weundir agored. Mae'n cynnwys y darren uchel uwchben Llyn
y Fan Fach/Llyn y Fan Fawr a adwaenir fel Bannau Sir Gâr/Ban Brycheiniog
sy'n cyrraedd uchder o dros 800m. Fodd bynnag, mae'r ardal hon yn gyffredinol
yn gorwedd rhwng 250m a 600m o uchder. Mae olion manteisio gan ddynion
yn y gorffennol yn fach ond eto'n nodedig. Tomennydd claddu o'r Oes Efydd
sydd i'w gweld ar gopa'r rhan fwyaf o'r bryniau yw'r elfennau hynafol
mwyaf amlwg yn y dirwedd, ond ceir nifer o aneddiadau a adawyd ar draws
y mynydd, yn bennaf mewn cymoedd ac ar lefelau is. Mae'r rhan fwyaf yn
ôl-ganoloesol ond gallai rhai fod yn gynharach. Cysylltir hwy weithiau
gyda hen systemau caeau a chorlannau defaid. Ceir hefyd olion diwydiannol:
chwareli a thramffyrdd. Mae ffordd yr A4069, hen ffordd dyrpeg, yn croesi'r
mynydd o''r gogledd i'r de ac yn cysylltu dyffryn afon Aman diwydiannol
gyda'r gweithfeydd carreg galch a dyffryn afon Tywi. Er gwaetha'r holl
olion hyn mae'r dirwedd yn weundir agored amhoblogedig gyda thir garw
ar y lefelau isaf a mawnydd blanced ar y lefelau uchaf. Un o nodweddion
anarferol yr ardal hon yw ei ffin bendant gyda thir amaethyddol wedi ei
rannu'n gaeau i'r gogledd. Ymddengys fod hwn yn ffin wedi ei hir sefydlu
ac fe'i nodir ar y llawr am y rhan fwyaf o'i gwrs gan wal gerrig sydd
wedi dymchwel mewn mannau neu gloddiau caregog. I'r gorllewin a'r dwyrain
nid yw'r ffin rhwng gweundir agored yr ardal hon a thir amaethyddol caeëdig
agos mor bendant -mae ymwthiadau blaenorol wedi cymylu'r ffin.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn helaeth ac mae'n ymwneud
â'r defnydd tir a amlinellir uchod, yn cynnwys llwyfannau cytiau o'r Oes
Efydd, cylchoedd cerrig, cernydd copa a systemau caeau, y ffordd a'r gwersylloedd
Rhufeinig, tai hir ôl-ganoloesol cynnar a chlostiroedd anffurfiol, mawnfeydd
cyfoes, twmpathau gobennydd, chwareli cerrig llechi a'r nodweddion gweithgareddau
hamdden a'r gwylfannau o'r 19eg a'r 20 fed ganrif.
Nid oes adeiladau yn dal i sefyll.
Mae hon yn ardal nodedig iawn ac mae'n ffinio â thir ffermio
caeëdig a choedwigaeth. Dim ond i'r gogledd lle y mae'n ymdoddi gyda pharth
o weithfeydd diwydiannol ar y mynydd y mae ei ffiniau'n amhendant.
|