Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

198 UWCH CENNEN

CYFEIRNOD GRID: SN 683193
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 246.20

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan a leolir yn nyffryn uchaf Afon Cennen wrth droed y Mynydd Du, a oedd unwaith yn rhan o Faenor Llys a orweddai yn rhan ddwyreiniol cwmwd Iscennen. Roedd Iscennen, yn wahanol i weddill Cantref Bychan y gorweddai ynddo, yn parhau i fod mewn enw yn annibynnol ar yr Eingl-Normaniaid ac yn cael ei ddal o dan systemau tirddaliadaeth hyd 1284 pan gafodd ei feddiannu gan John Giffard. Ym 1340 daeth yn aelod o Ddugaeth Lancaster (Rees 1953, xv-xvi). Ardal 198 yw canolbwynt gwleidyddol y cwmwd, a gynrychiolir gan enwau ffermydd Ferdre Fawr a Fach, sy'n cynrychioli cyn-ystadau maerdref Castell Carreg Cennen a'r llys (Ardal 256). Yma, erbyn o leiaf 1284, gweithiwyd ystad fechan gan 13 o denantiaid caeth a oedd o dan reolaeth rif, yn atebol i'w lys cyfreithiol ei hunan, yn gyfrifol am gynnal a chadw melin yr arglwydd, y gwaith a chludo cynnyrch. Dalient eu tiroedd drwy etifeddiaeth gyda hawliau parhaol i'w daliadau (Rees, 1924, 200), ac hefyd, talent rent am Bedol (Ardal 240) a daliadau eraill o fewn y Mynydd Du, a ddengys, efallai, eu bod yn gyfrifol am dir pori'r haf i dda byw yr Arglwydd (Sambrook and Page 1995, 14). Mae'r enw ffarm gyfagos 'Rhandir' yn cofnodi'r broses rhannu tir. Ar ôl 1284, deisebodd taeogion y goron am gynnal eu hawliau i ffermio eu tiroedd etifeddol. Hwyrach, serch hynny, fod yr ystad wedi mynd i gytundeb ar sail y pâr presennol o ffermydd yn gynnar yn ei hanes. Mae'r patrwm o gau tiroedd yn debyg o fod yn perthyn o gyfnod o newid a ddilynai'r cyfnod rhannu tir; mae natur afreolaidd y caeau a'u maint bychan yn awgrymu, fodd bynnag, nad creadigaethau diweddar ydynt. Roedd y dirwedd bresennol yn bodoli erbyn o leiaf 1839, pan baratowyd map y degwm ar gyfer plwyf Llangadog.

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad Uwch Cennen yn cynnwys dyffryn serth afon Cennen a'i hisafonydd. Mae gwaelod y dyffryn yn gorwedd ar tua 150m, a'r ochrau'n codi i dros 200m. Ar yr ochr ddeheuol mae ochrau'r dyffryn yn serth, gyda rhannau o'r rheini ar yr ochr ogleddol yn glogwyni. Cuddir ochrau'r dyffryn yn drwm gan goed colldail. Mae'r tir yn dir pori a gafodd ei wella, a rannwyd yn gaeau bychain afreolaidd gan ggloddiau a gwrychoedd. Mae'r gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr da, wedi eu cynnal a'u cadw'n dda, er bod rhai wedi eu hesgeuluso ac wedi dymchwel; bydd ffensys gwifren yn ategu'r ffiniau clawdd i gyd. Mae'r ffermdai a wasgerir ar draws y dirwedd yn darparu'r patrwm anheddu ac maent yn gyffredinol yn dyddio o'r 19fed ganrif, yn frodorol ac yn anffurfiol. Ceir ychydig iawn o archeloleg a gofnodwyd mewn ardal sydd yn ardal gymeriad fechan; fe'i cyfyngir i ddau gloddwaith anhysbys o ran eu natur, safle darganfyddiadau o'r Oes Efydd a safle ffynnon posibl.

Nid oes unrhyw adeiladau arbennig. Mae'r ffermdai yn gyffredinol yn dyddio o'r 19eg ganrif, wedi eu codi â cherrig gyda thoeau llechi, yn adeiladau deulawr â thri bae ac yn y traddodiad brodorol. Mae'r tai allan mas cysylltiedig wedi eu codi o gerrig ac yn dyddio hefyd o'r 19eg ganrif, yn gymharol fach ac fel arfer wedi eu trefnu'n anffurfiol mewn perthynas â'r ffermdy.

Er bod hon yn ardal ddaearyddol ar wahân, mae ei hanfodion hanesyddol yn cael eu rhannu gydag ardaloedd cyfagos ac felly tuedda ei ffiniau i fod yn llain newid graddol, yn hytrach nag yn ffin ymyl galed.

Mae ardal gymeriad Castell Carreg Cennen yn eithriad gan fod ffin glir yn bodoli yno.