237 ALLT Y FERDRE
CYFEIRNOD GRID: SN 798335
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 339.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal eithafol afreolaidd o ran ei chynllun, sy'n cynnwys y llethrau
coediog sy'n ffurfio asgell ddeheuol Afon Gwydderig. Unwaith gorweddai
o fewn cwmwd Hirfryn, Cantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan yr Eingl-Normaniaid
o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees
n.d.), er iddi ddychwelyd o dan reolaeth Gymreig yn ddiweddarach. O 1282
ymlaen arhosodd Arglwyddiaeth Llanymddyfri o dan reolaeth Seisnig ond
goroesodd arferion tirddeiliadaeth cynhenid hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol
pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern . Yn ystod y cyfnod
ôl-ganoloesol fe'i daliwyd gan Fychaniaid Gelli Aur a Ieirll Cawdor (James
n.d., 87). Ceir ynddi fryngaer o'r Oes Haearn a gall ei fod wedi gosod
rhyw ymdeimlad o bwysigrwydd parhaus i'r ardal. Awgryma'r enw lle Ferdre
y gallai'r ardal fod wedi bod yn rhan o un o gyn stadau maerdref cwmwd
Hirfryn. Daliwyd stadau felly'n arferol gan denantiaid caeth a oedd yn
gyfrifol am y rîf ac yn atebol i'w llys cyfreithiol eu hunain, ac yn gyfrifol
am gynnal a chadw melin yr arglwydd, y llafur a chludo cynnyrch, yn dal
eu tir drwy etifeddiaeth gyda hawliau parhaol i'w daliadau (Rees,1924,200).
Ar hyn o bryd ychydig iawn o anheddiad sydd yn yr ardal, sy'n adlewyrchu'r
sefyllfa a welir ar fapiau hanesyddol. Mae peth o'r tir wedi'i rannu'n
gaeau, ond roedd y caeau llai afreolaidd yn gynharach - cofnodwyd glasleiniau
Canoloesol yng ngogledd yr ardal - a chaeau rheolaidd mwy o faint sydd
yn ddiweddarach. Mae llawer o'r ardal, fodd bynnag, heb ei rhannu'n gaeau
ar hyn o bryd, sydd, o bosibl, yn adlewyrchu'r defnydd hanesyddol, gan
ei bod mae'n debyg wedi cynnwys ochrau dyffryn coediog serth yn bennaf
a thir pori a oedd heb ei gau hyd ddiwedd yr 20fed ganrif pan gafodd conifferau
eu plannu. Mae'r ffordd rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri o'r A40(T) a wnaed
yn ffordd dyrpeg yn niwedd y 18fed ganrif yn ffurfio ymyl gogleddol yr
ardal yn rhannol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad Allt y Ferdre ar draws bryniau tonnog a llethrau
serth sy'n wynebu'r gogledd yn bennaf o ddyffryn Afon Gwydderig rhwng
110m a 240m. Mae'r ardal i gyd yn goediog. Mae rhai'n goedydd collddail
wedi eu hen sefydlu ar y llethrau serth, ond mae planhigfeydd conifferau
yn llanw'r gwagleoedd rhyngddynt i greu bloc o dir coedwigaeth afreolaidd
yn gorchuddio sawl cilomedr sgwâr. Plannwyd coed conifferaidd dros dir
a arferai fod wedi ei gau yn rhannol a gynhwysai gaeau rheolaidd ac afreolaidd.
Mae ffiniau caeau wedi goroesi o dan y coedwigoedd, ond prif hanfodion
tirwedd hanesyddol yr ardal sy'n aros yw lonydd a llwybrau'r blanhigfa.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn darparu haen ar ôl haen
o hanes ond fe'i cyfyngir i fryngaer o'r Oes Haearn sy'n goroesi fel cloddwaith
cofrestredig, a theras amaethu Ganoloesol.
Ychydig iawn o adeiladau a geir ac nid oes yr un ohonynt
yn nodedig.
Mae'r ardaloedd cymeriad tirwedd eto i gael eu diffinio
i'r dwyrain a'r gogledd. I'r gorllewin a'r de gorwedd ffermydd a chaeau
ardaloedd cyfagos.
|