|
197 - TRAP
CYFEIRNOD GRID: SN 647185
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 634.30
Cefndir Hanesyddol
Ardal fechan o ran maint wrth droed y Mynydd Du, a oedd unwaith yn
rhan o Faenor Llys a lanwai ran ddwyreiniol cwmwd Iscennen. Roedd Iscennen,
yn wahanol i weddill Cantref Bychan yr oedd yn rhan ohono, wedi parhau
mewn enw yn annibynnol ar reolaeth Eingl-Normanaidd hyd 1284 pan y'i prynwyd
gan John Giffard. Ym 1340 daeth yn aelod o Ddugaeth Lancaster (Rees 1953,
xv-xvi). Gall fod Ardal 197 wedi bod yn rhan o ystad maerdref Carreg Cennen
(gweler Ardal 198); o leiaf yr oedd ty^ bonedd, Cwrtbrynbeirdd, wedi ei
sefydlu yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod canoloesol diweddar, sydd efallai'n
dangos dosraniad ystad fwy o faint. Mae Cwrtbrynbeirdd yn dy^ -neuadd
y preswyliodd Morris Owen ynddo yn y 15fed ganrif (Jones 1962, 259) a
gall fod cysylltiad rhyngddo â chau tir comin yn Ardal gyfagos 199 gyda'i
dyllau cwningod. Mae'r system amgylchynol o glostiroedd cromliniol canolig
eu maint yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth glostiroedd mwy afreolaidd gweddill
yr ardal ac mae'n bosibl bod y dirwedd wedi ei had-drefnu gyda sefydlu'r
ty^ a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o ystad Gelli Aur (Jones 1987, 17).
Roedd ty^ Carreg Cennen yn sefydliad de novo gan y nabob Thomas Wright
Lawford ym 1806, ac nid oes ganddo gysylltiad, ar wahân i'r enw, â Chastell
Carreg Cennen (Ardal 256), ond ymddengys ei fod yn sefyll ar safle plasdy
Canoloesol a berthynai i Abaty Talyllychau (Owen 1894, 35). Mae gan yr
ardal, fel llawer o blwyf Llandeilo Fawr nodwedd eglwysig iddi; roedd
tir mynachaidd pellach i'r dwyrain, a chapel Canoloesol (anwes i Landeilo
Fawr?) i'r de o Gwrtbrynbeirdd, a cheir mynwent gistiau i'r gorllewin.
Mae'n bosibl bod capel pellach yn bodoli gerllaw Trap lle y mae'r cnewylliad
presennol, fodd bynnag yn perthyn i'r 19eg ganrif ddiweddar a'r 20fed
ganrif; roedd y dirwedd bresennol wedi ei sefydlu erbyn yr amser pan baratowyd
map y degwm plwyf Llandeilo Fawr (1841), ond y felin a'r dafarn yn ymyl
y ffordd, y Cennen Arms, yw'r unig adeiladau a ddangosir yn Trap.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal Trap ar draws dyffryn agored afon Cennen islaw Castell Carreg
Cennen. Mae gwaelod y dyffryn yn gorwedd ar tua 100m tra bod yr ochrau
yn codi i dros 200m ar yr ochr ddeheuol gyda llawer brigiad carreg galch
carbonifferaidd. Mae'r ardal wedi ei chau yn gyfres o gaeau bach afreolaidd,
ar wahân i'r ochr ddeheuol yn agos at Gwrtbrynbeirdd lle y mae clostiroedd
mwy rheolaidd canolig eu maint yn bodoli. Cloddiau pridd gyda gwrychoedd
yw ffiniau y caeau i gyd, er bod ffensys gwifren yn ategu'r rhan fwyaf
o'r cloddiau. Amrywia'r cloddiau o ran eu cyflwr, ond tueddant i fod wedi
gordyfu. Mae gan rai ffermydd gloddiau sydd wedi eu cynnal a'u cadw'n
gymen. Mae tuedd bach i esgeuluso cloddiau ar y lefelau uwch. Mae gan
lawer o'r cloddiau goed nodedig a rhydd y rhain, a'r cloddiau sydd wedi
gordyfu a'r clymau bychain o goed collddail lluosog olwg goediog i'r dirwedd.
Mae sawl planhigfa o goed coniffer yn bod yn yr ardal. Tir pori yw'r defnydd
tir pennaf ac er bod llawer ohono wedi ei wella, mae sawl darn o dir brwynog
a heb ei wella ar lethrau'r dyffryn a gwaelod y dyffryn. Mae patrwm yr
anheddiad yn un o ffermydd a thai gwasgaredig gyda chlwstwr llac o dai
yn Trap. Mae'r tai a'r ffermdai gwasgaredig hefyd yn dyddio o'r 19eg ganrif
yn bennaf ac yn y traddodiad brodorol. Mae'r adeiladau o statws uwch a
mwy hynafol megis y ty^ mawr is-ganoloesol a'r un diweddarach yn Nghwrtbrynbeirdd
a'r ffarm yn Llwyndewi yn darparu rhagor o ddyfnder-cyfnod a rhagor o
haeniad cymdeithasol ac economaidd i'r dirwedd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai
allan o'r 19eg ganrif ac wedi eu codi â cherrig, ond mae adeiladau fferm
modern yn gysylltiedig â hwy.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dau dwmpath llosg
o'r Oes Efydd, ac o'r cyfnod Canoloesol, ceir mynwent cistiau ac o bosibl
ffynnon gysygredig. Mae'r nodweddion archeolegol ar hyd y bryncyn carreg
galch sy'n ffurfio ymyl ddeheuol yr ardal yn ymwneud yn bennaf â phrosesu
carreg galch megis chwareli, odynnau calch a gweithfeydd calch.
Ceir nifer o adeiladau nodedig. Mae olion y Capel Dewi
canoloesol yn rhestredig Gradd II Yn union i'r gogledd mae Cwrtbrynbeirdd
(Rhestredig Gradd II) sydd yn tarddu o'r 15fed a'r 16eg ganrif, gyda lansed
gorniog sengl a newidiadau diweddarach. Ty^ bonedd diweddarach yw Ty^
Carreg Cennen (Rhestredig Gradd II), y dechreuwyd ei godi yn 1806 ar sail
dyluniadau gan y pensaer S P Cockerell, ac mae'n enghraifft dda o dy gwledig
Sioraidd gyda neuadd risiau ryfeddol ac adeilad gwenynfa arbenigol rhestredig
Gradd II, ac mae wedi cadw ei brif nodweddion. Saif rhes ffurfiol o adeiladau
fferm o'r 18fed a'r 19eg ganrif yn Llwyndewi. Adeiladau o'r 19eg ganrif
yn bennaf yw'r rhai yn Trap, wedi eu codi â charreg a thoeau llechi gyda
thai yn y traddodiad brodorol a'r traddodiad Sioraidd cain. Rhwng y rhain
ceir anheddau o'r 20fed ganrif ddiweddar mewn amrywiaeth o arddulliau
a deunyddiau, er y gall y felin, fodd bynnag, fod o gyfnod cynharach a
cheir bocs ffôn K6. Mae'r tai a'r ffermdai gwasgaredig hefyd yn dyddio
o'r 19eg yn bennaf ac wedi eu codi o gerrig gyda thoeau llechi, ac er
bod llawer yn y traddodiad brodorol ac yn adeiladau deulawr â thri bae,
y mae enghreifftiau o'r arddull gain Sioraidd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai
allan ar y ffermydd o'r 19eg ganrif, wedi eu codi o gerrig gyda'r enghreifftiau
mwyaf sylweddol mewn trefn led-ffurfiol er yn aml maent yn un rhes yn
unig.
Mae'r ardal gymeriad hon er wedi ei diffinio'n dda i'r
de lle mae'n gorgyffwrdd â thir uchel sydd heb ei rannu'n gaeau, yn llai
diffiniedig ar yr ochrau eraill. I'r de, i'r dwyrain a'r gorllewin mae'r
ardaloedd cymeriad yn cynnwys nodweddion tebyg ac mae tuedd i gael llain
o newid graddol, yn hytrach na ffin ymyl galed, a'r eithriad yw ardal
gymeriad fechan Castell Carreg Cennen i'r dwyrain.
|