230 PLANHIGFA PEN-ARTHUR
CYFEIRNOD GRID:SN 717241
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU 281.10
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan ar lethr ogledd-orllewinol y Mynydd Du yn nyffryn
afon Sawdde . Roedd ar un adeg yn rhan o Gwmwd Pentref o fewn Cantref
Bychan yr ymosodwyd arno gan yr Eingl Normaniaid o dan arweiniad Richard
Fitz Pons, a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees n.d.). Yn
fuan daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth
Llanymddyfri ond goroesodd arferion tenantiaeth cynhenid yno hyd ddiwedd
y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern.
Gorweddai'r ardal yn is-adran bellach Maenor Gwynfe ac o fewn plwyf eglwysig
Llangadog. Mae'r clostiroedd afreolaidd canolig eu maint yn gwrthgyferbynnu
â'r clostiroeddd rheolaidd mwy eu maint i'r gorllewin - sy'n glostiroedd
o gyn-diroedd comin o'r 19eg ganrif - ac maent yn fwy na thebyg yn gynharach,
efallai'n ôl-ganoloesol. Mae dwy fferm, Pen Arthur a Phen Arthur Isaf,
is-adran o ddaliad mwy gydag enw diddorol, wedi eu cynnwys yn yr ardal.
Yn ychwanegol ceir dau enw lle Llety; mae dyffryn dwfn Afon Sawdde yn
llwybr cyswllt naturiol ac roedd yr A4069 yn ffordd porthmyn o bwys o'r
cyfnod ôl-ganoloesol. Sefydlwyd pownd neu gorlan efallai o amgylch y bont
ar afon Sawdde ym Mhont-ar-llechau, a ddaeth yn lle o gryn bwysigrwydd
ac yn lleoliad pentreflys (cwrt lît) Myddfai o bryd i'w gilydd. (James
n.d.,87). Daeth y ffordd yn ffordd Dyrpeg o 1779 (Lewis 1971,43) gan hybu
anheddiad masnachol pellach ym Mhont-ar-llechau gyda sefydlu dau dí-tafarn
(caewyd y ddau bellach), chwarel lechi a chyn ffatri wlân. Roedd ail ffatri
wlân yn sefyll gynt ar ben gorllewinol yr ardal yng Nglandër. Ni fu datblygu
diweddar ac mae'r ardal gyfan o dan goed planhigfeydd conifferaidd yr
20fed ganrif ddiweddar.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae planhigfa Pen-Arthur yn ymestyn dros ochr ddwyreiniol y grib
sy'n codi i uchderau o dros 300m a gorchuddia ochrau serth dyffryn afon
Sawdde. Cyn y planhigfeydd ceid sawl anheddiad gwasgaredig ac roedd yr
ardal yn ei chyfanrwydd wedi ei chlostiro yn glostiroedd canolig i fawr
eu maint. Mae cloddiau pridd a charreg y clostiroedd hyn wedi goroesi
o dan y planhigfeydd . Dengys tystiolaeth mapiau bod sawl annedd wedi
goroesi mewn llennyrch bychain yn y coedwigoedd - nid archwiliwyd y rhain
yn yr astudiaeth hon. Mae'r A4069 y ffordd dyrpeg gynt yn dilyn dyffryn
afon Sawdde ac felly aiff drwy'r ardal hon. Ar wahân i'r elfennau tirwedd
cynnar hyn, mae'r rhan fwyaf o'r elfennau hanesyddol yn cynnwys llwybrau
a lonydd a nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â choedwigaeth.
Darpara'r archeoleg a gofnodwyd y dirwedd â haneslin sy'n
cynnwys bedd siambr bedd Neolithig bosibl a chaer fynydd o'r Oes Haearn,
yn ychwanegol at y safleoedd ffatrïoedd gwlân ôl-ganoloesol a'r chwareli
llechi.
Nid oes adeiladau nodedig ond haedda'r cyn dai tafarn,
y Three Horseshoes a'r Coopers Arms ym Mhont-ar-llechau, sy'n gyfochrog
â chyn dollborth y dyrpeg, y bont, pownd (a chorlan?) gael eu nodi am
eu gwerth hanesyddol.
Mae'r ardal goedwigaeth hon wedi ei diffinio'n dda gan
y tir amaethyddol caeëdig cyffiniol a chan dir uchel lled agored.
|