English

 

Diwyddiadau a Gweithgareddau

 

 

Adolygu’r Dystiolaeth

Y cam cyntaf wrth archwilio’r gorffennol yw casglu’r dystiolaeth ynghyd am y cofnodion a’r ffynonellau sydd ar gael. Drwy lwc mae cyfoeth o wybodaeth eisoes yn bod am hanes a thirwedd Dyffryn Tywi.


Arolwg Mynwent

Mae gan y meirw straeon i’w dweud wrthym o hyd. Ac felly y bu i fyddin o wirfoddolwyr lleol brwd fentro drwy’r mieri a’r danadl poethion i graffu’n ofalus ar bob carreg fedd unigol a chofnodi’r manylion oedd arnynt.


Cofnodi Cloddiau

Er mor oleuedig y gall ymchwil wrth ddesg fod, does dim yn cymharu â mynd ma’s yna I weld pethau drosoch chi’ch hunan. Mae gwrthrychau amrywiol fel gwrychoedd, cerrig beddau, adfeilion ac adeiladau sy’n sefyll yn bynciau diddorol i ymchwilio iddynt.


Ditectifs Tai

Pa mor aml y byddwch yn edrych ar yr adeiladau o’ch amgylch? Hynny yw, edrych o ddifrif? Cânt eu hanwybyddu mor aml, yn ddim ond cefnlen i’n bywydau prysur, yn gyfarwydd, yn gyson ond prin yn cael ail edrychiad. Ond cymerwch eiliad i gael golwg fanylach ac efallai y cewch eich synnu.


Profi'r Damcaniaethau

Mae gwerthusiadau fel gweithrediadau archwilio yn gyfle i brofi’r dyfroedd ac ennill gymaint o wybodaeth am y safle â phosibl gyda’r lleiaf posibl o amharu arno.


Deall Dyffryn Sy’n Newid

Afon Tywi yw un o afonydd mwyaf dynamig Cymru ac mae archwilio’r gwaddodion a gedwir ar lawr ei dyffryn yn datgelu hanes o erydu, dyddodi a gorlifo yn dyddio’n ôl i ddiwedd y rhewlifiant diwethaf. Mae’r archwilio hwn ar astudio gwaddodion gorlifdir yn dangos sut mae newid hinsawdd a gorchudd tir wedi effeithio ar ymddygiad yr afon yn ystod y milenia diwethaf.

Di-ddaearu'r Gorffennol

Cloddiad yn aml yw’r profiad cyntaf mae rhywun yn ei gael o fyd anhygoel archaeoleg – safleoedd poeth a llychlyd, crafu cyson y tryweli syncronedig a’r awyr ddisgwylgar o ddarganfyddiad ar fin cael ei wneud...


Rhyfel yn y Dyffryn

Wrth gwrs, nid oes rhaid i’r gorffennol fod ymhell yn ôl iddo fod yn ddiddorol dros ben. Mae digwyddiadau’r gorffennol agos iawn lawn mor afaelgar ac mae eu huniongyrchedd yn ychwanegu at eu dwyster. Mae clywed hanesion gan y bobl oedd yn eu byw yn fraint arbennig, gan eu bod yn rhoi synnwyr gwirioneddol o’r gorffennol.

Gwyl Garn Goch

Yng Nghorffennaf 2010 roedd y Garn Goch, bryngaer o’r Oes Haearn, uwchben Bethlehem, yn fangre ar gyfer achlysur rhad ac am ddim fel rhan o Wyl Genedlaethol Archaeoleg Prydain, a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.