|
231 TRICHRUG
CYFEIRNOD GRID: SN 679222
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 786.10
Cefndir Hanesyddol
Crib de-orllewinol i ogledd-ddwyreiniol ar ochr dde-ddwyreiniol dyffryn
afon Tywi. Yn ystod y cyfnod hanesyddol gorweddai'r ardal o fewn Cantref
Bychan, a rennid rhwng dau gwmwd. Gorweddai hanner gorllewinol yr ardal
o fewn i gwmwd Iscennen, yn benodol o fewn Maenor Llys. Parhaodd Iscennen
mewn enw yn annibynnol ar yr Eingl Normaniaid hyd 1284 pan gafodd ei feddiannu
gan John Giffard ac ym 1340 daeth yn rhan o Ddugaeth Gaerhirfryn (Rees
1953, xv-xvi). Ymosodwyd ar weddill Cantref Bychan, yn cynnwys Cwmwd Perfedd
y gorweddai gweddill yr ardal hon o'i fewn gan yr Eingl Normaniaid o dan
arweinyddiaeth Richard Fitz Pons, a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym
1110-16 (Rees n.d.), ac yn fuan wedyn daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford
o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag bu sawl cyfnod
o deyrnasiad Cymreig a goroesodd arferion tenantiaeth cynhenid yno hyd
ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gafodd y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin
fodern. Dynodir y ffin rhwng y ddwy ardal o hyd gan gyffordd 'T' ar y
llwybr sy'n dilyn meingefn y grib yn yr hanner gorllewinol a ddangosir
fel llwybr gan Rees ar ei fap o dde Cymru yn y 14eg ganrif (Rees 1932).
Mae map Rees hefyd yn rhoi'r label 'Brenyae Forest' ar yr ardal hon, ac
yn wir ymddengys fod yr ardal, fwy na thebyg, yn dir heb ei gau yn ystod
y cyfnod Canoloesol ac wedi hynny. Roedd y patrwm o glostiroedd rheolaidd
mawr â ffiniau syth yn bodoli erbyn 1839 (Map Degwm Llanagadog) ond, fwy
na thebyg, wedi ei sefydlu'n ddiweddar; awgryma ei morffoleg fod yr hyn
a fu'n weundir gynt wedi'i rannu'n gaeau yn fwy diweddar. Digwyddasai
peth is-rannu erbyn 1891 (Archwiliad Ordnans 6" Argraffiad Cyntaf). Dominyddir
yr ardal gan ei harcheoleg gynhanes a oroesodd sy'n darparu haen ar ôl
haen o hanes. Mae'r safleoedd yn cynnwys grëp o domennydd crwn o'r Oes
Efydd a bryngaer o bosib o'r Oes Haearn. Mae'r tir uchel o fewn yr ardal
wedi ei dolcio â chyn chwareli, hwyrach rhai ôl-ganoloesol. Ychydig o
ddatblygu a fu'n ddiweddar.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad Trichrug yn gorwedd ar draws cefnen â gogwydd
de-orllewinol gogledd-ddwyreiniol. Ar ochrau'r gefnen mae'r ardal hon
yn disgyn i tua 200m, mae'r pegwn uchaf yn cyrraedd uchder o dros 400m.
Mae crib y gefnen yn codi o ychydig dros 200m yn y de-orllewin i'r pwynt
uchaf yn y pen gogledd-ddwyreiniol. Rhannwyd y gefnen gyfan yn glostiroedd
rheolaidd canolig a mawr eu maint, ond ar draws llawer o grib y gefnen,
ar y pegwn uchaf yn sicr, mae'r rhain wedi dymchwel, ond ar yr ochrau
maent yn goroesi er eu bod mewn cyflwr dirywiedig iawn. Mae ffiniau amrywiol
i'r caeau, yn gloddiau pridd a gwrychoedd, cloddiau caregog â gwrychoedd
weithiau a waliau cerrig sych. Ar grib y gefnen mae'r gwrychoedd naill
ai wedi diflannu neu wedi dymchwel, ond mewn mannau eraill maent mewn
cyflwr gwell ond yn gyffredinol maent wedi tyfu'n wyllt. Mae bron pob
un o'r waliau cerrig wedi dymchwel. Ffensys gwifren yw'r ffensys terfyn
i gadw da byw rhag crwydro. Ar y pwynt uchaf mae'r gefnen yn ei hanfod
yn cynnwys ardal fechan o weundir sydd heb ei rannu'n gaeau. Mewn mannau
eraill tir pori garw a thir pori sydd wedi ei wella yw'r prif ddefnydd
tir, er bod sawl planhigfa goniffer ganolig eu maint hefyd i'w cael yno.
Mae olion niferoedd o chwareli bach ar hyd y gefnen yn cynnwys elfennau
tirwedd pwysig. Mae twmpathau claddu o'r Oes Efydd hefyd yn nodweddion
amlwg o'r dirwedd. Ychydig o anheddu cyfoes sydd yn yr ardal gymeriad
hon.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog a phwysig, yn
cynnwys man darganfod Neolithig neu Oes Efydd, grwp o domennydd crwn o'r
Oes Efydd ac, ar ymyl yr ardal, maen hir o'r Oes Efydd. Ceir hefyd fan
darganfod o'r Oes Haearn neu Rufeinig, caer bosibl o'r Oes Haearn, chwareli
ôl-ganoloesol a chlostiroedd anhysbys.
Ychydig o adeiladau a geir ac nid oes yr un ohonynt yn
nodedig.
Mae hon yn ardal glir iawn oherwydd ei huchder cymharol.
Er hynny, nid yw ei ffiniau yn bendant gan fod clostiroedd mawr y gefnen
yn ymdoddi i gaeau llai a chyfoethocach y tir amaeth cyffiniol. I'r dwyrain
ceir ffin glir lle y mae'r ardal hon yn ffinio â thir coedwigaeth.
|