Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Y Mynydd Du a Myddfai

the Black Mountain Usk Reservoir Allt y Ferdre Cefntelych Cilgwyn - Llwynwormwood Maes-Gwastad Myddfai Llandeusant - Capel Gwynfe Blaensawdde Rhiwaiu Pen Arthur Plantation Trichug Dafadfa Trap Carreg Cennen Castle Cilmaenllwyd Upper Cennen Blaen Cennen Beddau y Derwyddon Banc Wernwgan - Foel Fraith Quarries Pentregronw Dyffryn Cothi Cefn Branddu DYFFRYN FANAGOED ALLT-Y-HEBOG ALLT Y BERTH CWRT-Y-CADNO CAEO FOREST BANC LLWYNCEILIOG DOLAUCOTHI GOLD MINES 253 DYFFRYN COTHI CAEO DOLAUCOTHI - PUMPSAINT Cynghordy Llangathen Nantgaredig - Derwen Fawr Llanarthne The National Botanic Garden of Wales Llangunnor Ystrad Carmarthen Croesyceilog - Cwmffrwd Abergwili - Llanegwad Parish Carmarthen Tywi Tidal Flood Plain Llangynog Llanfihangel Aberbythych Llandeilo Dryslwyn Dinefwr Park Allt Tregib Ystrad Tywi Garn Wen Carn Goch Garn Wen Craig Ddu Felindre Abermarlais Llansadwrn - Llanwrda Llandovery Cefngornnoeth Maes Gwastad Ystrad Tywi: Llangadog-Llandovery Llanwrda Parish Llandovery Llwynhowell Maesllyddan Fforest Nant-y-Ffin Nant y ffin Craig ddu Dinas Craig y Bwlch Cilycwm Rhandirmwyn

Crynodeb yw hwn, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

197 Mae ardal gymeriad Trap yn dir caeëdig sy'n cynnwys clostiroedd bach a phocedi o glostiroedd rheolaidd mwy o faint. Y patrwm anheddu yw un o dai a ffermydd gwasgaredig gyda chlwstwr o anheddau o'r 19eg ganrif a rhai modern ym mhentref Trap.

198 Gorwedd ardal gymeriad Cennen Uchaf ym mhen uchaf dyffryn afon Cennen sydd â llethrau serth coediog iawn, a thir wedi ei rannu'n gaeau gyda ffermydd gwasgaredig ar dir mwy gwastad.

199 Mae ardal gymeriad Beddau y Derwyddon yn ardal fechan o dir pori garw ac wedi ei wella wedi ei amgylchynu gan wal gerrig yn gwahanu gweundir agored oddi wrth dir caeëdig is a anheddir.

200 Gorwedd ardal gymeriad Dafadfa ar lethrau esmwyth sy'n wynebu'r gogledd ac mae'n cynnwys tir pori wedi'i wella wedi ei rannu'n gaeau canolig eu maint a lled reolaidd. Mae'r patrwm anheddiad yn un o ffermydd gwasgaredig iawn. Mae'r ffermdai a'r tai allan yn bennaf o'r 19eg ganrif ac wedi eu codi o gerrig.

211 Mae ardal gymeriad Blaensawdde yn gorwedd yn rhan uchaf dyffryn afon Sawdde wrth droed y Mynydd Du. Mae'n cynnwys ffermydd mawr gwasgaredig, caeau bach i ganolig eu maint a choedydd. Mae'r ffermdai yn dyddio'n bennaf i'r 18fed a'r 19eg ganrif ac maent yn gysylltiedig ag ystod eang o dai allan.

228 Ceir sawl cyn ystad yn ardal gymeriad Cilgwyn-Lllwynwormwood. Mae rhai o'r plasdai wedi goroesi, ond y prif ddylanwad ar y cymeriad hanesyddol gan yr ystadau oedd creu'r dirwedd parcdir.

229 Gorwedd ardal gymeriad Rhiwiau ar draws y gefnen. Er iddi fod wedi'i rhannu'n gaeau yn flaenorol mae llawer o'r hen gloddiau a gwrychoedd yn awr wedi dymchwel ac mae gwedd agored i'r dirwedd. Nid oes anheddau.

230 Mae ardal gymeriad Planhigfa Pen Arthur yn gorwedd ar draws cefnen uchel ac ochrau dyffryn afon Sawdde. Mae'n cynnwys coedwigaeth o'r 20fed ganrif a blannwyd ar gyn gaeau. Goroesa anheddau mewn cliriadau yn y blanhigfa.

231 Gorwedd ardal gymeriad Trichrug ar draws cefnen sy'n codi o ardal o dir amaethyddol cyfoethog. Er ei bod wedi ei rhannu'n gaeau gynt mae llawer o'r cloddiau a'r ffiniau cerrig wedi eu dymchwel ac mae'r ardal yn awr yn frodwaith o dir pori a wellwyd, tir pori garw, gweundir a phlanhigfeydd coniffer.

232 Gorwedd ardal gymeriad Myddfai mewn dyffryn agored ac mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau tir pori cymharol reolaidd. Mae pentref Myddfai gyda'i eglwys ganoloesol yn ganolbwynt i'r ardal.

233 Mae ardal gymeriad Llanddeusant-Capel Gwynfe yn cynnwys tir amaethyddol a Rannwyd yn gaeau, ffermydd gwasgaredig a choedydd collddail gwasgarog sy'n cyffinio â gweundir agored y Mynydd Du.

234 Gorwedd ardal gymeriad Cefntelych ar draws cefnen isel ac mae'n cynnwys tir pori wedi'i wella a rannwyd yn gaeau mwy o faint. Mae cloddiau'r caeau erbyn hyn bron i gyd wedi dymchwel, gan roi gwedd agored i'r dirwedd.

235 Gorwedd ardal gymeriad Maes-gwastad ar draws gwaelod dyffryn afon Brân ac mae'n cynnwys caeau mawr o dir pori wedi'i wella a rennir gan gloddiau cymen, ffermydd gwasgaredig ond heb fawr iawn o goedwigoedd na choed unigol.

236 Gorwedd ardal gymeriad Pentregronw ar lethrau serth sy'n gogwyddo tua'r de- orllewin ar ymyl y Mynydd Du. Er ei bod wedi ei rhannu'n gaeau gynt gan waliau a chloddiau mae'r ardal hon yn dychwelyd yn gyflym i fod yn weundir. Lleolir ffermdy a adawyd yn segur yn yr ardal hon.

237 Gorwedd ardal gymeriad Allt y Ferdre ar draws bryniau ac ochrau dyffryn serth iawn. Mae'n cynnwys yn ei chyfanrwydd dir coediog, yn goed collddail hynafol a phlanhigfeydd coniffer o'r 20fed ganrif.

238 Mae ardal gymeriad Fforest Glasfynydd - Cronfa Ddwr Afon Wysg yn cynnwys planhigfa goniffer o'r 20fed ganrif a chronfa ddwr o'r 20fed ganrif. Sefydlwyd y ddwy ar dir a oedd yn bennaf yn weundir agored.

239 Mae ardal gymeriad Banc Wernwgan - Chwareli Foel Fraith ar ymyl gogleddol y Mynydd Du. Gweundir agored ydyw. Elfennau amlwg yn y dirwedd hanesyddol yw olion y diwydiant cloddio am garreg galch.

240 Gweundir hollol agored yw ardal gymeriad Y Mynydd Du. Mae'n cynnwys copaon Bannau Sir Gar/Fan Brycheiniog ar uchder o dros 800m, ond yn bennaf mae'n Cynnwys tir pori garw a mawnogydd blanced rhwng 250m a 600m.

254 Mae ardal gymeriad Cilymaenllwyd yn cynnwys ffermydd a bythynnod gwasgaredig a chaeau eithaf rheolaidd o dir pori wedi'i wella. Mae'r ffiniau o gloddiau a gwrychoedd. Dyddia'r rhan fwyaf o'r ffermdai a'r adeiladau eraill o'r 19eg ganrif. .

255 Gorwedd ardal gymeriad Blaen Cennen ar ymyl gogleddol y Mynydd Du ac mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau tir pori.

256 Mae ardal gymeriad Castell Carreg Cennen yn cynnwys bryn carreg galch greigiog ac ar ei gopa lleolir olion sylweddol castell canoloesol

Project contact: Ken Murphy

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]