|
199 BEDDAU Y DERWYDDON CYFEIRNOD
GRID: SN 677182
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 37.60
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan sydd yn glostir wedi ei gwmpasu â wal garreg sych
galchfaen 400m o hyd, o'r gogledd i'r de a 1000m o'r dwyrain i'r gorllewin,
sy'n gorwedd mewn man lle y mae tir fferm a rannwyd yn gaeau a gweundir
y Mynydd Du yn cyfarfod. Roedd yr ardal unwaith yn rhan o Faenor Llys,
sy'n gorwedd yn rhan ddwyreiniol cwmwd Iscennen. Yn wahanol i weddill
Cantref Bychan, yr oedd yn rhan ohono, roedd Iscennen yn parhau mewn enw
yn annibynnol ar yr Eingl-Normaniaid hyd 1284 pryd y'i meddiannwyd gan
John Giffard. Ym 1340 daeth yn aelod o Ddugaeth Caerhirfryn (Rees 1953,
xv-xvi). Mae'r clostiro yn debyg o fod o darddiad Canol Oesol diweddar/
Canol Oesol diweddar cynnar ac yn cau gweundir a fu mae'n debyg yn dir
pori comin. Oddi mewn i'r clostir ceir nifer fawr o domennydd gobennydd,
sydd mae'n debyg yn gyfoed â'r tir caeëdig ac yn cynrychioli tyllau cwningod
cysylltiedig â naill ai Cwrtbrynbeirdd neu faenor Carreg Cennen (Ardal
197), maerdref Iscennen (Ardal 198) neu Gastell Carreg Cennen (Ardal 256)
- mae'r enw Pâl-y-cwrt sy'n digwydd o fewn yr ardal yn awgrymu'r cyntaf.
Mae'r wal a'r tomennydd gobennydd yn adfeiliedig ond wedi goroesi. Mae'r
gweithgaredd ar ôl hynny'n awgrymu cloddio a phrosesu'r garreg galch.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad Beddau y Derwyddon ar lethrau gogleddol y
Mynydd Du ar uchder o 320m, yn cynnwys gweundir wedi'i rannu a brigiadau
calchfaen creigiog. Mae'r wal gau carreg-sych mewn cyflwr gweddol am y
rhan fwyaf o'i hyd. Mae'r rhan fwyaf o'r tir yn dir pori garw, ond yn
y blynyddoedd diwethaf mae is-rannu'r rhannau is, gogleddol gan ffensys
gwifren wedi cydredeg gyda gwella'r tir pori. Mae ffordd un llwybr yn
croesi'r ardal lle y saif olion odynau calch a godwyd â phridd a cherrig.
Nid oes adeiladau, ond dynoda sylfeini llwyfan concrid bod rhyw ffurf
ar adeiladwaith wedi sefyll gerllaw'r ffordd yn ddiweddar. Mae'r archeoleg
gofnodedig yn cynnwys y wal, yr odynnau calch a'r safleoedd adeiledig
a grybwyllir uchod, a'r tomennydd gobennydd, sy'n Heneb Gofrestredig.
Ceir, yn ogystal, efallai o'r Oes Efydd, nifer o domenni crwn, tomenni
clirio cerrig, ac is-glosdir o natur anhysbys.
Ni cheir adeiladau eraill.
Mae'r ardal wedi'i diffinio'n dda gan y wal gerrig sy'n
ei hamgylchynu, ac mae'n sefyll mewn gwrthgyferbyniad clir i'r rhostir
agored i'r de, a thir fferm wedi'i rannu gan gloddiau pridd a gwrychoedd
i'r gogledd.
|