|
233 LLANDDEUSANT - CAPEL-GWYNFE
CYFEIRNOD GRID:SN 761261
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 4778.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr iawn ar gyrion gogledd-orllewinol y Mynydd Du/Mynydd
Myddfai, yn gorwedd o fewn y Cwmwd Perfedd, Cantref Bychan gynt yr ymosodwyd
arno gan yr Eingl Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput
yn Llanymddyfri ym 1110 - 16 (Rees n.d). Yn fuan daeth i feddiant arglwyddi
Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond yn ddiweddarach
dychwelodd o dan reolaeth Gymreig. Ym 1282 daeth yr Arglwyddiaeth i feddiant
John Giffard ac wedi hynny arhosodd o dan reolaeth Seisnig (James n.d.,87)
ond goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol
pan y'i hymgorfforwyd o fewn y Sir Gaerfyrddin fodern. Mae gan yr ardal
gysylltiadau 'Celtaidd' cryf - awgrymodd bucheddau'r saint fod Sant Pawlinws,
athro Dewi Sant, yn ôl traddodiad, wedi sefydlu coleg mynachaidd yn yr
ardal gyffredinol, wedi ei chysegru i ddau sant (Sambrook a Page 1995,4);
mae cysegriad presennol eglwys y plwyf Llanddeusant i Sant Simon a Sant
Jwdas Sant, ond gallai fod yn adlewyrchu cyd gysegriad cynharach (Ludlow1998).
Yn hanesyddol, bu Capel Gwynfe yn gapel anwes i blwyf Llangadog, ond gall
fod system o ffiniau sy'n gyfochrog â'r eglwys efallai yn cynnal llinell
llan (Sambrook a Page 1995,5). Erbyn y cyfnod ôl-Goncwest roedd Ardal
233 wedi'i rhannu rhwng Maenor Ganoloesol Llanddeusant, a oedd yn gydffiniol
â'r plwyf eglwysig a Maenor Gwynfe. Gall y patrwm o gaeau bach afreolaidd
fod o ddyddiad cynnar, ac yn cynrychioli system o ddaliadau bychain gwasgaredig
a oedd wedi eu sefydlu erbyn amser arolygon y degwm yn nechrau'r 19eg
ganrif. Yn wir, mae'r ffin ddaearyddol rhwng yr ardal hon a gweundir agored
Ardaloedd 239 a 240 i'r de wedi ei diffinio'n dda gan wal gerrig, sy'n
awgrymu cyfnod hir o sefydlogrwydd heb dystiolaeth o ymwthiadau ad hoc.
Yn ystod y Canol Oesoedd diweddarach daliwyd Arglwyddiaeth Llanymddyfri
gan deulu Audley, ac yn y cyfnod Ôl-Ganoloesol gan Fychaniaid Gelli Aur
a Ieirll Cawdor (James n.d.,87). Cofnodwyd Coed Mawr a Llwynfron yn anheddau
teulu Aubrey yn y 16eg ganrif (Jones 1987, 40,121), roedd Pant Hywel,
Penrhiw a Phenycrug yn gartrefi i'r teulu Lewis (Jones 1987,142) ac roedd
teulu Lewis o Wynfe yn galw'u hunain yn 'Arglwyddi Gwynfe' (Jones 1987,
89-90). Fodd bynnag bu canlyniadau sefydlu teuluoedd bonedd yn llawer
llai eang o fewn i'r ardal gymeriad hon nag a fu'n gyffredinol o fewn
y rhanbarth ac ychydig o barcdir a phensaernïaeth fonheddig sydd i'w canfod.
Mae'r ardal yn cynnwys rhwydwaith o lwybrau porthmyn ôl-ganoloesol, ac
roedd y pwysicaf ohonynt yn mynd ar hyd dyffryn afon Sawdde o'r Mynydd
Du i Langadog; mae'r A4069 bresennol yn dilyn 'Heol y Bryn', ffordd i
bothmyn, a drowyd yn ffordd dyrpeg o 1779 (DAT&CPAT,1997,5). Mae'r pentrefi
cnewyllol presennol i gyd yn rhai diweddar; roedd datblygiad Gwynfe, er
enghraifft, yn cydredeg gyda sefydlu'r ffordd dyrpeg a âi heibio i'r eglwys
a ailgodwyd tua 1800 ac eto ym 1898 (Ludlow1998). Ni ddaeth Eglwys Llanddeusant
erioed yn ganolbwynt i anheddiad, a ddatblygodd yn hytrach o gwmpas llwybrau
ffyrdd, yn arbennig y croesffyrdd yn Nhwynllanan a Chross Inn (roedd tafarndy
yn yr olaf). Fodd bynnag yn yr achosion i gyd mae'r anheddiad yn ysgafn
ac yn wasgaredig.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae hon yn ardal gymeriad eithriadol fawr. Ymestynna rhyw 17km o'r de-orllewin
i'r gogledd-ddwyrain ar hyd ochr gogleddol y Mynydd Du, ac mae hyd at
5km o led, o'r de-ddwyrain i'r gogledd-orllewin. Mae'n cynnwys bryniau
eang a dyffrynnoedd dwfn serth, yn amrywio mewn uchder o 120m ar loriau'r
dyffrynnoedd i hyd at 300m ar bennau'r bryniau uchaf ac ar hyd ymylon
y Mynydd Du. Mae'r dirwedd hanesyddol yn cynnwys caeau bach afreolaidd,
ffermydd bychain gwasgaredig a choetir gwasgarog. Caewyd yr holl ardal
yn frithwaith o gaeau bychain gan gloddiau a gwrychoedd. Ar draws ardal
mor eang mae gwahaniaethau clir yn y rheolaeth ar gloddiau, ond yn gyffredinol
mae'r cloddiau mewn cyflwr da ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda, gydag
enghreifftiau o ddymchwel a thyfu'n wyllt yn digwydd fel arfer ar y mannau
uchaf ac ar hyd ymylon y Mynydd Du yn unig. Nodwedd drawiadol yr ardal
hon yw'r ffin glir rhyngddi a thir agored y Mynydd Du. Ar y llawr mae'r
ffin hon yn cael ei marcio am o leiaf ran o'i chwrs gan wal gerrig/ clawdd
cerrig. Canfyddwyd cloddiau cerrig yn hytrach na chloddiau pridd hefyd
yn agos at ffin y Mynydd Du, yn enwedig yn rhan uchaf gogledd ddwyreiniol
yr ardal. Mae'r defnydd tir yn amrywio ar draws yr ardal, ond yn bennaf
mae yn dir pori wedi ei wella gyda darnau o dir pori garw a thir brwynog.
Gorchuddir y rhan fwyaf o ochrau serth y dyffrynnoedd â choed collddail.
Mae hyn, ynghyd â choed nodedig mewn gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt,
yn rhoi ymdeimlad coediog i rannau o'r dirwedd. Mae ychydig o blanhigfeydd
coniffer bychain i'w canfod. Ar wahân i ffordd yr A4069, yr hen ffordd
dyrpeg a red o'r de i'r gogledd ar draws yr ardal gan gysylltu ochr ddeheuol
y Mynydd Du â dyffryn afon Tywi, mae'r cysylltiadau trafnidiaeth wedi
eu cyfyngu i nifer luosog o ffyrdd bach lleol, llwybrau a thraciau. Mae'r
anheddu yn yr ardal yn bennaf yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a thai eraill.
Mae'r ffermdai yn adeiladau deulawr, tri bae wedi'u codi o gerrig yn y
traddodiad brodorol, ac yn dyddio o'r 19eg ganrif. Mae'r adeiladau traddodiadol
a gysylltir â'r ffermydd hefyd o'r 19eg ganrif ac wedi eu codi o gerrig,
a thueddant i fod yn gymharol fach, yn aml wedi eu cyfyngu i un rhes yn
unig. Mae gan y rhan fwyaf o ffermdai gasgliad o adeiladau amaethyddol
modern. Gwasgarwyd adeiladau o'r 19eg ganrif gynnar, yn cynnwys hen dafarn,
yn y traddodiad Sioraidd bonheddig, yn agos at New Inn ar hen ffordd dyrpeg
yr A4069. Capel Gwynfe a Thwynllanan yw'r unig gwlwm o anheddau yn yr
ardal. Mae'r ddau yn eu hanfod yn bentrefannau bychain yn cynnwys clwstwr
llac o dai o'r 19eg ganrif wedi eu canoli ar gapeli, gyda datblygiadau
tai preswyl o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o ddeunyddiau ac
arddulliau. Saif capeli eraill o'r 19eg ganrif yn yr ardal mewn mannau
diarffordd fel y gwna eglwys ganoloesol plwyf Llanddeusant. Y tu allan
i'r ddau bentrefan mae'r datblygiadau eraill o ddiwedd yr 20fed ganrif
wedi eu cyfyngu i ambell dy neu fyngalo diarffordd.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd mewn ardal dirwedd mor eang
yn cynnwys amrediad eang o safleoedd o bob cyfnod. Fodd bynnag mae'r nodweddion
yn ymwneud yn bennaf â defnydd tir amaethyddol.
Ceir ychydig o adeiladau nodedig, ond mae'r rhan fwyaf
o'r tai hynaf wedi cael eu hailadeiladu, ac nid oes yr un ohonynt wedi
ei restru. Fodd bynnag mae Llwynfron, yn ffermdy bonedd bach yn tarddu
o'r 17eg ganrif. Mae Bedw-hirion yn dy tebyg yn dyddio o 1796, a Thy Brych
yn ffermdy bach o'r 19eg ganrif, i gyd yn destun ystyriaeth ar gyfer eu
hailrestru (Judith Alfrey, pers comm.). Mae Egwlys Sant a Sant Jwdas,
Llanddeusant yn eglwys Ganoloesol gyda thwr, yn adeilad rhestredig Gradd
B o bwys, ac mae'r Capel Gwynfe sydd heb ei restru yn dyddio o 1898 -
9, gyda thwr (Ludlow 1998) a neuadd eglwys o ddechrau'r 19eg ganrif (adeilad
eglwys blaenorol). Mae'r wal ffin rhwng yr ardal hon ac ardal 240 yn nodedig
ond bellach yn adfail.
Mae ffin yr ardal wedi ei diffinio'n dda yn erbyn y Mynydd
Du i'r de, ac yn erbyn planhigfa goedwigaeth i'r gogledd. Mewn mannau
eraill i'r gogledd rhwng yr ardal hon a't ardaloedd cyffiniol tueddir
i gael llain o newid graddol yn hytrach na border ymyl galed.
|