200 DAFADFA CYFEIRNOD
GRID: SN 690209
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 339.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad ar wahân, yn gorwedd ar lethrau is y Mynydd Du yn wynebu'r
gogledd orllewin, a fu unwaith yn rhan o gwmwd Perfedd yng Nghantref Bychan,
yr ymosodwyd arno gan yr Eingl Normaniaid yn treiddio o'r dwyrain o dan
arweiniad Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16
(Rees n.d.). Yn fuan wedyn daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu
ond bu o dan reolaeth Gymreig am gyfnodau hyd 1276 pan y'i rhoddwyd i
John Giffard, marchog o Swydd Gaerloyw (Rees 1953, xv). Goroesodd arferion
tirddaliadaeth cynhenid yno hyd ddiwedd cyfnod y Canoloesoedd, ac erbyn
hynny, o leiaf, rhannwyd Perfedd yn ddwy faenor, gyda'r ardal gymeriad
hon yn gorwedd oddi fewn i Faenor Gwynfe. Ymddengys fod yr ardal wedi
cynnwys gweundir heb ei rannu'n gaeau a oedd yn cael ei ddal mae'n debyg
fel comin neu 'dir gwastraff' hyd y cyfnod ôl-ganoloesol pan sefydlwyd
y patrwm presennol o gaeau cymharol fawr rheolaidd. Rhoddodd corlan yng
ngogledd yr ardal eu henwau i ddwy fferm, Dafadfa Uchaf a Dafadfa Isaf
ac o ganlyniad gellir tybio ei bod yn gynharach na hwy; roedd y ffermydd
yn bod erbyn dechrau'r 19eg ganrif ac fe'u nodir ar yr Hen Gyfres Arolwg
Ordnans 1". Mabwysiadodd y dirwedd ei ffurf bresennol erbyn 1839 (Map
y Degwm Llangadog) ac ni fu fawr o newid ers hynny.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Dafadfa yn ardal gymeriad hirsgwar yn fras sy'n gorwedd ar lethr
fryniog donnog yn wynebu'r de rhwng 250m a 320m. Mae'r tir wedi ei rannu'n
gyfangwbl o dan system o diroedd clostirol canolig eu maint cymharol rheolaidd.
Ar y llethrau is mae'r caeau'n fychan a thueddant i fod yn afreolaidd
yn hytrach na rheolaidd; ar y lefelau uwch tueddant i fod yn fwy o faint
ac yn fwy rheolaidd. Rhennir y caeau gan gloddiau pridd a gwrychoedd arnynt.
Ar y lefelau uwch mae'r cloddiau'n tyfu'n wyllt ac yn cael eu hesgeuluso
gyda bylchau'n ymddangos ynddynt, ond ar y lefelau is gofelir amdanynt
yn dda yn gyffredinol. Mae ffensys gwifren yn atgyfnerthu pob clawdd.
Mae coed arbennig yn brin yn y gwrychoedd a chyfyngir y tir coediog i
ychydig o goedlannau eilaidd bychain a phlanhigfeydd ar y llethrau is.
Mae'r defnydd tir bron yn gyfangwbl yn dir pori sy'n cael ei wella gyda
ychydig o dir brwynog garwach. Mae patrwm yr anheddiad yn un o ffermydd
gwasgarog iawn a drwyddi draw mae'r patrwm anheddiad a'r cau tir yn dangos
tirwedd a gafodd ei haneddu yn y cyfnodau cymharol ddiweddar, efallai
yn y 18fed ganrif.
Cyfyngir yr archeoleg a gofnodwyd i'r gorlan a thwmpath
cerrig llosg o'r Oes Efydd.
Codwyd y ffermdai o gerrig gyda thoeau llechi; maent yn
dyddio o'r 19eg ganrif ac maent yn y traddodiad brodorol. Mae'r tai allan
cerrig hefyd o'r 19eg ganrif ac yn gymharol fach. Mae gan y rhan fwyaf
o'r ffermydd adeiladau amaethyddol modern mawr yn gysylltiedig â hwy.
Ceir hefyd gapel o'r 19eg ganrif.
Mae hon yn ardal gymeriad ar wahân. Cyferbynna â'r ardaloedd
i'r de, gorllewin a'r dwyrain sy'n cynnwys caeau bychain afreolaidd, tir
coediog a phatrwm anheddiad dwysach ond serch hynny'n wasgaredig, ac â'r
ardaloedd i'r gogledd, y gogledd ddwyrain a'r gogledd orllewin sydd â
phatrwm cau tir ac anheddiad llacach.
|