Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

239 BANC WERNWGAN - CHWARELI FOEL FRAITH

CYFEIRNOD GRID: SN 721187
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1378.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal dirwedd eithriadol fawr sy'n stribed â gogwydd dwyrain-orllewinol ar asgell ogleddol y Mynydd Du. Unwaith gorweddai oddi mewn i Faenor Gwynfe, Cwmwd Perfedd, Cantref Bychan yr ymosodwyd arno gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri yn 1110 - 16 (Rees n.d.). Yn fuan daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond dychwelodd yn ddiweddarach o dan reolaeth Gymreig. O 1282 ymlaen parhaodd yr arglwyddiaeth o dan reolaeth Seisnig ond goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid yn yr ardal hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Daliwyd hi yn ystod y cyfnod ôl?ganoloesol gan Fychaniaid Gelli Aur a Ieirll Cawdor (James n.d., 87). Mae yn awr yn weundir a mynydd agored. Mae'r ffin rhwng yr ardal hon a thiroedd caeëdig Ardaloedd 233 a 255 i'r gogledd wedi ei hir sefydlu a'i diffinio gan wal gerrig a /neu fanc, sy'n awgrymu cyfnod hir o sefydlogrwydd - ers yr 16eg ganrif mewn mannau (Leighton 1997,29) - heb ddim tystiolaeth o ymwthiadau ad hoc neu gau seneddol diweddarach. Y prif themâu sy'n dominyddu hanes y defnydd tir o fewn i'r ardal hon, sydd wedi ei dominyddu gan gyn chwareli carreg galch a phori parhaus gan ddefaid ar y tir uchel, yw y symud ar goedydd naturiol - sy'n cyrraedd uchder o 800m - o'r cyfnod Mesolithig ymlaen; anheddau a rhannu'r tir yn y cyfnod cynhanesyddol gyda gweithgaredd defodol cyfoes; yr anheddu anffurfiol yn yr ardal, gyda thai hir, a'i rhannu'n gaeau'n rhannol yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol ; a gweithgareddau hamdden y 19eg a'r 20fed ganrif yn cynnwys hela (Leighton 1997). Dwysaodd y gweithio calch, a ddigwyddodd ers o leiaf y cyfnod Canoloesol, yn ystod y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif a chyd-ddigwyddodd cloddio am silica ag ef. Derbyniodd y gweithgareddau hyn hwb pan gafodd heol y mynydd a oedd mewn bod, ac yn llwybr porthmyn ôl-ganoloesol o bwys, ei gwneud yn ffordd dyrpeg o 1779. Dilynwyd hon gan yr A4069 ond mae'n goroesi o hyd fel 'Heol y Bryn' (DAT a CPAT, 1997,5).

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal hon yn cynnwys y rhan honno o'r Mynydd Du sydd â daeareg carreg galch garbonifferaidd ac mae wedi bod yn lleoliad cloddio. Mae'n cynnwys llethrau ar ymylon gogleddol y mynydd sy'n wynebu'r gogledd ac sydd rhwng 300m a 600m o uchder. Mae'r ardal yn hollol agored ac yn dir pori garw a gweundir agored, gyda mawnydd blanced ar y tir uchel ac yn y pantiau. Mae olion y diwydiant cloddio carreg galch yn hollbresennol a'r rhain yw elfennau mwyaf amlwg y dirwedd hanesyddol. Chwareli a thomennydd sbwriel yw'r olion amlycaf, ond y mae nifer sylweddol o odynnau calch hefyd wedi eu gwasgaru ar draws y dirwedd. Hefyd yn gysylltiedig â'r cloddio y mae ffordd yr A4069 a 'Heol y Bryn' a godwyd yn wreiddiol i wasanaethu'r diwydiant cloddio carreg galch.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn helaeth ac mae'n perthyn i'r defnydd tir a amlinellir uchod yn cynnwys llwyfannau anheddau o'r Oes Efydd, cernydd copa a systemau caeau, tai hir ôl-ganoloesol a chlostiroedd anffurfiol, nodweddion cloddio'r garreg galch megis chwareli, odynnau a rhwydwaith helaeth o lwybrau a nodweddion gweithgareddau hamdden a gwylfannau o'r 19eg a'r 20fed ganrif.

Nid oes adeiladau yn sefyll.

I'r gogledd mae'r ardal hon wedi ei diffinio'n dda gan ei bod yn ffinio ag ardal o glostiroedd waliau cerrig a thir fferm caeëdig. Ar yr ochrau eraill mae'n ymdoddi i'r rhan fwyaf o'r Mynydd Du.